– Senedd Cymru am 3:01 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Ac felly rydyn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef eitem 3. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar lunio dyfodol Cymru, sef pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n galw ar y Gweinidog felly i wneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym ni fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem ni'n dymuno ei rhoi yn etifeddiaeth i'n plant a'n hwyrion.
Mae gan bob un ohonom ni ran mewn amddiffyn a gwella ein cenedl. Elfen bwysig o hynny yw ystyried sut yr ydym ni am osod y sylfeini gyda'n gilydd yn awr ar gyfer y Gymru well yr ydym ni'n ei dymuno yn y dyfodol. I Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith ni o lunio rhaglen waith Cymru yn y dyfodol yn ymwneud â'n symud ni'n agosach at Gymru sy'n well i bawb. Rydym ni'n gosod cerrig milltir cenedlaethol yng nghyd-destun ein hadferiad parhaus ar ôl pandemig COVID-19 yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Ym mis Chwefror, fe wnaethom ni ymrwymo i fap ffyrdd ar gyfer pennu cerrig milltir cenedlaethol cyntaf Cymru, gan ddiweddaru'r dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n falch iawn o fod yn siarad heddiw wrth i ni gyflawni'r tri ohonyn nhw a chyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad a'n dadansoddiad annibynnol.
Uchelgais y Llywodraeth yw i'r cerrig milltir cenedlaethol hyn ysgogi gweithredu cydweithredol a bod yn fesur allweddol o gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen mewn nifer o feysydd allweddol. Yn eu hanfod, eu bwriad yw ysgogi cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac maen nhw'n adlewyrchu ein penderfyniad ni i wneud hyn. Yn dilyn ein rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid ac o ganlyniad i'r ymatebion i'n proses ymgynghori ffurfiol, rydym ni wedi mireinio ein cerrig milltir cenedlaethol a'n cyfres o ddangosyddion cenedlaethol, ac rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac o ran anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Mae gwaith teg a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gweledigaeth ni o Gymru sy'n cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd gwaith yn hanfodol i gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial heb unrhyw ystyriaeth o'u cefndir na'u hamgylchiadau. Rydym ni'n gosod targed o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru i fod â chymwysterau lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Rydym ni'n gwybod bod pobl sydd â chymwysterau a sgiliau lefel uwch yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, gydag enillion a chyflog mwy, yn enwedig i'r unigolion hynny o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu lleihau canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddyn nhw ddim cymwysterau i 5 y cant neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050.
Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sylweddol o'r math hwn rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn un o uchelgeisiau sylfaenol y Llywodraeth hon a byddwn ni'n mesur cynnydd hirdymor drwy gyfrwng y cerrig milltir cenedlaethol. Bydd ein carreg filltir genedlaethol sy'n canolbwyntio ar sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn mesur y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu bywydau. Rydym ni'n gwybod bod cyfnodau o anweithgarwch economaidd yn gynnar ym mywyd gwaith unigolyn yn cael effaith niweidiol, a bod pobl ifanc wedi bod yn arbennig o agored i newidiadau o ran cyflogaeth yn sgil pandemig COVID-19.
Rydym ni'n awyddus i weld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod mewn gwaith cynaliadwy o ansawdd da heb unrhyw ystyriaeth i'w hoedran nac ymhle maen nhw'n byw. Dyna pam rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chodi cyfranogiad grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur.
Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni weithredu bob amser i ddiogelu iechyd a llesiant pobl Cymru a'n huchelgais ni yw dileu'r cyfan sy'n rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau o ran iechyd. Rydym ni'n gwybod hefyd fod arferion da mewn plentyndod yn aml yn datblygu yn ddewisiadau iach gwell ymysg oedolion. Dyna pam rydym ni'n gosod targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035 a mwy na 99 y cant erbyn 2050.
O feddwl am ein cyfrifoldeb byd-eang ehangach, rydym ni'n ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru dim ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn elfen bwysig o'n gweledigaeth ar gyfer datblygu Cymru gynaliadwy a chadarn ac o'n hymateb parhaus ni i'r argyfwng hinsawdd a natur, gan amddiffyn ein hadnoddau naturiol a mwyaf gwerthfawr. Rydym ni'n addo cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yng Nghymru erbyn 2050 ac mae'r garreg filltir genedlaethol hon yn adleisio'r targedau presennol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'i nod yw annog a galluogi pawb yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth leihau allyriadau, gan ein bod ni'n gwybod y bydd newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol yn hanfodol i gyflawni ein hamcanion. Byddwn ni hefyd yn parhau i archwilio sut y gellid cyrraedd y targed pwysig hwn yn gyflymach byth.
Rydym ni'n mynegi o'r newydd ein hymrwymiad i ddiogelu a meithrin twf y Gymraeg drwy sefydlu carreg filltir genedlaethol i gefnogi miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i weld yr iaith yn ffynnu a'i hamddiffyn hi.
Ochr yn ochr â'r cerrig milltir cenedlaethol, rwyf i hefyd wedi gosod cyfres wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd sy'n mesur cynnydd Cymru tuag at y nodau llesiant. O ganlyniad i'r adborth a gawsom yn yr ymgynghoriad, mae'r rhain yn cynnwys mesurau newydd o ran cyfiawnder, teithio, costau tai a chynhwysiant digidol—bob un ohonyn nhw'n faterion y dywedwyd wrthym ni eu bod nhw'n chwarae rhan bwysicach yn ein llesiant cenedlaethol yn awr nag yn y cyfnod cyn y pandemig. Bydd y gyfres estynedig hon o ddangosyddion cenedlaethol yn parhau i'n helpu ni i fesur cynnydd tuag at y saith nod llesiant a'n taith ni tuag at fod yn Gymru decach, wyrddach, a mwy llwyddiannus.
