Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch i Blaid Cymru a Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl heddiw. Os caf, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad i ehangu cwmpas y cynnig gwreiddiol i ffwrdd o effaith costau byw ar dlodi bwyd yn unig. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr ystod eang o ffactorau economaidd-gymdeithasol a all ddylanwadu ar allu person i gael gafael ar fwyd a pha fwyd y gallant ei gael, a'r pwynt olaf un a wneuthum yw'r un yr hoffwn ganolbwyntio arno'n benodol. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i drafod fel rhan o fy nghynnig ar gyfer Bil bwyd, a drafodwyd yma heb fod yn rhy hir yn ôl, ac rwy'n falch fod yr Aelodau wedi ei gefnogi.
Gwn ein bod i gyd yn cytuno bod tlodi bwyd yn gwbl annerbyniol ac nad oes angen iddo fodoli. Mae angen inni weld gweithredu gan bob Llywodraeth i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bawb, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Ond yng Nghymru gallwn wneud mwy. Mae angen inni wneud mwy—ac nid wyf am geisio dod o hyd i lawer o bobl i'w beio—oherwydd mae'r pethau hyn yn bethau y mae gennym bwerau i'w gwneud. Fel pobl yn y lle hwn, mae gallu gennym i wneud gwahaniaeth ac i wneud pethau. Mae geiriau cynnes yn iawn, ond gweithredoedd yw'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae gennym bŵer i wneud y pethau hyn.
Yn ôl yn 2016, dadleuodd adroddiad gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r cynnydd mewn tlodi bwyd, efallai'n fwy nag unrhyw faes polisi bwyd arall, yn dangos natur aml-ddimensiwn bwyd a'r heriau y mae hyn yn eu creu i lunwyr polisi.'
Credaf mai dyma pam y mae arnom angen strategaeth fwyd gyfannol, drosfwaol i Gymru—un sy'n dwyn ynghyd y dulliau gweithredu amrywiol. Mae llawer o sefydliadau trydydd sector ledled y wlad yn gwneud gwaith gwych, ond gallem ddod â hwy at ei gilydd mewn dull unedig sy'n ymdrin â'r problemau strwythurol yn ogystal â'r rhai economaidd-gymdeithasol. Oherwydd daw tlodi bwyd ar sawl ffurf; nid yw'n ymwneud â'r gallu i brynu bwyd yn unig, ond pa fwyd y gall person ei gael. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng y gallu i brynu bwyd brys a phrydau parod, er enghraifft, a'r gallu i brynu a defnyddio bwyd maethlon o ansawdd da. Dyma lle mae angen inni ystyried sut y gall pethau fel ysgolion a cholegau wella addysg bwyd, fel bod pobl yn gwybod sut i ddefnyddio bwyd mewn ffordd fuddiol, fel y trafodais yn gynharach y prynhawn yma gyda'r Gweinidog addysg.
Mae angen inni hefyd ystyried sut y gall cynhyrchwyr bwyd ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros sicrhau bod eu cynnyrch yn bodloni'r nodau llesiant, yn ogystal â sut yr awn â'r cynnyrch lleol, iach hwn i stondinau marchnad a silffoedd archfarchnadoedd. Dyma lle gall pethau fel cynlluniau bwyd lleol chwarae rhan. Ac oes, mae angen inni ystyried sut y gwnawn y bwyd yn fwy fforddiadwy a deniadol i bobl, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn gallu prynu'r bwyd yn y lle cyntaf.
I gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo bod fy sylwadau'n adeiladol. Yn y pen draw, mae gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol, fel y nododd Mark Isherwood wrth ddechrau, ond mae achosion tlodi bwyd yn gymhleth ac yn gysylltiedig yn anorfod â ffurf a swyddogaeth y diwydiant bwyd ei hun. Os ydym yn mynd i drechu tlodi bwyd o'r diwedd, dyna lle credaf fod angen inni ddechrau. Diolch.