– Senedd Cymru am 4:46 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Eitem 6 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiolyn omicron sy'n symud yn gyflym iawn, ei effaith ar Gymru a'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yma. Yn fy natganiad diwethaf i'r Aelodau, dywedais mai dim ond mater o amser oedd hi nes i omicron gyrraedd Cymru, ac yn anffodus, roedd hynny’n wir. Cadarnhawyd yr achos cyntaf yng Nghymru ychydig ddyddiau'n ddiweddarach ac, o heddiw ymlaen, mae 32 o achosion wedi'u cadarnhau. Mae'r niferoedd yn tyfu bob dydd, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod iddyn nhw godi'n gyflym ac yn sydyn.
Mae'r amser dyblu ar gyfer omicron yn ddau i dri diwrnod ar hyn o bryd. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi amcangyfrif, os bydd yr amrywiolyn yn parhau i dyfu ar y gyfradd bresennol, mai dyma fydd y straen amlycaf, gan gyfrif am fwy na 50 y cant o'r holl heintiau COVID-19 yn y DU erbyn canol mis Rhagfyr. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau heb eu hatal, bydd mwy na miliwn o heintiau omicron yn y DU erbyn diwedd mis Rhagfyr. Mae'r Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog yr Alban wedi rhybuddio fod ton lanw o achosion ar ei ffordd. Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn.
Rydym yn dal i ymdrin â'r amrywiolyn delta yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae tystiolaeth bryderus bod omicron wedi ennill ei blwyf yn ein cymunedau eisoes. Bellach mae achosion wedi'u cadarnhau ym mhob ardal bwrdd iechyd. Cyrhaeddodd y DU drwy deithio rhyngwladol ac roedd yr achosion cychwynnol wedi'u cysylltu â theithio. Erbyn hyn, mae trosglwyddo cymunedol eang a pharhaus mewn sawl rhan o Loegr ac yn yr Alban hefyd. Nid yw'r rhan fwyaf o achosion yng Nghymru yn gysylltiedig â theithio. Pan siaradais â chi ddiwethaf am omicron, roedd llawer nad oeddem yn ei wybod. Diolch i waith arbenigwyr ac ymchwilwyr ledled y byd, rydym yn dysgu mwy bob dydd. Gwyddom bellach fod gan omicron fantais o ran twf dros delta, a gallai hyn fod o ganlyniad i osgoi imiwnedd neu drosglwyddo, ond gallai fod o ganlyniad i'r ddau.
Mae omicron o leiaf mor drosglwyddadwy â delta. Mae'n ymarferol ei fod yn fwy trosglwyddadwy. Rydym yn aros am dystiolaeth bellach, ond os ydyw, mae ganddo'r potensial i heintio nifer fawr o bobl, a allai droi'n gynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Rydym yn symud i gyfnod anoddaf y flwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae'r GIG eisoes yn hynod o brysur o ganlyniad i bwysau'r gaeaf a dal i fyny â thriniaethau a gafodd eu gohirio yn gynharach yn y pandemig. Byddai hyd yn oed cynnydd bach mewn derbyniadau COVID-19 yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau a gweithlu blinedig ac, a dweud y gwir, wedi'i lethu.
Gwyddom hefyd fod omicron yn dangos gostyngiad mewn diogelwch imiwnedd rhag haint ac nid oes gennym ddigon o wybodaeth o hyd i wybod a fydd yn achosi math mwy difrifol o salwch. Sut mae'r amrywiolyn yn ymddwyn mewn gwahanol boblogaethau gyda chyfraddau brechu gwahanol a phroffiliau demograffig gwahanol yw canolbwynt astudiaeth ddwys ledled y byd. Dros y penwythnos, datgelodd data sy'n dod i'r amlwg nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. Mae'r dos atgyfnerthu yn hanfodol ar gyfer cryfhau ein diogelwch.
Mae dros 1.1 miliwn o bobl eisoes wedi cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru. Roeddem eisoes yn cynyddu cyflymder a chyflwyno'r rhaglen frechu wrth i'r canfyddiadau newydd hyn ddod i'r amlwg, ond byddwn yn awr yn mynd ymhellach a byddwn yn mynd yn gyflymach. Ein nod yw cynnig apwyntiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr. Mae hwn yn ymgymeriad enfawr. Bydd yn flaenoriaeth i'r GIG a bydd yn golygu ail-ganolbwyntio cymaint o weithgarwch nad yw'n fater brys â phosibl dros yr wythnosau nesaf ar y rhaglen frechu fel y gallwn sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl. Byddwn yn gofyn i holl staff y GIG sy'n gallu, i weithio yn ein canolfannau brechu. Byddwn yn ymestyn canolfannau brechu i'w capasiti mwyaf, gan ymestyn oriau agor a darparu model hybrid o apwyntiadau galw i mewn a rhai a drefnwyd ymlaen llaw.
Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael y brechlyn. Rhowch flaenoriaeth i hyn os gwelwch yn dda. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun.
