1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Felly, rŷn ni'n barod nawr i ailgychwyn. Ymddiheuriadau am y toriad am resymau technolegol. Felly, dwi nawr yn galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn cwestiynau arweinyddion—Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Heddiw, Prif Weinidog, mae'r astudiaeth gyntaf yn y byd go iawn ar frechlynnau yn erbyn haint omicron wedi cael ei chyhoeddi. Mae'n bwysig nodi bod y data hwn yn deillio o dair wythnos gyntaf yr achosion, felly gallai newid, ond dyma'r astudiaeth ddifrifol gyntaf o'i math. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod amrywiolyn y feirws 29 y cant yn ysgafnach, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 30 y cant yn effeithiol o ran lleihau trosglwyddiad, ac, yn bwysig, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 70 y cant yn effeithiol o ran lleihau niferoedd y mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty.
Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli mai dim ond newydd gael ei gyhoeddi y bore yma y mae'r data hwn, ond a gaf i eich ymateb i'r astudiaeth hon, ac ymateb eich cynghorwyr? A pha effaith fydd yr wybodaeth hon yn ei chael ar gynlluniau posibl ar gyfer gosod cyfyngiadau ddydd Gwener, ac yn y pen draw osgoi cyfyngiadau symud llwyr yng Nghymru?
Llywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna. Rwy'n ymwybodol o'r astudiaeth. Fel y mae'n ei ddweud, dyma'r astudiaeth gyntaf o'i math, ond mae'n anochel ei bod hi felly—fel yr awgrymodd ef ei hun rwy'n credu—yn rhagarweiniol. Mae'n dweud rhywbeth wrthym ni am y cyfnod cynnar. Nid yw'n dweud wrthym ni eto am yr hyn sy'n digwydd wrth i'r amrywiolyn omicron gymryd gafael ac wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg am gynnydd y clefyd. Mae hefyd yn astudiaeth yng nghyd-destun De Affrica, sy'n wahanol mewn sawl ffordd i'n un ni ein hunain. Felly, calonogol yn ei ffordd, ond ni ellir dibynnu arni fel sail gref ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi. Ac mae ymdeimlad lle mae'r materion y mae'n eu hadrodd—difrifoldeb y salwch ac i ba raddau y mae'n dianc rhag y brechlynnau presennol—yn gwestiynau eilradd. Oherwydd os yw cyfradd drosglwyddo'r feirws ar y cyflymder yr ydym ni'n ei gweld ar hyn o bryd yn yr Alban ac yn Llundain, yna, hyd yn oed os yw'n ysgafnach, a hyd yn oed os yw'r brechlyn ychydig yn fwy effeithiol, bydd nifer fawr iawn, iawn o bobl yn mynd yn sâl o hyd, a bydd canran o'r bobl hynny yn mynd yn ddifrifol wael, a bydd y niferoedd mawr hynny yn peri i bobl fod angen cymorth y GIG. Felly, astudiaeth ragarweiniol, na ddylid gor-ddibynnu arni, a hyd yn oed os yw'n sail ar gyfer rhywfaint o optimistiaeth ragarweiniol yn wir, ni fydd yn ein hachub ni rhag yr ymosodiad y mae'r amrywiolyn newydd hwn yn debygol o'i greu ar draws y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac roedd hi'n dda cael rhywfaint o optimistiaeth o'r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd y bore yma.
Yn amlwg, elfen arall o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn cynnal cynhadledd i'r wasg y bore yma, gan sôn y bydd pawb wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Rhagfyr, nid o reidrwydd yn cael eu hapwyntiad erbyn diwedd mis Rhagfyr. Pa mor bell i mewn i'r flwyddyn newydd y bydd disgwyl i bobl gael y cynigion hynny cyn iddyn nhw gael y pigiad atgyfnerthu? Oherwydd mae honno yn ystyriaeth bwysig iawn. Un peth yw cael y cynnig; peth arall yw cael y pigiad.
