Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:48, 15 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ydy, mae omicron yn taflu cysgod mawr dros Gymru'r Nadolig yma onid yw, ac, er na allwn ni ragweld efallai yn union beth fydd goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd ac i'r NHS, rydym ni eisoes yn gweld ei effaith e, onid ydym, er enghraifft, ar y sector lletygarwch, fel gwnaethoch chi gydnabod yn gynharach. So, i ddilyn i fyny ar eich ateb blaenorol chi, a allwch chi esbonio pam nad ydych chi, fel Gweinidog cyllid, yn bwriadu rhyddhau rhagor o gyllid i gefnogi'r sector lletygarwch nawr? Oherwydd mae'r ergyd a'r effaith i'r busnesau yna yn cael eu teimlo ar hyn o bryd wrth inni siarad. Dyw dweud, 'Arhoswch tan i fi gyhoeddi fy nghyllideb ddydd Llun' ddim yn datrys y broblem, oherwydd ymrwymiadau gwariant o fis Ebrill nesaf ymlaen fydd y rheini.