Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch. Mae'n eglur eich bod wedi cyfarfod â'r rhanddeiliaid cywir. Yn amlwg, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol ystod o bwerau ac offer gorfodi i fynd i'r afael â'r effeithiau amgylcheddol y cyfeirioch chi atynt ac yn amlwg, rydych wedi lleisio eich pryderon wrthynt hwy. Rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r Aelod. Rwy'n credu hefyd y byddai'n dda cael cyfarfod ar y cyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd mae'n eglur fod rhai o'r materion a godwyd gennych yn ei phortffolio hi. Yn sicr, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.