Mae heddiw hefyd yn nodi cyhoeddiad rhifyn diweddaraf adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd mewn un man hygyrch wybodaeth awdurdodol am y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n debygol o effeithio ar lesiant Cymru yn y dyfodol. Gall gosod y cerrig milltir cenedlaethol, diweddaru ein dangosyddion cenedlaethol, a bwrw golwg o'r newydd ar dueddiadau'r dyfodol sy'n llywio Cymru sicrhau bod y nodau llesiant yn parhau i fod yn berthnasol i fywydau pobl yn awr a'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n rhoi'r diweddariad cyntaf ar y cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol yn adroddiad llesiant Cymru y flwyddyn nesaf, a byddwn yn parhau â'r sgwrs ynglŷn â cherrig milltir cenedlaethol yn 2022 gyda datblygiad yr ail set o gerrig milltir.
Er mwyn i'r cerrig milltir cenedlaethol fod yn llwyddiannus, mae hi'n hanfodol i bob corff cyhoeddus ystyried y ffordd orau y gall gyfrannu atyn nhw. Maen nhw'n rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maen nhw'n gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol hyn i'r Senedd; cerrig milltir sydd â chyfiawnder cymdeithasol, trechu tlodi, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ganolbwynt iddyn nhw. Rwy'n falch ein bod ni, gyda'n gilydd, yn llunio Cymru sy'n fwy cyfiawn, cyfartal a ffyniannus.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Hoffwn i ddechrau drwy wneud ychydig o sylwadau am y don gyntaf o gerrig milltir yn y gobaith o ganolbwyntio ar y sail resymegol y tu ôl iddyn nhw ac yn y gobaith o ddarganfod pam y mae'r Gweinidog o'r farn bod y cerrig milltir hyn yn rhai uchelgeisiol, o ystyried yr amserlen 30 mlynedd.
Yn gyntaf, Gweinidog, o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y mae gennych chi nod i'w ddileu erbyn 2050, mae'r data sy'n cael eu defnyddio yn aml—ac sydd edi eu defnyddio yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021' hyd yn oed—yn fesur sy'n seiliedig ar enillion canolrifol llawnamser fesul awr. Mae'r mesur syml hwn yn coladu cyflogau dynion a menywod ac yn eu rhannu â 37 i roi cyfradd fesul awr. Yna mae'n ychwanegu data cyflog fesul awr sydd ar gael ar gyfer nifer bach o fusnesau yn unig. Trwy gynnwys y data hyn, rydych chi'n cael eich canolrif neu werth canol y set ddata.
Ond, y broblem o ran defnyddio'r data hyn yw nad yw hynny'n adlewyrchu cymhlethdod y cysylltiadau cyflogau ar draws sector cyflogedig y gymdeithas. Er enghraifft, nid yw'n ystyried profiad, lefel cymhwystra, hawliau buddion ychwanegol, cysylltiadau pensiwn, ac nid yw'n ystyried proffidioldeb busnesau na safonau'r diwydiant hyd yn oed wrth gymharu cyflogau rhwng swyddogion gweithredol cwmnïau.
At hynny, nid yw'n ystyried ymddygiad y rhywiau. Er enghraifft, a yw dynion yn fwy tebygol o deithio'n bellach na menywod i gael gwaith, ac felly'n gallu bod â swyddi sy'n talu'n well? Beth am amrywiadau daearyddol? A yw'r rhai sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn teithio i Loegr am waith ac felly'n cael cyflogau cyfartalog uwch? A yw menywod yn fwy tebygol o newid eu swyddi na dynion ac, o ganlyniad, yn cael mwy o gyflogaeth ar lefel mynediad? Gall y rhestr fynd yn ei blaen. Ond, yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio llai o oriau, yn cefnogi teuluoedd, ac yn cael amser i ffwrdd i gael plant a bod hynny'n cynyddu'r bylchau rhwng y rhywiau yn sylweddol. Ond pa ystyriaeth sy'n cael ei roi o ran a yw hynny'n cael ei adlewyrchu gan ddynion yn y teulu ai peidio, fel gweithio oriau hirach, neu drwy newid swyddi ar gyfer cyflogau uwch i gefnogi eu teuluoedd? Yn y pen draw, mae angen i ni wybod sut y caiff hyn ei ystyried.
Y broblem o ran defnyddio'r garreg filltir hon, yn seiliedig ar ddata crai o'r fath, yw bod y Llywodraeth a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflyru'r gymdeithas—yn enwedig menywod yn y gymdeithas—i feddwl eu bod nhw'n hanfodol yn cael llai o dâl am wneud yr un gwaith â dynion. Ac eto, nid oes gennych chi unrhyw dystiolaeth sylweddol sy'n deall y cymhlethdod o ran y cyflog rhwng y rhywiau, o'r hyn y gallaf i ei weld, i gefnogi hynny mewn gwirionedd. Rwy'n pryderu, wrth barhau i hyrwyddo cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau heb y data angenrheidiol i gefnogi hynny, eich bod chi mewn gwirionedd yn gwneud mwy o ddrwg na da, drwy greu ymraniad nad yw'n bodoli.