Wel, wrth gwrs, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le yn hynny o beth. Mae ein cynnig ni yr un fath ag y mae yn unman yn y Deyrnas Unedig—sef gwneud yn siŵr bod pawb, erbyn diwedd y mis hwn, wedi cael cynnig. Bydd y cynnig yn ymestyn i'r flwyddyn newydd i'r graddau byrraf posibl. Ond nid yw hynny yn nwylo'r Llywodraeth yn llwyr, oherwydd mae dau beth ar waith yma. Ceir y gyfradd y gallwn ni gynyddu cyflenwad y brechlyn arni—ac mae llawer iawn yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gennym ni ganolfannau brechu yn agored am fwy o oriau, canolfannau brechu â mwy o lonydd, canolfannau brechu â chapasiti galw i mewn yn ogystal â chapasiti apwyntiadau, dim ond i roi rhai enghreifftiau. Ond, yn ogystal â'r ochr gyflenwi, mae'r ochr alw—i ba raddau y mae pobl yn dod ymlaen i fanteisio ar yr apwyntiadau sy'n cael eu cynnig iddyn nhw. Ac os nad yw pobl yn dod ymlaen yn y niferoedd yr ydym ni angen eu gweld, neu os bydd pobl yn gofyn i'w hapwyntiadau gael eu haildrefnu, yna bydd hynny yn gwthio'r dyddiad hwnnw ymhellach i'r flwyddyn newydd. Felly, os oes un neges y byddwn ni eisiau ei chyfleu yn y sesiwn heddiw—rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn helpu yn hyn o beth, i rannu'r neges honno hefyd—y neges honno yw nad oes dim byd pwysicach y gall unrhyw unigolyn ei wneud na chadw'r apwyntiad hwnnw sy'n cael ei gynnig iddo. Oherwydd po fwyaf o bobl sy'n cadw'r apwyntiad, cyflymaf y byddwn ni'n trin y niferoedd, ac felly bydd angen llai o ddiwrnodau arnom ni yn y flwyddyn newydd i gwblhau'r rhaglen.
Rydym ni wedi cael y canlyniadau rhagarweiniol hyn y bore yma, Prif Weinidog, o'r arolwg yn Ne Affrica. Mae gennym ni'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu hefyd, yr wyf i newydd eich holi amdani, a chyflwyniad yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu honno, ond hefyd, yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliodd y Gweinidog iechyd y bore yma, tynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau—gwasanaethau iechyd cyffredinol—boed yn llawfeddygaeth sylfaenol, neu'n llawfeddygaeth ddewisol. Ond un peth y gwnaeth Chris Whitty annerch Cabinet y DU yn ei gylch y bore yma oedd effaith cyfraddau heintio posibl ar weithlu'r GIG. A oes gennych chi unrhyw fodelu a fyddai'n dangos yr hyn y byddai hynny yn gyfystyr ag ef, o safbwynt Cymru, o ran staff y GIG yma yng Nghymru a allai, o bosibl, yn amlwg, fod i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod sylweddol o amser, gyda chyfraddau heintio fel y mae Chris Whitty wedi bod yn tynnu sylw Cabinet y DU atyn nhw y bore yma? Ac os yw'r wybodaeth honno gennych chi, a wnewch chi ei rhannu gyda ni, fel y gallwn ni ddeall yr effaith ar wasanaethau'r GIG ledled Cymru?
Wel, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna, oherwydd mae hwnna yn bwynt pwysig iawn. Ar ran anoddaf y sbectrwm hwn, fe allem ni weld nifer sylweddol uwch o bobl sydd angen cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod wyneb yn wyneb â gwasanaeth lle mae llai o bobl ar gael i ddarparu'r cymorth sydd ei angen, oherwydd bydd yr aelodau staff hynny yn agored i effaith amrywiolyn omicron ochr yn ochr â phawb arall. Nawr, y newyddion da yw bod gennym ni eisoes, yn y poblogaethau hynny, gyfraddau uchel iawn sydd wedi cael y brechlyn atgyfnerthu. Felly, bydd hynny yn diogelu'r gweithlu hwnnw. Ond os byddwn ni'n gweld ton fawr iawn, sy'n effeithio ar nifer fawr iawn o bobl, yna bydd pobl sy'n gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys ynddi hefyd. Hyd yn oed heddiw, nid yw 11 y cant o'n gweithlu meddygon teulu yn y gwaith oherwydd amrywiolyn delta y coronafeirws. Felly, os gwnewch chi allosod hynny a dychmygu effaith ton omicron o'r math y bydd Chris Whitty wedi bod yn ei ddisgrifio i Gabinet y DU, yna gallwch weld y gallai'r effaith fod yn sylweddol iawn. Nawr, mae hynny i gyd yn cael ei fodelu drwy'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Phrifysgol Abertawe a chyda'n byrddau iechyd lleol, ac mae camau yn cael eu cymryd—fel y dywedais, yn enwedig drwy flaenoriaethu'r staff hynny ar gyfer yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu—i ddiogelu cynifer o'r bobl hynny â phosibl. Bydd rhai newidiadau i'r gofynion hunanynysu i weld a all pobl ddychwelyd yn ddiogel i'r gweithle eto cyn gynted â phosibl hefyd yn rhan o'r holl ystyriaeth honno. Ond, gall pob un ohonom ni wneud pethau i ddiogelu ein hunain, a thrwy ddiogelu ein hunain rydym ni'n diogelu pobl eraill, ac mae hynny yn cynnwys y bobl y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw i'n helpu os bydd ton omicron yn ein taro fel y mae rhai o'r modelau yn awgrymu y gallai.