Dirprwy Lywydd, mae hon yn sefyllfa sy'n peri pryder ac yn symud yn gyflym iawn. Ond, ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion o omicron sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru yn dal i fod yn isel, ac rydyn ni'n parhau i ymateb i don delta. Ond, rhaid inni i gyd fod yn barod i weithredu'n gyflym i ddiogelu iechyd pobl. Yn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, mae'r Cabinet wedi ystyried pa fesurau amddiffyn sydd eu hangen nawr i ymateb i'r don delta bresennol a'r camau y mae angen inni eu rhoi ar waith i baratoi ac amddiffyn rhag cynnydd mewn achosion yn sgil yr amrywiolyn omicron. Rydyn ni wedi penderfynu newid i gylch adolygu wythnosol, er mwyn gallu monitro'r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn ofalus. Am y tro, byddwn yn aros ar lefel rhybudd 0, ond rydyn ni wedi adeiladu ar y mesurau rydyn ni wedi eu cyflwyno yn ystod y pythefnos diwethaf sy'n ymwneud â hunanynysu a theithio rhyngwladol.
Rŷn ni bellach yn cynghori pobl yn gryf i brofi eu hunain ymlaen llaw—hynny yw, i wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan i lefydd prysur neu i unrhyw ddigwyddiadau, a hefyd cyn teithio neu cyn ymweld â ffrindiau a theulu. Rŷn ni wedi cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy'n paratoi i adael y coleg a'r brifysgol cyn y Nadolig ynglŷn â chymryd profion cyn teithio. Os yw'r prawf yn bositif, arhoswch gartref. Mae angen ichi hunanynysu a threfnu prawf PCR. Rŷn ni wedi gwneud mân newidiadau i'n rheolau i egluro bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn sinemâu a theatrau ac yn ystod gwersi gyrru proffesiynol neu brofion gyrru ymarferol. Rŷn ni hefyd yn cynghori pobl yn gryf i wisgo gorchudd wyneb mewn tafarndai a bwytai pan nad ydyn nhw wrth y bwrdd neu ddim yn bwyta neu'n yfed. Rŷn ni wrthi'n gwneud rhai newidiadau technegol i'r pàs COVID. Dylid cymryd profion llif unffordd o fewn 24 awr, yn hytrach na'r cyngor blaenorol o 48 awr. A hefyd o ran y pàs COVID, rŷn ni'n cael gwared ar dystiolaeth o imiwnedd naturiol, yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chynllun B mewn ymateb i omicron. Rŷn ni'n ystyried sut i gefnogi ymweliadau mwy diogel mewn cartrefi gofal ac ysbytai i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r pobl sydd fwyaf agored i niwed.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod pryderus ac yn un sy'n ansicr i bob un ohonon ni. Rŷn ni wedi wynebu heriau gyda'n gilydd o'r blaen, ac mae angen inni gydweithio gyda'n gilydd nawr, edrych ar ôl ein gilydd a chadw'n gilydd a Chymru yn ddiogel. Diolch yn fawr.
Gweinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r copi ymlaen llaw heddiw, a hefyd am y briff y gwnaethoch ei roi i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'ch swyddogion? Roedd hynny'n ddefnyddiol y bore yma hefyd. Cytunaf â chi, Gweinidog; mae pryder mawr yma, oherwydd mae cymaint o ansicrwydd a gwyddom fod omicron yn prysur ddod yn brif straen ar draws y DU ac yng Nghymru. Wrth gwrs, cytunaf mai cynyddu'r rhaglen frechu yw'r flaenoriaeth ac mae'n rhaid ehangu'r rhaglen frechu'n gyflym.
A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich mesurau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio? A gaf fi ofyn am negeseuon, yn gyntaf oll? Gan y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad ddoe a heddiw—y neges yw, 'Ewch am eich brechlyn atgyfnerthu, a gwnewch hynny yn flaenoriaeth'. Ond i lawer o bobl ledled Cymru, nid dyna'r mater mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw’n barod; maen nhw'n barod i gael eu brechlyn atgyfnerthu. Credaf mai'r cwestiwn yw sut y gallan nhw wneud hynny. I lawer o bobl, er gwaethaf y negeseuon ei fod yn flaenoriaeth, mae'n fater o eistedd ac aros nes i chi gael eich gwahoddiad. Dyna'r realiti yma. Felly, dyna rai o'r materion o ran negeseuon yr oeddwn eisiau eu codi gyda chi am hynny. Oherwydd byddwn i'n dychmygu bod unrhyw un yn y Senedd rithwir hon heddiw yn teimlo'r un ffordd. Rwy'n barod i ollwng popeth i gael fy mrechlyn atgyfnerthu. Rwyf eisiau gwybod sut rwy'n mynd i ganfod lle rwy'n mynd i'w gael, pryd gaf fi wybod, beth ddylwn i ei wneud ac erbyn pa ddyddiad os nad wyf wedi cael fy ngwahoddiad. Felly, os dyna'r cwestiynau sydd gennyf i ac Aelodau yn y Siambr rithwir hon y prynhawn yma, dyna fydd y cwestiynau gan bobl ledled Cymru. Credaf mai dyna'r elfen bwysig yma o ran cyrraedd y targedau yr ydych chi wedi'u nodi—y targedau uchelgeisiol yr ydych chi wedi'u gosod i gynnig y gwahoddiad i bob oedolyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Ynghylch y mesurau eraill o ran y nifer sy’n manteisio hefyd, yn eich papur briffio heddiw, fe wnaethoch sôn am gynlluniau ar gyfer cynyddu oriau agor. Fe wnaethoch sôn am hynny yn eich datganiad heddiw, ond nid wyf yn credu i chi sôn am yr amseroedd. Credaf yn y briff heddiw, os wyf yn iawn, eich bod wedi sôn am gynyddu amseroedd agor o 9 a.m. i 8 p.m. A gaf i awgrymu, i lawer o bobl, y gallant gyrraedd cyn 9 a.m. os yw hynny'n briodol? Gall llawer o bobl fod yn bresennol ar ôl 8 p.m. Felly, gaf fi ofyn i chi ailystyried amseroedd agor hirach efallai? Oherwydd byddwn yn awgrymu ei bod yn anodd iawn cyrraedd eich targed os na fydd yr amseroedd agor yn cael eu hymestyn ymhellach.
