Gwasanaethau Cam-drin Domestig

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:14, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yng Nghasnewydd, ac yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a sir Fynwy hefyd, mae Barnardo's Cymru yn rhedeg gwasanaeth Agor Drysau Caeedig, sy'n wasanaeth i'r teulu cyfan pan fo cam-drin domestig yn digwydd a theulu'n dioddef o ganlyniad. Yn wir, ers mis Mawrth 2019, mae dros 450 o deuluoedd wedi elwa o'r gwasanaeth hwn. Mae'n darparu cymorth wedi'i deilwra i oedolion a phlant sy'n goroesi cam-drin domestig, yn ogystal â gwasanaethau i gyflawnwyr. Dengys ymchwil gyffredinol fod mwy nag un o bob 10 plentyn dan 11 oed yn profi cam-drin domestig. Mae'r pandemig, gyda'r cyfyngiadau symud cysylltiedig, wedi gwaethygu'r problemau hyn, ac o ganlyniad, ceir galw cynyddol a pharhaus. Weinidog, mae gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth hwn gan Barnardo's wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae'n dangos gwerth y gwaith, ond mae cyllid y Swyddfa Gartref, sy'n galluogi'r prosiect hwn, ar hyn o bryd yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf ac mae'r dyfodol y tu hwnt i hynny'n ansicr. Weinidog, gydag Aelodau eraill o'r Senedd ar gyfer yr ardal sy'n elwa o'r gwasanaeth hwn, rwyf wedi ysgrifennu atoch ac wedi cynnwys y gwerthusiad ac esboniad o'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn, ac rwy'n meddwl tybed a fyddech yn ystyried cymorth ariannol angenrheidiol yn ofalus i sicrhau bod y gwaith pwysig a gwerth chweil hwn yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth y flwyddyn nesaf.