Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch, a diolch am roi'r cyfle imi gytuno â chi ynglŷn â sut y mae'n adeg dda o'r flwyddyn i brynu ein bwyd a'n diod gwych o Gymru. Mae bob amser yn beth da, ac roedd yn wych bod yn y ffair aeaf y mis diwethaf, a gweld y neuadd fwyd, a gweld pobl yn llythrennol yn ciwio yn yr awyr agored am amser hir i allu prynu bwyd a diod o Gymru unwaith eto ar faes sioe Frenhinol Cymru.
Cytunaf â chi am y gwaith sy'n parhau i gael ei wneud yn awr yng Nglynllifon. Ymwelais â'r lle y mis diwethaf i gael golwg ar eu cynlluniau ar ei gyfer, a byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r Ganolfan Technoleg Bwyd, a phrosiect HELIX, sy'n cael ei gyflawni yn Llangefni. Rwy'n credu y bydd y ddau'n cydgysylltu â'i gilydd yn dda iawn.