Law yn llaw â'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, mae gwirfoddolwyr hefyd. Rydych chi wedi sôn am weithio gyda'r trydydd sector, ac rwy’n croesawu hynny. A wnewch chi nawr lansio ymgyrch recriwtio ledled Cymru ar gyfer gwirfoddolwyr? Oherwydd heb os nac oni bai mae angen i hynny ddigwydd ar frys. A gaf fi ofyn i chi beth yw eich cynlluniau o ran llenwi bylchau pan nad yw pobl yn cyrraedd, yn anffodus, ar gyfer apwyntiadau? Mae'n rhwystredig iawn, rwy'n gwybod. Ond pan nad yw pobl yn cyrraedd, beth yw'r cynlluniau ar gyfer llenwi'r apwyntiadau hynny gyda rhychwant amser byrrach?
Fe wnaethoch ddweud yn eich datganiad fod data sy'n dod i'r amlwg wedi datgelu nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. A wnewch chi egluro a yw hyn dim ond yn gysylltiedig ag AstraZeneca, neu'r ddau frechlyn? A faint o ran y mae'r amser ers cael brechlyn yn ei chwarae i amddiffyn eich hun yn erbyn yr amrywiolyn newydd hwn? A gaf fi hefyd ofyn pa gynlluniau sydd gennych chi o ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu? Fe wnaethoch chi sôn ychydig am hynny heddiw hefyd. Rwyf yn pryderu am fod un o bob pump o bobl ledled Cymru eisoes ar restr aros, felly pa ymdrechion yr ydych chi’n eu gwneud i atal rhestrau aros rhag cynyddu ymhellach yn hyn o beth, a pha gynnydd sy'n cael ei wneud ar ganolfannau llawfeddygol, fel yr wyf wedi'i amlinellu o'r blaen?
Ac yn olaf, mae'n ymddangos bod rhywfaint o ddata cadarnhaol, data cynnar, sy'n dangos bod cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y dyddiau diwethaf, felly tybed pa asesiad sydd wedi'i wneud o rannau eraill o'r byd lle mae'r amrywiolyn newydd wedi datblygu'n sylweddol sy'n dod â rhywfaint o obaith ac anogaeth y gellir ei dynnu o'r data hwnnw.
Diolch yn fawr, Russell. Brechu yw'r flaenoriaeth nawr, ac os ydym eisiau diogelu ein GIG wrth fynd i fis Ionawr yn arbennig, yna dyma'r amser i wneud y gwaith hwn, a dyna pam yr ydym wedi rhoi mwy o hwb i’n system mewn gwirionedd, i sicrhau y gellir cyflwyno'r rhaglen frechu honno'n llawer cyflymach, ond nid yn y ffordd anhrefnus yr ydym wedi'i gweld yn Lloegr. Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau'n wahanol. Rydym yn ceisio paratoi pethau cyn gwneud cyhoeddiad. Fe welsoch y golygfeydd hynny yn Lloegr dros y penwythnos—miloedd o bobl yn cyrraedd canolfannau brechu, dim cynllun, ac nid oedd meddygon teulu hyd yn oed wedi cael gwybod. Rydym yn gwneud pethau'n wahanol iawn yma yng Nghymru. Rydym yn cael sgwrs yn gyntaf, rydym yn paratoi’r cyfan, ac yna rydym ni’n gwneud cyhoeddiad. Dyna'n union yr ydym wedi bod yn ei wneud.
Mae rhai manylion i’w cadarnhau. Fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn dasg enfawr y byddwn yn ei hwynebu. Beth fydd yn digwydd yw, pan fydd yn amser i'ch brechu, byddwch yn cael neges testun neu byddwch yn cael galwad ffôn, felly mae'n bwysig bod pobl wedi rhoi eu manylion cyswllt i'w meddyg teulu fel bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf. Yna byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn rhoi gwybod i chi'n gyhoeddus os dylech fod wedi bod yn y grŵp o bobl a ddylai fod wedi'u galw. Felly, rydym yn glynu wrth awgrym y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylem frechu pobl yn nhrefn blaenoriaeth o ran bod yn agored i niwed, mewn gwirionedd—felly mae'n ddull sy'n gysylltiedig ag oedran ac yn ddull sy'n gysylltiedig â salwch, fel yr argymhellwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rydym ni'n mynd i gadw at hynny.
Mae'n bosibl y byddwn yn ymestyn yr amseroedd agor y tu hwnt i 8 o'r gloch, felly mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei weithio allan nawr. Mae hynny'n debygol o ddigwydd, yn sicr yn rhai o'n canolfannau mwy. Mae'r ymgyrch recriwtio eisoes wedi dechrau. Rydym wedi dweud wrth bobl y gallant gofrestru a'n helpu o ran gwirfoddoli, felly mae hynny eisoes wedi'i wneud, ac mae proses ar wahân ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n weithwyr iechyd proffesiynol. Rydym hefyd yn aros am ymateb gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i'n cais am gefnogaeth gan y fyddin hefyd.