O'ch dadansoddiad amrwd iawn chi, rydych chi wedi adrodd bod menywod yn cael eu talu 1.5 y cant yn fwy, ar gyfartaledd, na dynion am waith rhan-amser, sy'n dangos nad yw menywod yn y gweithle yn cael llai o dâl yn ddefodol. Ond, fel y nodwyd eisoes, mae yna ffactorau llawer iawn mwy cymhleth ar waith, y mae angen eu deall. Felly, o ystyried yr amrywiadau parhaus yn y data, efallai eich bod chi'n cyrraedd eich targedau carreg filltir eisoes, ond hyd nes y byddwch chi wedi mesur gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau yn gywir a hynny'n adlewyrchu'r cymhlethdod o ran y rhywiau yn y gweithle, ni fyddwch chi byth yn gwybod, sy'n golygu yn y pen draw fod cynnwys y garreg filltir hon yn ddibwrpas.
Yn fy nhyb i, byddai cael cyfradd cyflogaeth o 60 y cant ar gyfer pobl anabl yn garreg filltir fwy ystyrlon. Nawr, byddai honno yn garreg filltir uchelgeisiol. I osgoi amheuaeth, hoffwn i dynnu sylw—ac rwy'n awyddus i'w roi ar gofnod—fy mod i'n credu yn angerddol y dylai pawb gael cyflog cyfartal am waith cyfartal, ni waeth beth fo'u rhywedd, eu hil, eu hanabledd neu eu crefydd. Rwy'n gwneud y sylwadau hyn gan fy mod i, yn anffodus, yn gweld y posibilrwydd y gallai'r Llywodraeth hon ddechrau cynllunio deddfwriaeth yn y dyfodol i gyrraedd ei thargedau, heb eu deall nhw'n iawn.
Yn ail, i ymhelaethu ar y ddadl hon, hoffwn i sôn yn fyr iawn am bwynt sydd wedi ei nodi yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021', yn yr adran sy'n ymwneud â'r rhywiau, ynglŷn ag addysg. Adroddir bod cyfran uwch o ferched na bechgyn yn cyflawni'r deilliannau disgwyliedig o'r cyfnod sylfaen hyd at gyfnod allweddol 3. Mae merched yn dal i gael gwell canlyniadau addysgol mewn TGAU hefyd, ac mae cyfran uwch ohonyn nhw, rhwng 16 a 18 oed, yn aros mewn addysg amser llawn o'u cymharu â bechgyn. Mae hyn yn wir hefyd am y rhai rhwng 18 a 24 oed.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i, a llawer iawn o bobl eraill rwy'n amau, yw a yw gwella addysg merched yn dod ar draul addysg bechgyn ai peidio. Mewn gwirionedd, pe byddai cydbwysedd rhwng y rhywiau, dylech chi bob amser gweld cyfran ychydig yn uwch o ferched neu fechgyn yn ennill graddau uwch mewn unrhyw flwyddyn benodol, ond dros gyfnod penodedig, byddai'r gwahaniaethau hynny'n diflannu ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae'r ffaith eich bod chi'n adrodd am y duedd hon yn golygu ei bod hi'n ymddangos bod dulliau addysgu wedi newid o bosibl i ffafrio merched yn hytrach na bechgyn. Yn bersonol, byddai hi'n dda gen i weld dileu'r bwlch cyrhaeddiad addysgol hwn yn ail don cerrig milltir cenedlaethau'r dyfodol.
Yn drydydd ac yn olaf, rwy'n credu bod ceisio lleihau niferoedd y bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn nod rhagorol. Rwyf i o'r farn bod grymuso pobl ifanc ag egwyddorion gwaith yn hanfodol i'w helpu nhw i gyrraedd eu potensial gorau. Fel gwyddom ni, mae astudiaethau wedi dangos y gall amser a gaiff ei dreulio fel NEET fod ag effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol, a'i fod yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddiweithdra, cyflogau isel neu waith o ansawdd isel yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond y targed yr ydych chi wedi ei osod ar gyfer 2050 yw lleihau niferoedd y NEET i ddim ond 10 y cant ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, ac o gofio mai targed 30 mlynedd yw hwn, nid oes fawr o uchelgais yma, yn arbennig o gofio bod y niferoedd presennol o NEET eisoes ar 10.6 y cant yn Lloegr. Gweinidog, nid yw bod â tharged o 10 y cant yn garreg filltir mewn gwirionedd, onid yw hi? Mae'n weddol ddiystyr, o gofio mai'r sefyllfa bresennol yng Nghymru, o 2020, yw bod 13.9 y cant o bobl 16 i 24 oed—
Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr.
—yn NEET. Unwaith eto, o ystyried nad yw'r data samplu yn ystyried cymhlethdod y data mewn modd cywir, er enghraifft o ran symudedd cymharol pobl ifanc a'r rhai sy'n mynychu addysg bellach, colegau neu ysgolion annibynnol, fe allai canran y bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET mewn gwirionedd fod yn llawer is eisoes ac, mewn theori, efallai fod wedi cyrraedd y targed yn barod. Mae hyn yn awgrymu nad oes gan y Llywodraeth lawer o syniadau, ei bod yn pennu targedau y mae'n rhagweld y gall eu cyrraedd yn hawdd fel na ellir ei beirniadu am fethu, ac yn y pen draw, y cyfan y mae'n ei wneud yw esgus gwella bywydau unigolion ledled y wlad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gyda hynny mewn golwg, hoffwn i achub ar y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Gweinidog, gan fy mod i'n credu mai yfory yw hynny. Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, a diolch i chi am eich dymuniadau da. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pam yr ydym ni'n datblygu'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ei gyd-destun. Maen nhw'n pennu ein disgwyliadau o ran cynnydd yn ôl y dangosyddion cenedlaethol, ac maen nhw yn ein helpu i ddeall maint a chyflymder presennol y newid, ac a ydym ni ar y trywydd iawn. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf am ein sefyllfa ni heddiw, wrth i mi wneud y datganiad hwn, yw ei bod hi'n deillio o ymgynghori helaeth, ymgynghoriad ag ymateb da. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd wedi eu cyhoeddi heddiw—rydych chi wedi gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r ymgynghoriad hwnnw yn nodi cynigion ar gyfer y naw carreg filltir genedlaethol yr ydym ni'n eu hystyried heddiw, sy'n cynorthwyo Gweinidogion Cymru, a phob corff cyhoeddus hefyd, i asesu cynnydd tuag at y nodau llesiant.