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae rhywfaint o newyddion optimistaidd yn y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati, ond mae hefyd yn canfod bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn cynnig dim amddiffyniad rhag amrywiolyn omicron, er bod yr un cafeatau yn berthnasol i'r dystiolaeth honno—sampl fach, canfyddiadau rhagarweiniol, ac yn y blaen. Mae yn canfod, hyd yn oed yn achos AstraZeneca, y byddai pigiad atgyfnerthu yn cynyddu lefel yr amddiffyniad i 71 y cant. Yn amlwg, mae cael y pigiad atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y mis, rwy'n credu, yn nod pwysig iawn, ond a oes rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi, yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, i roi blaenoriaeth i'r rhai a gafodd frechiad AstraZeneca?
Wel, Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le, sef nad yw'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd y ddau ddos yn wych ar gyfer Pfizer nac AstaZeneca—roedd hyd yn oed Pfizer, yn yr astudiaeth honno, yn cynnig tua 30 y cant o amddiffyniad—a dyna pam mae'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu mor gwbl hanfodol. Oherwydd nid yw dau ddos o AstraZeneca yn eich diogelu chi; mae dau ddos o AstraZeneca a phigiad atgyfnerthu yn mynd â'r amddiffyniad hwnnw i fyny dros 70 y cant. Nawr, byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yng Nghymru ynghylch sut rydym ni'n blaenoriaethu galw pobl ymlaen i gael eu brechu gyda'r pigiad atgyfnerthu. Ceir rhywfaint o gytgord rhwng rhestr flaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor a phobl a gafodd AZ yn y ddwy rownd gyntaf o frechiadau. Felly, mae gan y pethau hyn rywfaint o gysondeb â'i gilydd. Byddwn yn gweithio ein ffordd i lawr yr ystodau oedran, ac rydych chi'n cyrraedd pwynt gyda phobl yn eu 30au pryd yr oeddem ni'n defnyddio Pfizer yn hytrach nag AZ ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy'n credu mai cadw at gyngor y Cyd-bwyllgor, sef galw pobl ymlaen yn nhrefn pa mor agored i niwed clinigol ydyn nhw, yw'r peth iawn i'w wneud, ac i raddau sylweddol, nid i raddau perffaith, ond i raddau sylweddol bydd hynny yn mynd i'r afael â'r mater y mae Adam Price newydd ei godi gyda mi.
Prif Weinidog, adroddwyd y gallai Llywodraeth yr Alban gyhoeddi rhai newidiadau heddiw ynghylch cadw pellter cymdeithasol o ran cymysgu aelwydydd, ond ar ffurf cyngor yn hytrach na rheoliadau. Tybed a yw hynny yn opsiwn polisi sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru. Ac yn flaenorol fe wnaethoch chi ddweud, wrth ystyried mynd i fyny drwy'r lefelau statws rhybudd, y byddech chi'n canolbwyntio ar ddangosyddion rhagfynegi fel niferoedd achosion, yn hytrach na dangosyddion ôl-fynegi fel marwolaethau a niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty. Tybed, o ystyried yr awgrym efallai nad yw'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty yn olrhain nifer yr achosion mor agos ag y maen nhw wedi ei wneud gyda thonnau blaenorol, yn seiliedig ar ddata De Affrica, a ydych chi'n bwriadu cymryd rhyw fath o olwg fwy cyfannol, gan edrych ar ddangosyddion rhagfynegi ac ôl-fynegi wrth benderfynu beth fyddai'r ymateb mwyaf cymesur.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am y ddau bwynt yna. Rwyf i wedi cael cyfres o gyfleoedd yn ystod y dyddiau diwethaf i glywed gan Brif Weinidog yr Alban ac i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r ffordd y bydd Cabinet Llywodraeth yr Alban yn trafod y materion hyn heddiw. Rwy'n credu bod y dull o ganllawiau, canllawiau cryf, ar gael i ni ac yn rhywbeth y byddwn ni eisiau ei drafod fel Cabinet yn ystod yr wythnos hon.