O ran y bylchau, rydym yn siomedig iawn. Mewn rhai ardaloedd rydym yn gweld llawer o bobl nad ydyn nhw'n dod ar gyfer eu brechiad, ac mae hynny'n sefyllfa wirioneddol anodd sy'n codi, a dyna pam mae angen i ni danlinellu'r ffaith bod hwn yn gyfle hanfodol i bobl ei gymryd a chael y brechlyn atgyfnerthu hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym wedi ei wneud bob amser yw cael system o or-lenwi apwyntiadau, a byddwn yn gor-lenwi eto i sicrhau nad ydym yn cael y bylchau hynny.
Mae'n wir nad yw dau ddos o AstraZeneca yn ddigon yn sicr, ond mae hefyd yn wir o ran Pfizer hefyd. Dyna pam ein bod yn gwthio hyn mewn gwirionedd gydag ymdeimlad gwirioneddol o frys. Rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu pan ddaw'n fater o'r bwlch rhwng dosau. Maen nhw wedi cytuno ei bod yn bosibl lleihau'r amser rhwng dosau—yr ail ddos a'r dos atgyfnerthu—o chwe mis i dri mis, felly rydym yn dilyn y cyngor gwyddonol ar hynny.
O ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu, rwyf am danlinellu bod hwn yn fwrlwm tair wythnos yr ydym yn sôn amdano—mae'n gyfnod o dair wythnos o weithgarwch, ac yna gobeithio y byddwn yn gallu mynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd, sut bynnag y mae normalrwydd yn edrych y dyddiau hyn. Felly, mae'n bwysig i bobl ddeall hynny.
Ar y sefyllfa o ran cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica, rwyf wedi bod yn ceisio darllen am hyn y prynhawn yma. Yr hyn sy'n amlwg yw bod yr arbenigwyr yn rhybuddio nad yw profiad De Affrica o bosibl yn ddangosydd dibynadwy o ran omicron mewn gwledydd eraill. Felly, roedd 72 y cant o'r boblogaeth honno wedi profi haint COVID blaenorol. Nid yw hynny'r un sefyllfa ag yma yn y DU. Mae gennym ddemograffeg wahanol, mae gennym boblogaeth hŷn yma, mae gennym wahanol wendidau i glefydau, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn deall, oherwydd bod y system yn wahanol yn Ne Affrica, ein bod yn gweld cyfraddau'r ysbyty—. Rwy'n credu mai'r peth call i'w wneud yw bod yn ofalus, paratoi ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau.
Diolch, Llywydd. Rydw innau'n sicr yn cytuno efo'r Gweinidog bod y sefyllfa yn ddifrifol tu hwnt, a dwi'n diolch ymlaen llaw i'r holl weithwyr hynny mewn gwasanaethau iechyd a gofal, a gwasanaethau brechu a phrofi ac olrhain, ac yn y blaen, sydd eto yn mynd i fod o dan bwysau mawr yn y cyfnod o'n blaenau ni, a hwnnw'n gyfnod o bwysau mawr beth bynnag, heb omicron.
Dwi'n gobeithio, i roi nodyn mwy positif, fod peth o'r dystiolaeth gynnar rydan ni'n ei gweld yn mynd i brofi yn gywir, a'n bod ni efallai yn symud i mewn i bennod o'r pandemig lle mae'r feirws, o bosib, yn llai peryglus. Ond, wrth gwrs, am rŵan, dydyn ni ddim yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid sylweddoli bod yna niferoedd uchel iawn yn mynd i gael y feirws rŵan. Hyd yn oed os ydy cyfradd y bobl sy'n mynd yn wirioneddol sâl yn is, mae o'n mynd i olygu pwysau mawr ar ein gwasanaethau iechyd ni oherwydd y niferoedd.
Dwi, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o gyflymu'r broses o roi'r brechlyn booster, ond y perig sydd gennym ni rŵan, dwi'n meddwl, ydy bod disgwyliadau pobl yn uchel iawn, iawn, a dwi ddim eto wedi gweld y cynllun sydd yn rhoi hyder bod y rhaglen yn barod i fynd. Mae'r gwaith yn sicr yn adeiladu yn dda, a dwi'n ddiolchgar am y diweddariadau rydyn ni wedi'u cael gan y Gweinidog y pnawn yma ac mewn datganiad yn gynharach heddiw. Ond tra'i bod hi'n sôn am chaos yn Lloegr—fe welais innau yr un lluniau hefyd—dwi innau, mae gen i ofn, yn clywed adroddiadau am chaos yma yng Nghymru mewn llefydd, efo pobl yn troi fyny i ganolfannau brechu ac yn cael eu troi i ffwrdd oherwydd bod ganddyn nhw apwyntiad ym mis Ionawr, tra bod pobl eraill oedd ddim wedi cael apwyntiad eto, oherwydd eu bod nhw'n llai o flaenoriaeth, yn cael cerdded i mewn a chael y booster. Dydy hynny ddim yn gwneud llawer o synnwyr.