Roedden nhw'n sylwadau diddorol, yn fy marn i, ynghylch dileu'r bwlch cyflog—sylwadau diddorol sydd, o ran yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn awgrymu bod cefnogaeth frwd iawn i amcan a phwyslais y garreg filltir genedlaethol hon, gyda 95.4 y cant o'r ymatebion yn cytuno â'r ymateb cyffredinol. Rwy'n credu os byddwch chi'n edrych ar ganlyniad yr ymgynghoriadau, daeth yr ymatebion o'r trydydd sector, er enghraifft—daeth cyfran fawr o'r trydydd sector, tua thraean o'r ymatebion, daeth y sector cyhoeddus, yn ogystal ag unigolion, addysg uwch, undebau llafur, amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ymlaen i ymateb i'r ymgynghoriad. Ond byddaf i yn dweud, o ran y materion penodol ynglŷn â'r bwlch cyflog, fod hyn yn bwysig iawn o ran dileu'r bwlch cyflog, ac mae hi'n bwysig ei fod ymwneud ag ethnigrwydd yn ogystal ag anabledd. Fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar faterion y rhywiau. Rwyf i o'r farn ei fod hefyd yn ymwneud â chydnabod ein bod ni'n gweithio i sicrhau data mwy cadarn a dibynadwy ar y bwlch cyflog, ac yn enwedig ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig, gan fy mod i'n gwybod, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, eich bod chi'n awyddus i sicrhau bod hyn yn ymwneud â chael ymateb teg a chyfiawn i'r garreg filltir hon o ran dileu bylchau cyflog, sy'n hanfodol bwysig fel y gwyddom ni. Byddwn ni bob amser yn ailedrych ar gerrig milltir wrth i ddata ddod ar gael, yn arbennig o ran y nodweddion gwarchodedig.
Mae hyn yn ymwneud ag ymdrechu ar y cyd. Ie, i lawer, efallai fod 2050 yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae'n gymaint o fater gan fod y bwlch cyflog mor sefydledig fel na allwn ei ddatrys dros nos. Nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau polisi, fel cyfraith cyflogaeth, sydd wedi ei chadw, ac mae yna lawer iawn o ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach hefyd o ran cyflawni'r cerrig milltir. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed ein bod ni'n sefydlu uned data cydraddoldeb, ac yn gweithio gyda dadansoddwyr eraill i ystyried gwella'r dystiolaeth o ran y data sydd eu hangen. Ond byddwn i'n dweud, yn enwedig o ran dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, fod adolygu hynny, gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, EHRC Llywodraeth y DU, yn hanfodol bwysig. Rydych chi wedi canolbwyntio ar y rhywiau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, ar sail enillion canolrifol llawnamser fesul awr, yn 5 y cant, a heb newid ers 2020. Ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd 0 y cant, ac o'r 11 o wledydd a rhanbarthau yn y DU lle mae dynion yn ennill mwy na menywod, Cymru sydd â'r bwlch cyflog lleiaf ond un. Ond mae gennym ni fwlch cyflog mawr o ran anabledd, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod hynny. Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlch cyflog ethnigrwydd hefyd.
Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio, hefyd, ar y garreg filltir i gael o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Dyma le mae angen i ni edrych hefyd ar y rhagolygon nid yn unig ar gyfer cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018, ond gan gydnabod hefyd y bydd cyflogadwyedd ein pobl ifanc yn gwella'n fawr o ganlyniad i'r warant i bobl ifanc ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig hefyd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n edrych ar y gyfres o arolygon blynyddol y boblogaeth, a gaiff ei dadansoddi yn ôl oedran ac anabledd, ac edrych ar hyn o ran rhywedd, oedran, anabledd, ethnigrwydd. Mae'n rhaid i ni edrych ar y materion o ran cydraddoldeb, hefyd, i gyflawni hyn. Byddwn ni'n edrych, rwy'n siŵr, ar adroddiad 'Llesiant Cymru' y flwyddyn nesaf, oherwydd bydd hwnnw wrth gwrs yn dechrau nodi a ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd a sut yr ydym yn gwneud cynnydd—a hynny ar gyfer Cymru gyfan; ein holl gyrff cyhoeddus—o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r dyhead i greu Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, y weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi ei datgan, yn llywio'r fframwaith sydd wedi ei ategu gan y cerrig milltir a'r dangosyddion sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y gall Aelodau o bob plaid gytuno arno. Ond mae'r dyfodol, wrth gwrs, yn ansicr, gyda'r pandemig sy'n parhau o hyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, dau ffactor yn unig sy'n newid ein rhagolwg ar y dyfodol hwnnw a'n gallu i'w llunio.
Os mai nod y cerrig milltir cenedlaethol yw pennu llwybr ar gyfer cynnydd Cymru, gan ddefnyddio'r mesurau a fydd yn sicrhau bod y polisïau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud yn gweithio tuag at y Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno, yna mae'n rhaid i ni eu gweld nhw nid yn unig yn llywio polisi ond yn amlwg yn y canlyniadau hefyd. Dylai nod y cerrig milltir cenedlaethol fod i ddangos i bobl Cymru pa gynnydd y mae angen ei wneud o ran y nodau llesiant a'r hyn sy'n cael ei gyflawni, a bod yn fodd i gyfathrebu hefyd sy'n caniatáu i'r cynnydd hwnnw fod yn amlwg yn ein bywydau bob dydd.
