Bwyd a Diod o Ogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:27, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jack Sargeant. Rwy'n falch iawn eich bod yn ailymgynnull y grŵp yn y flwyddyn newydd, ac wrth gwrs byddaf yn hapus iawn i ddod draw i'ch cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallaf. Fel y dywedwch, yn ein rhan ni o ogledd-ddwyrain Cymru mae gennym nifer o ficrofusnesau, bragdai a llawer o dafarndai lleol sy'n gwerthu'r cwrw hwnnw, felly mae'n dda iawn gallu dweud unwaith eto wrth bobl, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn o COVID rydym yn ei wynebu yn awr, 'Mae'n dda iawn cefnogi'r bragwyr lleol hynny.'