Mae angen eglurder ar beth sy'n digwydd i weithwyr allweddol sydd ddim yn weithwyr iechyd a gofal—heddlu ac athrawon. Oes yna ffordd iddyn nhw gael y brechiad ynghynt? Lle mae'r cynlluniau cadarn i fynd i'r afael â brechu pobl yn eu cartref, y bobl hynny sydd yn rhy fregus ac â phroblemau symudedd ac yn methu mynd i mewn i ganolfannau brechu? Mae'n rhaid i gyfathrebu fod yn glir yn wastad efo cleifion, ie, ond efo cydweithwyr o fewn gwasanaethau iechyd. Dydy o'n gwneud dim synnwyr i mi pan fydd un feddygfa yn dweud mai clywed ar Facebook wnaethon nhw bod yna ganolfan frechu walk-in yn yr ardal. Mae'n rhaid i hyn gael ei dynhau, ac mae'r cwestiynau yn lluosog, onid ydynt? Pa bryd fydd y canolfannau brechu cerdded-i-mewn yn agor? A fydd yna rai ym mhob un rhan o Gymru? A fydd pobl yn cael teithio o un ardal i'r llall rhwng siroedd, rhwng ardaloedd bwrdd iechyd, hyd yn oed i Lundain os ydyn nhw wedi clywed bod yna ganolfan frechu yn fanno, fel y gwnaeth un awgrymu wrthyf i yn gynharach? Dyma'r math o bethau rydyn ni angen eglurder arnyn nhw.
Dwi'n gwybod gymaint o her mae'r Llywodraeth, y byrddau iechyd a timau brechu yn ei hwynebu, a dwi'n ddiolchgar am ymroddiad pawb ar wyneb y graig, a dwi'n dymuno'n dda i bawb yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni, ond mae angen i'r negeseuon yna fod yn gwbl glir, achos nid mynnu cael y booster heddiw neu yfory mae pawb, ond eisiau gwybod beth yn union sydd o'u blaenau nhw. Maent yn hapus i glywed y bydd popeth yn iawn yr wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn, a beth fydd yn digwydd os nad ydyn nhw wedi cael eu tro erbyn hynny.
At y pwysau ar yr NHS wrth i frechu gael ei flaenoriaethu, ydy, mae hynny'n anochel. Mae'n anochel, mae'n siŵr, yn y sefyllfa rydyn ni ynddi hi fod yna beth gohirio yn mynd i fod ar driniaethau a fyddai wedi digwydd fel arall. Dydy o ddim yn ddigon, mae gen i ofn, i glywed bod y Gweinidog yn obeithiol y bydd pethau'n dod yn ôl i drefn wedyn. Wel, na, mae eisiau cynllun clir i ddod â phethau yn ôl i drefn. Ydyn, rydyn ni'n gobeithio y bydd hon yn broses fydd drosodd mewn ychydig wythnosau, ond mae'n rhaid i'r cynllun ynglŷn â sut i ddod yn ôl on track, fel petai, fod yn glir ar gyfer y cyfnod ar ôl hynny. Felly, mi fyddai eglurder ar hynny yn dda.
Yn olaf, rydw innau'n gobeithio'n fawr na fydd angen cyflwyno cyfyngiadau llawer mwy llym yr ochr yma i'r Nadolig am resymau lles pobl, a rhesymau cymdeithasol a rhesymau economaidd hefyd. Mi fyddai'n sicr angen gwybod am gefnogaeth ariannol i fusnesau, ac ati, a fyddai'n dioddef pe bai angen cyfyngiadau ar ôl hynny. Ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiadau heddiw ynglŷn â'r cryfhau sydd yna ynglŷn â sawl elfen sylfaenol, rŵan—gwisgo mygydau mewn mwy o lefydd, a chynghori pobl yn gryfach, hefyd—oherwydd er, fel dwi'n dweud, fy mod i, fel pawb, dwi'n siŵr, yn gobeithio gallu osgoi cyfyngiadau uwch am rŵan, all pethau chwaith ddim cario ymlaen cweit fel ag yr oedden nhw, ac mae gan bob un ohonom ni ein rhan i chwarae yn ymateb i'r bygythiad newydd yma.
Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n meddwl eich bod chi'n eithaf iawn fod niferoedd uchel iawn yn mynd i gael yr amrywiolyn omicron yma, a dwi'n derbyn bod y disgwyliadau yn uchel iawn, ond byddwn i'n hoffi gofyn i'r cyhoedd i aros tan eu bod nhw'n cael eu galw, er mwyn inni gadw trefn ar hwn. Roedd 26,000 o bobl wedi cael eu brechu ddoe, felly rŷm ni eisoes wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y dyddiau diwethaf. O ran pobl sy'n cael eu brechu yn y cartref, rŷm ni wedi rhoi ysgogiad ychwanegol i GPs nawr fynd ati i helpu i gynyddu'r niferoedd fydd yn cael y brechlyn yn y cartref. Fe fydd walk-ins gyda ni, ond fyddan nhw ddim yr un peth ag sydd gyda nhw yn Lloegr, achos rŷm ni'n benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl ifanc, er enghraifft, sy'n ffit ac yn 20 mlwydd oed, ddim yn cael y brechlyn cyn pobl sydd yn risg uchel, sy'n 64 mlwydd oed. Felly, bydd walk-ins ar gael, ond byddan nhw ar gyfer cohort arbennig o bobl, felly byddwn ni'n gwneud pethau ychydig yn wahanol i'r ffordd maen nhw'n ei wneud e yn Lloegr.