Pan fo cymaint o bolisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, efallai mai'r darlun lleol yn hytrach na'r un cenedlaethol sydd fwyaf ystyrlon yn aml. Mae'r garreg filltir genedlaethol i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, er enghraifft, sydd wedi ei mynegi eto heddiw, yn cael ei thanseilio mor aml gan gynllunio gwael a diffyg uchelgais ar lefel leol o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Mae'r Gweinidog wedi cydnabod yr anghydraddoldebau sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd Cymru, ac mae yna wahaniaethau hefyd o ran y cyflawni sy'n cyfrannu at hyn. A allai setiau data lleol o fewn y dangosyddion ganiatáu i bobl gymharu a chyferbynnu perfformiad yn eu hardaloedd nhw eu hunain a gadael iddyn nhw farnu a yw'r ymdrechion cenedlaethol i lunio'r Gymru y mae llawer ohonom ni'n dymuno ei gweld yn arwain at newid yn eu cymunedau lleol? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y caiff y darlun lleol, neu sut y gallai'r darlun lleol, gael ei adlewyrchu yn y dangosyddion a'r rhaglen waith ehangach i Lywio Dyfodol Cymru?
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad o ran y targed sero net, sydd wedi ei gynnwys, wrth gwrs, yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rwy'n annog i'r gwaith i gyflymu'r targed hwnnw y soniodd hi amdano fod â blaenoriaeth lawn, gan gynnwys datganoli rhagor o bwerau a allai ein galluogi i'w gyrraedd yn gyflymach, oherwydd efallai mai dyma darged pwysicaf ein hoes ni. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymgais i fynd i'r afael â mater y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anghydraddoldeb mewn cyflogaeth. Er hynny, gan mai un o'r nodau llesiant yw Cymru fwy cyfartal ac mae lles menywod yn ymestyn y tu hwnt i gynhwysiant economaidd, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y caiff diogelwch menywod a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu cynnwys yn adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', polisïau'r dyfodol, a'r dull hwn o lywio dyfodol Cymru?
Mae'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru wedi aros o gwmpas 30 y cant ers dros ddegawd. Yn y cyfamser, mae tuedd i weithwyr anabl ennill llai na phobl nad ydyn nhw'n anabl, ac mae hyn wedi aros yn yr unfan ers nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny heddiw yn ei datganiad a'i hymateb i Joel James, oherwydd rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn wynebu costau byw llawer uwch oherwydd eu hanableddau neu eu cyflyrau, sy'n gwneud y nod hwn o ddileu'r bwlch cyflog anabledd yn bwysicach byth. O gofio mai dim ond yn 2019 y cafodd y bwlch cyflog anabledd ei ychwanegu at ddangosyddion llesiant cenedlaethol Cymru, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ddileu'r mater treiddiol hwn yn unol â'r nodau llesiant cenedlaethol?
Ym mis Rhagfyr 2020, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nad oedd ystyriaethau ar gyfer pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn strategaeth a pholisi trafnidiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o glywed bod mesurau newydd ynglŷn â theithio wedi eu cynnwys o ganlyniad i adborth yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, nid yw'r system drafnidiaeth yng Nghymru o safon ddigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru, nac ar gyfer targedau sero net, a dyna pam mae hi'n bwysig ei bod yn cael ei chynnwys yn un o'r dangosyddion erbyn hyn. Serch hynny, fe ddylai unrhyw ddangosydd ynghylch teithio ystyried hygyrchedd a dibynadwyedd i bobl anabl hefyd, oherwydd bydd hyn yn allweddol ar gyfer sicrhau cynhwysiant economaidd a chymdeithasol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd i ni fod hyn yn wir? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am y gefnogaeth i'r rhaglen uchelgeisiol iawn hon, i sicrhau ein bod ni yn bwrw ymlaen â hyn o ran y weledigaeth sydd gennym ni o Gymru decach, fwy cyfiawn a gwyrddach. Oherwydd bod hyn yn ymwneud â chenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, mae datganiad heddiw yn arwyddocaol iawn. Dyma'r cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed yr ydym ni'n adrodd arnyn nhw heddiw, yr ydym ni'n eu datgan heddiw, a fydd yn ein harwain ni, Gymru gyfan. Rwy'n credu bod eich pwynt mai cerrig milltir cenedlaethol yw'r rhain, i ddwyn rhywfaint o gysondeb ar lefel leol, lle rydym ni yn gweld y ffaith bod angen i ni ymgysylltu drwy ein cyrff cyhoeddus sydd â'r dyletswyddau llesiant drwy—yn wir, hefyd, drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud drwy eu byrddau gwasanaethau cyhoeddus gyda'u partneriaid, oherwydd nid un corff cyhoeddus yn unig a fydd yn gwneud y gwahaniaeth.
