Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:49, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Ymddiheuriadau os nad oeddwn yn glir. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried, heddiw, pa arian ychwanegol y gallai fod ei angen ar fusnesau i'w cefnogi drwy'r cyfnod nesaf hwn. Felly, cyn dod i'r sesiwn hon, cefais fy nghyfarfod diweddaraf gyda'r Prif Weinidog, a buom yn sôn am y cymorth y gallai fod ei angen ar fusnesau, ac yna mae trafodaethau pellach ar y gweill gennym gyda Gweinidog yr Economi. Felly, mae'r rhain yn drafodaethau byw iawn ac rwy'n cydnabod brys y sefyllfa. Rwy'n credu bod hynny ar wahân i'r gyllideb, a fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun nesaf, ac a fydd yn edrych ar y cyfnod o fis Ebrill ymlaen. Ond hoffwn roi sicrwydd fod y trafodaethau ar gymorth i fusnesau yn fyw iawn ar hyn o bryd.