O ran pethau'n mynd nôl i drefn ac on track, Rhun, os wyt ti'n gwybod beth mae Ionawr yn edrych fel yn yr NHS, ti'n gwneud lot gwell job na fi, achos dwi'n meddwl bod y sefyllfa'n mynd i fod yn anodd iawn ym mis Ionawr. Dydyn ni ddim yn gwybod sut mae omicron yn mynd i effeithio ar yr NHS. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o weithwyr fydd off yn sâl o ran omicron. Felly, yn amlwg, mae'n anodd inni ragweld beth fydd Ionawr yn edrych fel. Felly, mae gyda ni cynllun ar gyfer y tair wythnos nesaf. Mae'n wastad gyda ni cynllun gaeaf ar gyfer yr NHS. Mae hynny eisoes mewn lle. Ond, yn amlwg, efallai fydd yn rhaid inni addasu yn wyneb y ffaith bod yr amrywiolyn yma yn mynd i roi pwysau cynyddol ar y sector.
Bydd y Cabinet yn cwrdd, yn amlwg, yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos i benderfynu a oes angen mwy o gyfyngiadau i'n cadw ni'n saff dros y Nadolig.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'n hyrwyddwyr brechlyn yn y GIG. Gweinidog, gwyddom fod yr amrywiolyn omicron i bob pwrpas yn lleihau imiwnedd a gyflawnwyd gan ddau ddos o'r brechlyn i ddim byd bron yn achos Oxford-AstraZeneca ac i'r amddiffyniad lleiaf posibl rhag haint yn achos Pfizer, ond nid yw hynny'n golygu na fydd y dosau dwbl yn helpu pobl i frwydro yn erbyn salwch difrifol yn sylweddol o ganlyniad i gael eu heintio â COVID-19. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi a gofyn i bobl 'gymryd prawf llif unffordd cyn mynd' a hefyd galw ar bobl Islwyn i gael brechlyn atgyfnerthu y Nadolig hwn, i gadw eu hunain yn ddiogel, cadw eu teuluoedd yn ddiogel, a chadw Cymru'n ddiogel? A phan fydd pobl yn gofyn, 'Pam cael y brechlyn atgyfnerthu ar ôl dau ddos?', onid yw'n gywir y bydd y brechlyn atgyfnerthu yn cynyddu lefelau imiwnedd i dros 70 y cant, ac, fel y dywedodd un gohebydd, y dos cyntaf yw addysg ysgol gynradd eich corff, mae'r ail ddos yn debyg i anfon eich corff i'r ysgol uwchradd, ac mae'r dros atgyfnerthu yn debyg i brifysgol, gan ddyfnhau ac ehangu gallu ein corff ein hunain i ymladd y feirws dieflig hwn?
Yn olaf, Gweinidog, y tu allan i'r grwpiau blaenoriaeth, pryd byddwch yn bwriadu agor lonydd a chanolfannau galw i mewn i bobl Islwyn, yn ogystal ag ymestyn oriau agor canolfannau brechu yn sylweddol? Diolch.
Diolch, Rhianon. Rydych chi'n llygad eich lle; nid yw'r dos dwbl yn ddigon. Ond y peth olaf yr ydw i eisiau ei wneud yw peri i bobl sydd heb gael unrhyw ddosau o gwbl benderfynu peidio â chael brechiad. Dyma'r rhai yr wyf yn dal i bryderu fwyaf amdanyn nhw—pobl nad ydyn nhw wedi cael unrhyw amddiffyniad o gwbl. Mae ein hadrannau gofal dwys o dan bwysau aruthrol, a rhan o hynny yw bod pobl yno nad ydyn nhw wedi cael brechiadau o gwbl, ac mae'n rhoi pwysau ar ein system gofal dwys yn ddiangen. Rwyf yn pledio'n wirioneddol â phobl i feddwl sut mae eu gweithredoedd yn cael effaith wirioneddol ar bobl eraill, yn yr ystyr y gallen nhw fod yn cymryd gwely ysbyty y gallai rhywun arall fod yn ei gymryd ar gyfer argyfwng nad achoswyd ganddyn nhw eu hunain. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael pobl i ddeall eu cyfrifoldeb i'r gymuned ehangach a'r gymdeithas ehangach yma. Gan nad oes yr un ohonom yn gwybod sut y byddem yn ymateb pe baem yn dal coronafeirws, felly mae angen i ni danlinellu hynny mewn gwirionedd.
Byddwn, fel y pwysleisiais, yn gwneud canolfannau galw i mewn, ond ni fyddant ar sail rydd i bawb; byddant mewn carfannau penodol. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu cyfrifo yn ystod y dyddiau nesaf. Ond yn llythrennol—pa ddiwrnod ydy hi heddiw? Dydd Mawrth—rydym wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos ar hyn ac, yn amlwg, mae llawer iawn i'w roi ar waith i gynyddu'r rhaglen hon mewn gwirionedd. Mae eisoes wedi cael hwb, ond mae angen i ni ddyblu'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud, felly mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd sefyll gyda'n gilydd a diolch i weithlu'r GIG am y gwaith anhygoel maen nhw wedi'i wneud, ond, yn fwy na dim, rydyn ni nawr yn gofyn iddyn nhw fynd yr ail filltir unwaith eto; ar adeg sensitif o'r flwyddyn, pan fyddan nhw eisiau bod gyda'u teuluoedd, rydym yn gofyn iddyn nhw ganslo eu gwyliau—yr holl bethau hyn. Mae'n ofyn enfawr arall i'r bobl sydd wedi rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain yn barod.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, yn ogystal â thrafod gyda'ch swyddogion a chaniatáu iddynt friffio aelodau'r pwyllgor iechyd yn gynharach y prynhawn yma.
