Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
A gaf fi ddweud wrth fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, y byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn ymuno â'r grŵp trawsbleidiol hwnnw? Weinidog, os caf fynd yn ôl tua 10 mlynedd, rwy'n cofio Cadwyn Clwyd, asiantaeth ddatblygu ranbarthol, yn sicrhau £14 miliwn o gyllid yr UE i hybu'r economi wledig yn sir y Fflint a sir Ddinbych. Daeth mwy o gyllid i mewn i asiantaethau ar draws gogledd Cymru fel Partneriaeth Gogledd Gororau Cymru, Menter a Busnes a Menter Môn. Roedd yr arian hwn yn gymorth i lawer o gynlluniau hyrwyddo bwyd, megis gŵyl fwyd yr Wyddgrug, ac ariannu canolfan gynnyrch leol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gydag 16 o gyflenwyr bwyd a diod o bob rhan o ogledd Cymru. Mae wedi helpu i sefydlu llwybr bwyd bryniau Clwyd, ac wedi helpu i ariannu prosiect eirin Dinbych, ymhlith pethau eraill. Ond Weinidog, rwy'n pryderu am golli cyllid Ewropeaidd i'r sector bwyd drwy Lywodraeth Cymru. A ydych chi'n gwybod y daw arian newydd gan Lywodraeth y DU fel yr addawyd? Diolch.