Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Mae Llywodraeth Cymru yn glir ynglŷn â'i huchelgais i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'r pandemig wedi creu heriau eithriadol i ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r gwasanaethau sy'n eu cefnogi. Yn sgil hynny, rhyddhawyd dros £4 miliwn o gyllid ychwanegol i'r sector i ymdopi â'r effaith.