Arallgyfeirio ar Ffermydd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:46, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Felly, mewn perthynas â fy nghwestiwn atodol rwyf ar fin ei ofyn, mae'r Gweinidog wedi ymdrin â'r mater yn effeithiol yn y gorffennol, ac yn anffodus, rydym yn awr mewn sefyllfa lle mae wedi gwaethygu'n ddiweddar. Mae problem barhaus ar Fferm Gelliargwellt Uchaf yn fy etholaeth, lle mae fferm laeth fawr wedi arallgyfeirio i ailgylchu bwyd, ac mae wedi cael contract gyda nifer o awdurdodau lleol cyfagos, gan gynnwys Caerffili, a chloddio mwynau o chwarel ar y safle. Mae'r broses wedi peri pryder i drigolion ym mhentrefi cyfagos Gelligaer, Pen-y-bryn a Nelson dros y blynyddoedd, yn bennaf oherwydd llygredd sŵn, llwch ac arogleuon, a'r problemau sy'n gysylltiedig â thraffig cerbydau nwyddau trwm. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â thrigolion, gyda rhanddeiliaid allweddol megis cyngor Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gweithredwyr, Bryn Group, mewn lleoliad ffurfiol a reolir gan bwyllgor i geisio rheoli'r sefyllfa. Ond yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol yw pe gallwn gael cyfarfod â'r Gweinidog i siarad am rai o'r materion allweddol sy'n gysylltiedig â'r fferm hon sydd wedi arallgyfeirio'n helaeth ac edrych ar yr hyn y gellir ei wneud ynglŷn â rhai o'r materion penodol y soniais amdanynt i geisio lleddfu'r problemau i drigolion yn y flwyddyn newydd.