Gweinidog, er ei bod yn bwysig ein bod yn ymateb i'r darlun sy'n datblygu o ran omicron, mae'n hanfodol nad ydym yn gor-ymateb —byddai hyn yn creu mwy o niwed na lles. Rwyf yn croesawu'r ffaith na chyflwynwyd unrhyw ymyriadau newydd nad ydyn nhw'n ffarmacolegol ddydd Gwener, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed, felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, diweddarwyd y canllawiau i gartrefi gofal ddydd Gwener, ond nid yw'n sôn yn benodol am yr amrywiolyn omicron. A fyddwch chi'n diweddaru'r canllawiau i adlewyrchu effaith bosibl yr amrywiolyn newydd? Ac yn benodol, Gweinidog, mae arwyddion cynnar o'r gallu i drosglwyddo omicron yn dangos y gallai fod wedi'i drosglwyddo drwy aerosol yn fwy nag amrywiolion eraill, felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, a fyddwch yn rhoi gwell cyfarpar diogelu personol i staff cartrefi gofal, megis masgiau FFP3? Wrth gwrs, y ffordd orau o ddiogelu staff a phreswylwyr cartrefi gofal yw'r brechlyn atgyfnerthu. Felly, Gweinidog, pryd y gallwn ddisgwyl i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal gael eu pigiadau atgyfnerthu, oherwydd, fel y mae, nid yw un o bob tri aelod o staff ac 16 y cant o'r trigolion wedi cael brechlyn atgyfnerthu eto?
Yn olaf, Gweinidog, gyda'r straen ar y GIG dros y misoedd nesaf, bydd pwysau enfawr i symud cleifion o ysbytai ac i'r system ofal. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn dod yn gludwr a fyddai'n trosglwyddo COVID i'r sector gofal? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gor-ymateb yn rhywbeth yr ydym, yn amlwg, yn ymwybodol iawn ohono. Gwyddom nad yw'r sefyllfa'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae'n ymwneud â chanlyniadau economaidd, canlyniadau cymdeithasol, canlyniadau iechyd meddwl; mae'n rhaid i ni gydbwyso'r holl bethau hyn yn erbyn y potensial i lethu ein GIG. Felly, mae'r holl bethau hyn yn bethau yr ydym yn eu rhoi yn y gymysgedd cyn i ni feddwl am gyflwyno unrhyw amddiffyniadau newydd.
O ran y canllawiau sy'n cael eu diweddaru ar gyfer cartrefi gofal, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r sector, cael sgyrsiau gyda'r sector—felly, nid ydym yn eu gorfodi; rydym yn siarad â nhw am yr hyn sy'n bosibl, beth sy'n ymarferol a beth fydd yn gweithio. Felly, rydym yn gweithio gyda'r sector. A dwi'n meddwl ein bod ni'n ymwybodol iawn y bydd pethau'n newid yn gyflym iawn. Felly, fe wnaethoch sôn am beidio â gor-ymateb. Mae gennym 30 o achosion yng Nghymru. Mae pethau'n mynd i newid yn gyflym iawn ac mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni addasu sut yr ydym yn monitro ein canllawiau mewn cysylltiad â chartrefi gofal.
O ran cyfarpar diogelu personol, rydym wedi gwneud mwy o waith mewn cysylltiad â masgiau FFP3 ac, unwaith eto, mae ein clinigwyr yn edrych ar hyn, i weld a yw hyn yn rhywbeth y mae angen ei gyflwyno. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ymwybodol iawn ei fod yn ofyn mawr i ofyn i bobl wisgo masgiau FFP3 drwy'r dydd; mae'n rhywbeth y maen nhw, weithiau, yn amharod i'w wneud hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cyrraedd y lle iawn gyda hyn; mae'r sgyrsiau hynny'n parhau.
O ran brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr a gweithwyr cartrefi gofal—preswylwyr cartrefi gofal, rydym hyd at tua 85 y cant eisoes. Felly, rwy'n credu bod hynny'n lefel eithaf uchel. Felly, rydym yn falch o hynny, ond mae gennym ychydig o ffordd i fynd i gyrraedd y 97 y cant sydd wedi cael y cwrs cyntaf cyflawn. Rhywfaint o hynny, nid yw oherwydd nad ydyn nhw wedi cael cynnig; y rheswm dros hynny yw bod amgylchiadau a rhesymau gwahanol pam y dylai hynny ddigwydd. Gweithwyr cartrefi gofal—rydym hyd at 67 y cant o weithwyr cartrefi gofal sydd wedi cael y dos atgyfnerthu. Felly, yn amlwg, rydym yn awyddus i weld a allwn godi hynny'n uwch. Mae ein tystiolaeth yn awgrymu nad rhyddhau pobl o'r ysbyty oedd yn gyfrifol am gario heintiau i gartrefi gofal, mewn gwirionedd—. Roedd rhan ohono oherwydd bod gennym sefyllfa lle'r oedd gweithwyr cartrefi gofal yn mynd o gartref gofal i gartref gofal a, phan fydd yn y gymuned, mae'n anodd iawn ei gadw allan o unrhyw le arall. Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos hynny. Mae ceisio adeiladu wal o amgylch y lleoedd hyn bron yn amhosibl. Felly, dyna mae'r dystiolaeth ryngwladol wedi'i ddangos i ni. Felly, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, a dyna pam mae angen sicrhau ein bod yn profi ac yn profi ac yn profi eto, pan ddaw'n fater o gartrefi gofal.
