Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Dyna fe. Wel, diolch am y sicrwydd hynny. Dwi’n meddwl bod pob un ohonom ni’n gobeithio bydd modd darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen mor fuan ag sy’n bosibl.
Ond, rŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn cofio sut wnaeth Llywodraeth San Steffan anwybyddu cais Cymru i estyn taliadau ffyrlo pan aethon ni i mewn i’r firebreak y llynedd, a dim ond ar ôl i Loegr fynd i mewn i firebreak wedyn y gwnaethon nhw gyflwyno’r gefnogaeth i ni yma yn sgil hynny. Nawr, fe allem ni, wrth gwrs, fod yn wynebu sefyllfa debyg dros y misoedd nesaf. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi fel Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod trigolion Cymru ddim yn cael eu cosbi a ddim yn methu allan ar gefnogaeth gan y Trysorlys yn Llundain petai ni’n gorfod cymryd camau yn fan hyn sy’n wahanol, wrth gwrs, i'r rhai, efallai, bydd y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr yn eu cymryd?