Yn ystod y pandemig, mae pobl yng Nghymru wedi dangos, rwy'n credu, eu bod nhw'n awyddus iawn i glywed y cyngor y maen nhw'n ei gael drwy'r prif swyddog meddygol, gan ein prif wyddonydd, ac fel y mae'n cael ei gyfleu gan Weinidogion, ac mae rhoi cyngor da iddyn nhw yn sicr yn rhan o'r repertoire sydd gennym ni ar gyfer ceisio helpu pobl i gadw eu hunain yn ddiogel. Byddwn ni bob amser yn cymryd cyfres gytbwys o ddangosyddion i ystyriaeth wrth wneud ein penderfyniadau, ac mae hynny yn cynnwys niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty a marwolaethau—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu y bydd angen i mi dorri ar eich traws, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae'n ymddangos bod problem gyda'ch sain ar hyn o bryd. Gadewch i mi gymryd saib cyflym. Rhowch gynnig arall arni, ac os nad yw'n bosibl, bydd yn rhaid i ni—. Rhowch gynnig arall arni, Prif Weinidog.
Llywydd—[Anghlywadwy.]
Na. Mae gennym ni broblem. Bydd yn rhaid i ni gymryd seibiant technegol arall i ailddechrau sain y Prif Weinidog. Toriad technegol, felly, eto. Ymddiheuriadau am hyn, Aelodau.
Felly, dychwelwn nawr at ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Adam Price. Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd. Y cwbl yr oeddwn i'n ei wneud oedd ailadrodd pwynt yr oeddwn i wedi ei wneud yn gynharach i Andrew R.T. Davies, sef hyd yn oed pe bai'r cyfraddau sy'n mynd i'r ysbyty yn is gyda omicron, os yw'r niferoedd crai o bobl sy'n mynd yn sâl gydag ef yn cynyddu yn sydyn, bydd hynny ynddo'i hun yn arwain at sefyllfa lle byddai angen i nifer fawr o bobl fynd i'r ysbyty.
Mae COVID yn glefyd a drosglwyddir drwy'r awyr, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod bod awyru da a phuro aer yn effeithiol iawn o ran mynd i'r afael â haint. A oes mwy, Prif Weinidog, y gallem ni fod yn ei wneud yn hyn o beth? Mae Gwlad Belg wedi gosod monitorau carbon deuocsid mewn ysgolion ac, yn wir, gweithleoedd i weld a oes angen gwella awyriad. Mae Iwerddon wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach o €60 miliwn yr wythnos hon mewn dyfeisiau puro aer mewn ysgolion, gan ddefnyddio cymysgedd o aer gronynnol effeithlonrwydd uchel a golau uwchfioled. O ystyried yr amcangyfrif o 3,500 o blant sy'n parhau i ddioddef symptomau COVID hir yng Nghymru, onid yw hwn yn fuddsoddiad yn iechyd ein plant, yn ogystal â phawb arall, y dylem ninnau hefyd fod yn ei wneud?
Wel, diolch i Adam Price am y pwynt pwysig yna. Wrth gwrs, mae gennym ni fonitorau carbon deuocsid ar gael yma yng Nghymru nawr ac maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ysgolion, ond mae mwy y gellir ei wneud o ran awyru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd y gallwn ni gadw ein gilydd yn ddiogel. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig yn rhoi cyngor pellach ar yr hierarchaeth o gamau y gellir eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio a phobl sy'n cael eu trin yn ein hysbytai a lleoliadau caeedig eraill o'r math hwnnw yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl, ac awyru oedd un o'r materion a bwysleisiwyd ganddyn nhw yn y llythyr y maen nhw wedi ei anfon. Rydym ni'n parhau i adolygu'r dystiolaeth o rannau eraill o'r byd ar gamau a all fod yn effeithiol o ran cynorthwyo mewn ysgolion ac mewn lleoliadau eraill—gweithleoedd, er enghraifft, yn ogystal ag ysbytai a chartrefi gofal—i helpu i wella awyru a monitro ansawdd aer. A phryd mae syniadau neu atebion ymarferol yr ydym ni'n eu canfod mewn mannau eraill, byddwn yn sicr yn agored i ddysgu ohonyn nhw a gweld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi eu gweithrediad.