Rŷn ni wedi cael neges glir iawn gennych chi heddiw, Weinidog, i bobl aros am apwyntiad. Ond dwi wedi cael llu o alwadau heddiw a negeseuon gan bobl yn gofyn pryd y bydd walk-ins yn fy rhanbarth i, a gweld bod yna fyrddau iechyd ac ati yn hybu hyn. Wedyn, dwi yn ofni bod yna rhyw fath o banig allan yna, a dwi'n meddwl nad yw'r negeseuon yma sy'n gwrthdaro efo'i gilydd yn help ar y funud yma, o weld bod yna rai ardaloedd yn gallu cael walk-ins a rhai eraill ddim. Felly, mae cael eglurder ar hynny yn hollbwysig.
Mae'n ddrwg gen i hefyd swnio fel tôn gron, ond mi oeddwn yn gobeithio heddiw cael, fel rhan o'ch datganiad, ddiweddariad ynglŷn â'r pàs COVID o ran y bobl sy'n methu â chael eu brechu am ryw reswm. Dwi wedi codi hyn gyda chi ar nifer o achosion ers 2 Tachwedd. Ar wefan Llywodraeth Cymru, mae'n parhau i ddweud bod y system yma'n cael ei datblygu i sicrhau bod pobl yn gallu cael pàs COVID os oes ganddyn nhw eithriad, neu maen nhw'n methu â chael brechlyn, neu'n methu â chymryd prawf llif unffordd am resymau meddygol ac ati.
A oes modd cael diweddariad o ran pryd y bydd y system yma ar gael, os gwelwch yn dda? Oherwydd mae pobl yn dal i bryderu a methu â chael at bethau fel mynd i weld sioeau ac ati, neu fynd i sinemâu, ac yn poeni bod pobl sydd ag awtistiaeth ac ati yn cael eu harddel rhag gweithgareddau ar y funud oherwydd bod y system yma mor araf yn cael ei rhoi yn ei lle, o'i gymharu efo'r hyn dŷn ni wedi'i weld yn Lloegr. Diolch.
Diolch, Heledd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig bod pobl yn deall bod ein system ni yng Nghymru yn wahanol i'r system yn Lloegr. Dŷn ni ddim yn mynd i gael walk-ins fel yn Lloegr. Dyw e ddim yn mynd i fod yn free-for-all fan hyn. Rŷn ni'n mynd mewn trefn. Felly, dwi ddim yn gwybod o ble mae pobl yn cael y syniad ein bod ni'n ei wneud e yn y ffordd maen nhw yn Lloegr. Dŷn ni ddim. Rŷn ni'n mynd i fynd ar system lle'r ŷm ni'n mynd yn ôl oedran a pha mor fregus yw pobl.
Dwi'n gwybod bod pobl efallai yn anghyffyrddus gyda hynny, ond dyna beth rŷn ni'n ei wneud. Rŷn ni'n dilyn y canllawiau sydd wedi dod oddi wrth y JCVI. Felly, bydd walk-ins, ond byddan nhw'n walk-ins ar gyfer grwpiau arbennig—ar gyfer, er enghraifft, clinical at-risk groups. Byddan nhw'n cael, 'Reit, heddiw yw'r diwrnod am eich walk-in chi.' Neu bobl sy'n 55-59 oed, 'Heddiw yw eich diwrnod chi.' Fydd e ddim yn free for all fel yw e yn Lloegr.
Dŷn ni ddim eisiau gweld pobl yn oeri tu fas yng nghanol y gaeaf, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Beth sy'n digwydd fanna yw survival of the fittest; pobl ffit sydd yn gallu ciwio yn y sefyllfa yna. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl gofalu a diogelu pobl sydd yn fwy bregus. Dŷn ni ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny.
O ran pobl sy'n methu â chael eu brechu, mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hwn, Heledd. Rŷn ni wedi analeiddio faint o bobl sy'n methu â chael eu brechu ac sy'n methu â chymryd prawf llif unffordd. Rŷn ni'n meddwl mai dim ond rhwng 100 a 500 o bobl sydd yn y sefyllfa honno. Felly, os yw pobl yn y sefyllfa honno, mae angen iddyn nhw gysylltu â'u meddyg nhw. Bydd hwnna’n mynd ar system, a bydd hwnna wedyn yn cael ei roi ar y pàs ar ran y person, ac felly fe fyddan nhw’n gallu cael y pàs yna. Dŷn ni ddim wedi gwneud hynny eto. Y rheswm pam mae hwnna jest wedi mynd ar saib ar hyn o bryd yw achos ein bod ni i gyd yn mynd ar y broses brechu yma. So, rŷn ni’n taflu popeth at hwnna; yr un bobl sy’n gwneud yr holl waith yma. Ond mae lot o’r gwaith wedi’i wneud. Rŷn ni’n gwybod, mwy neu lai, pwy yw’r bobl yma. Mae’r gwaith yna i gyd yn barod, ond mae’n rhaid inni jest gael y systemau i siarad gyda’i gilydd. So, rŷn ni’n gwybod pwy yw’r bobl. Dim ond tua 100 i 500 o bobl sydd yna. So, pan fo pobl yn troi lan i gemau rygbi yn mynd, 'O, dwi'n esempt', fyddan ni’n ffaelu gwneud hynny rhagor, achos bydd e i gyd ar y pàs COVID, bydd yn dangos yn glir—os ŷch chi’n esempt, bydd yn dod lan yn awtomatig.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog.