Bwyd a Diod o Ogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:26, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw. A gaf fi gytuno ag ef a'r Gweinidog, am yr hyn y mae hi wedi'i ddweud hefyd? Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod yn hynod o angerddol am y cyfraniad cadarnhaol y gall bragwyr a thafarndai lleol ei wneud i'n heconomi leol, a bragdai rhagorol fel y rhai yn sir y Fflint, Hafod a Polly's, neu'r Lager Wrecsam ardderchog yn eich etholaeth eich hun, fel y nododd Sam Rowlands, sydd unwaith eto wedi ennill gwobr arall—gwobr aur arall—am eu lager pilsner Bootlegger byd-enwog.

Nawr, Weinidog, yn y Senedd ddiwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yn y Senedd yn llwyddiannus, ac rydym ar fin ailymgynnull y grŵp pwysig hwn yn y flwyddyn newydd. A wnewch chi ymrwymo heddiw i ddod i ymwneud â'r grŵp yn y flwyddyn newydd, a dangos sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector pwysig hwn ledled Cymru?