Mae sefydlu'r cerrig milltir cenedlaethol hynny i Gymru, ochr yn ochr â'r dangosyddion cenedlaethol, yn cynnig mecanwaith cadarn i gynorthwyo Gweinidogion, yn enwedig wrth fonitro cynnydd cenedlaethol. Mae hynny'n hollbwysig o ran yr holl gerrig milltir a'u hamcanion i gyflawni ein saith nod llesiant. Ond mae hi'n hanfodol bod gan y cyrff cyhoeddus hynny y llwybr clir hwnnw hyd at 2050, ac yn uno gyda gweledigaeth unedig iawn i weithio tuag ati. Wrth gwrs, mae hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n gallu adeiladu ar hyn o ran ein cytundeb cydweithredu ni, oherwydd bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys llawer iawn o feysydd polisi a fydd yn ein helpu i lwyddo i gyrraedd y cerrig milltir hollbwysig hyn. Mae rhai o'r ymrwymiadau hyn wedi eu hadlewyrchu erbyn hyn yn y cerrig milltir cenedlaethol hyn, wrth gwrs, a gafodd eu pennu cyn, mewn gwahanol ffyrdd, ein cytundeb cydweithredu, ond nawr fe allwn ni adeiladu arnyn nhw, rwy'n gwybod, o ran y ffordd ymlaen.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n codi rhai materion penodol. Mae'r materion sy'n ymwneud â sero net yn hollbwysig o ran y ffordd ymlaen, a'r ffaith ein bod ni'n galluogi hynny i fod yn rhywbeth yr ydym ni am fynd i'r afael ag ef i fod yn rhywbeth y caiff ei adeiladu arno mewn gwirionedd o ganlyniad i'n hymgynghoriadau. Mae'r ymgynghoriadau a ddaeth drwodd ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol yn eglur iawn hefyd, byddwn i'n ei ddweud, o ran bod Cymru yn defnyddio ei chyfran deg yn unig o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'w chysylltu â'n huchelgais sero net. O ran cyflawni hynny, mae'n rhaid i ni edrych ar hynny o ran y cyfleoedd sydd gennym ni. Mae hynny'n eglur. Dyma gyngor diweddaraf ein cynghorwyr arbenigol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac mae wedi ei gynllunio yn benodol i adlewyrchu'r uchelgais mwyaf posibl, ond mewn gwirionedd yn mynd â hyn ymhellach gyda'r dystiolaeth y byddwn ni'n ei cheisio a'r dystiolaeth y mae angen i ni ei chael. Bob pum mlynedd, mae hi'n ofynnol i ni eisoes, wrth gwrs, gyhoeddi cynlluniau cyflawni pellach sy'n disgrifio yn fanwl ac yn effeithiol sut y byddwn yn cyflawni ein nod sero net. Mae hi mor bwysig bod gennym ni hynny mewn statud, onid yw, ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â hyn a bwrw ymlaen â hyn.
Ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod chi wedi canolbwyntio ar y bwlch cyflog anabledd. Rwyf i wedi ymateb i rai o'r materion sy'n ymwneud â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond, wrth edrych ar y bwlch cyflog anabledd, gyda dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod bwlch cyflog anabledd yng Nghymru o 9.9 y cant yn 2018, mae hynny'n golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill ar gyfartaledd 9.9 y cant yn llai bob awr na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwnnw'n llai, mewn gwirionedd, y bwlch cyflog, mae'n llai nag ar gyfer y DU gyfan, ac, mewn gwirionedd, hwnnw oedd y pumed lleiaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Ond mae gennym ni gryn bellter i'w deithio o ran cau'r bwlch cyflog hwnnw, ac, yn amlwg, dyna le mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran y tasglu hawliau anabledd, sy'n cyfarfod bellach—. Ac, wrth gwrs, un o'r pwyntiau a wnes i yn fy natganiad ynglŷn â'r cerrig milltir cenedlaethol yw eu bod wedi eu datblygu yng ngoleuni'r pandemig, yng ngoleuni'r ddealltwriaeth o'r anghydraddoldebau cynyddol a fu i'r rhai mwyaf difreintiedig. A dyna pam mae cysylltu anghydraddoldeb, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, o ran ei effaith ar sut mae hynny'n dylanwadu ar ein cerrig milltir cenedlaethol, mor bwysig.
Ac rwy'n falch hefyd eich bod wedi cydnabod bod rhai cyfleoedd i'w cael gyda'r dangosyddion newydd. Bu ymgynghoriad helaeth yn arwain at ganlyniad heddiw—ymgynghoriad helaeth â'n rhanddeiliaid. Rwyf i wedi disgrifio eisoes sut y gwnaeth pobl gymryd rhan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni, er enghraifft, wedi defnyddio'r grŵp cynghori ar hawliau plant hefyd; cawsom ni sesiwn gyda phanel o bobl ifanc. Fe wnaethon nhw i gyd ymgysylltu â hyn, yn ogystal â gweminarau cyhoeddus a chydlynwyr byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Ond, o ran y dangosyddion newydd, yn enwedig o ran teithio, nid canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus, wedi ei chynnwys ar hyn o bryd, mewn trafnidiaeth, hynny yw, o ran y dangosyddion cenedlaethol. Felly, mae hwn yn fwlch y mae angen i ni ei lenwi, ond mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni am symud at ddulliau teithio mwy cynaliadwy o ran datgarboneiddio ac iechyd corfforol. Ond yna, wrth gwrs, mae angen i ni edrych ar faterion fel hygyrchedd trafnidiaeth, a chwalu'r rhwystrau penodol hynny, a fydd yn cael sylw yn ein tasglu anabledd, oherwydd yr hyn sy'n allweddol i hyn i gyd, ac sy'n sail i'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, yw bod hyn yn ymwneud â nodau llesiant sy'n ymwneud â Chymru fwy cyfartal, yn ogystal â Chymru iachach, Cymru gydnerth, a Chymru ffyniannus.
A dyna le mae cyflwyno'r dangosyddion cenedlaethol newydd wedi bod mor bwysig. Felly, o ganlyniad i hyn, dylai hyn gynnwys mwy o gydlyniad cenedlaethol o ran bwrw ymlaen dwyn i gyfrif o ganlyniad i'r cerrig milltir cenedlaethol sy'n gysylltiedig â'r dangosyddion. Bydd hyn yn gosod cyfrifoldeb ar ein hawdurdodau lleol, ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar bawb sy'n ymwneud â darparu'r cyfleoedd y mae deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eu cynnig.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu bod cyhoeddi'r cerrig milltir hyn yn gam cyffrous iawn, o ran rhoi'r ymdeimlad o ganolbwyntio a bod â ffon fesur i'w defnyddio i fesur y cynnydd. Felly, mae gen i rai cwestiynau ynghylch y cerrig milltir hynny. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i darged o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio i fod yn gymwys hyd lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Serch hynny, sut ydym ni am sicrhau bod pwyslais hefyd ar y prentisiaethau lefel 2 hynny, sydd yn aml yn borth i gymwysterau lefel 3 ac uwch?
Yn ail, rwyf i hefyd yn croesawu'r bwriad i leihau canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau i 5 y cant neu is erbyn 2050. Hoffwn i wybod a fyddai hyn yn cynnwys unrhyw bwyslais ar gynyddu'r ddarpariaeth o ddosbarthiadau sgiliau sylfaenol i oedolion yn y gymuned. Mae wedi ei brofi bod cyrsiau yn y lleoliadau hyn yn hollbwysig i ymgysylltu â'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, felly mae ganddyn nhw ran allweddol, yn fy marn i, wrth gyrraedd y garreg filltir hon.
Ac, yn olaf, mae hefyd yn gadarnhaol gweld y targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035, a phob un erbyn 2050. Gweinidog, yn y cyd-destun hwn, a fydd pwyslais penodol ar ferched yn eu harddegau, gan fod ymchwil yn dangos yn gyson mai dyma'r grŵp sydd fwyaf tebygol o roi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi eu trefnu, yn aml oherwydd pwysau cyfoedion a diffyg hunan-barch? Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Oes, mae yna gyfleoedd pwysig iawn, o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn, i sicrhau bod gennym ni lawer mwy o degwch o ran y gallu i ennill cymwysterau a chyflogaeth. Bydd saith deg pump y cant o oedolion o oedran gweithio yn gymwys hyd at lefel 3 neu uwch erbyn 2050, gan ein bod ni'n gwybod, gyda chymwysterau lefel uwch, fod rhywun yn llawer mwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, ag enillion a chyflogau mwy hefyd. Ond rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ymestyn allan i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r cyfle i ennill y sgiliau a'r cymwysterau hynny a phyrth i swyddi sgiliau uwch.
Ac rwy'n credu, os gwnewch chi edrych ar rai o'r lefelau cymwysterau, gan fynd yn ôl i'r cwestiynau blaenorol ynghylch sicrhau bod mwy o gysondeb, yn ogystal â phwyslais daearyddol, ein bod ni'n gallu canolbwyntio ar y rhai y mae angen yr hwb a'r mewnbwn mwy arnyn nhw hefyd, ac yn arbennig o ran y pwyntiau a wnaethoch chi—. Oherwydd bod yn rhaid i ni sicrhau mai pob awdurdod lleol yw hyn—canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau 5 y cant neu'n is; mae pwyslais gwirioneddol ar yr awdurdodau lleol ar gyfer hyn. Ceir amrywio sylweddol. Mae'r cyfrannau uchaf o ran y rhai hynny heb gymwysterau i'w gweld yng nghymoedd y de, yn aml. Ac o ran cyfartaleddau cenedlaethol, dyna y mae angen i ni geisio amdano, er mwyn symud ymlaen. A byddwn yn gweld y gyfran heb unrhyw gymwysterau—bron i bum gwaith yn uwch ar gyfer oedolion sy'n byw yn y 10 y cant o gymdogaethau mwyaf difreintiedig. Felly, bydd y strategaeth cyflogadwyedd y byddwn ni'n ei chyhoeddi yn ystod y gwanwyn yn canolbwyntio llawer mwy ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, darparu cymorth drwy gyfrifon dysgu personol ac, yn fy marn i, ein gwarant i bobl ifanc, a fydd yn hollbwysig i bobl dan 25 oed, fel y gwyddoch chi, ac rydych chi wedi mynegi eich cefnogaeth o ran y materion hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd eich bod chi'n sôn am y cynnydd yng nghanran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant. Ac mae hyn yn ddiddorol, oherwydd rwyf i wedi sôn y bu panel hawliau plant—daeth Cymru Ifanc â phobl ifanc at ei gilydd. Ac o ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae'r dangosydd cenedlaethol wedi ei fynegi o'r newydd yn gadarnhaol i ganiatáu pwyslais ar y bobl ifanc nad ydyn nhw'n cynnal unrhyw arferion iach neu dim ond un. Mewn gwirionedd, mae hi hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod camau y gellir eu cymryd i ymestyn allan i'r bobl ifanc hynny, yn arbennig menywod ifanc. Felly, materion yw'r rhain sy'n ymwneud â chamau gweithredu sydd gennym ni eisoes, o ran 'Pwysau Iach: Cymru Iach', er enghraifft, sy'n cynnig ystod lawer mwy o faterion i helpu i newid ymddygiad deietegol y boblogaeth. Mae gweithgarwch corfforol, wrth gwrs, yn hollbwysig yn hynny o beth. Ond mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n buddsoddi yn ein rhaglen i gyfoethogi gwyliau'r ysgol, yn y gemau stryd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddyn nhw, y gronfa chwaraeon cymunedol, ac edrych ar hyn o safbwynt y bobl ifanc hefyd, a dyna pam roedd panel Cymru Ifanc mor bwysig. Diolch i chi.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Nid yw'r un o'r ddwy ohonom ni'n debygol o fod o gwmpas i gael ein holi yn 2050, felly—. Mae hyd yn oed eich targed ar gyfer 2035 ar gyfer gwella arferion iach pobl ifanc 13 mlynedd i ffwrdd. Felly, hoffwn i ofyn i chi ehangu ychydig ar sut yr ydym ni am gael naw o bob 10 o blant yn mabwysiadu dau neu fwy o arferion iach. Rwy'n sylweddoli bod prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ymestyn gofal plant i blant dwy flwydd oed yn fannau cychwyn da. Ond mae adroddiad Meilyr Rowlands ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, a gyhoeddwyd gan Estyn yr wythnos diwethaf, yn annifyr iawn i'w ddarllen, ac mae hi'n amlwg bod llawer iawn o waith i'w wneud i ddofi agweddau niweidiol ar dechnoleg newydd, yn enwedig ymgysylltu â rhieni a'u hannog nhw i beidio â rhoi'r offer sy'n caniatáu i bornograffi ar-lein fod ar gael i bobl ifanc.
Yn yr un modd, os ydym ni am gael tri chwarter neu fwy o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys hyd at lefel 3, sut bydd hynny yn llywio'r un lefel o sylw y mae angen i ni ei roi i sgiliau technegol, yn hytrach na sgiliau academaidd, yn enwedig o ran sut y mae ysgolion yn hyrwyddo pwysigrwydd y sgiliau hynny? A sut bydd hyn yn llywio'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd neu werth ychwanegol ysgolion, yn hytrach na'i bod ychydig yn fwy ar hap na hynny, o ran nifer y plant difreintiedig a allai fod mewn ysgol benodol? Felly, rwy'n credu, yn amlwg—
Mae angen i chi ddod i ben nawr.
—dyma ddechrau'r ddadl, ond, rwy'n credu, pe gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y byddwn yn gwella iechyd a lles pobl ifanc mewn gwirionedd, byddai hynny'n fuddiol.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Ydy, mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond mewn gwirionedd yr hyn sydd mor bwysig yw beth rydym ni'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn, a sut rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif a sut y gallwn ni ddefnyddio'r cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol i olrhain cynnydd. Dyna pam mae gennym ni sail statudol i hyn. Byddwn i'n annog cyd-Weinidogion ac Aelodau i edrych ar adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', oherwydd bod hynny, unwaith eto, yn ddyletswydd statudol, sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ac mewn gwirionedd mae'n helpu ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fel y mae'n ei ddweud, i edrych i'r tymor hwy. Dyma'r adroddiad statudol cyntaf—wel, cafodd yr adroddiad cyntaf o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' cyntaf, ei gyhoeddi yn ôl ym mis Mai 2017, ond mae yn rhoi syniad eglur i ni mewn gwirionedd o'r ffordd ymlaen o ran tueddiadau'r dyfodol y mae angen i ni gysylltu â nhw o ran gwneud cynnydd pwysig hwnnw. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y dylem ni fod yn edrych arno, o ran y tueddiadau hynny yn y dyfodol, i'n galluogi i fynd i'r afael â'r cynnydd. Ac rwy'n credu eich bod chi'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar ein pobl ifanc a'r genhedlaeth honno, wrth i ni symud ymlaen. Rwyf i wedi ymateb i'r materion sy'n ymwneud ag arferion iach ein pobl ifanc, ac mae angen i ni ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n hysgolion, a bydd y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yn ein helpu i symud ymlaen yn y cyswllt hwnnw.
Ond rwy'n credu, o ran canran yr oedolion o oedran gweithio sydd wedi eu cymhwyso i lefel 3 neu uwch erbyn 2050, y bydd hyn yn cael ei arwain gan ein strategaeth cyflogadwyedd newydd i raddau helaeth, ac yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i'n pobl ifanc ar gyfer sgiliau mewn byd newidiol. Mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chynyddu ein cymorth ar gyfer sgiliau sylfaenol, sgiliau sylfaen a digidol, a helpu unigolion i gael y sgiliau ar gyfer y byd newidiol yr ydym ni ynddo, gan gynyddu hyblygrwydd y gweithlu, ond ein dysgwyr ifanc wedyn, i ddatblygu'r sgiliau a chael rhai newydd. Ond mae hi, yn amlwg—. O ran yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad, ystyrir bod hwn yn ganllaw cryf nid i'r Llywodraeth yn unig, ond i'n cyrff cyhoeddus allu canfod y ffordd ymlaen.
Ac rwyf i wedi sôn hefyd am y ffaith ein bod ni wedi newid ein cerrig milltir, yn enwedig o ran arferion iach, i adlewyrchu dull mwy cadarnhaol. Ac rwy'n credu bod cyfranogiad pobl ifanc yn hollbwysig. Mae'n bwyslais ar ddatblygu targedau ac ymyriadau ar gyfer yr arferion allweddol ym mywyd person ifanc, gwelliannau ar lefel ymddygiad, ond yn dangos hefyd, yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar annhegwch, a'r rhai hynny sydd wedi eu gwaethygu yn arbennig sgil y pandemig. Ond a gaf i ddweud ein bod ni'n archwilio opsiynau ar gyfer ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o'r ysgogiadau a fydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu helpu ein pobl ifanc i allu mabwysiadu'r arferion iach hynny a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'w bywydau, ond bydd yn rhaid i hynny fod o ganlyniad i ymyrraeth i fynd i'r afael â thlodi. Ac, fel rydych chi'n ei ddweud, mae'n debyg mai darparu ymyrraeth blynyddoedd cynnar o ran gofal plant a phrydau ysgol am ddim yw dau o'r penderfyniadau allweddol pwysicaf yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw ac yr ydym yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu gwireddu o ran ein cyllideb a'n cytundeb cydweithredu.
Diolch i'r Gweinidog.