Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd y byddent yn cael gwared ar systemau cewyll yn raddol ar gyfer nifer o wahanol anifeiliaid fferm, a digwyddodd hynny o ganlyniad i fenter dinasyddion Ewropeaidd, End the Cage Age, a gefnogwyd gan 1.4 miliwn o ddinasyddion, ac roedd 54,000 ohonynt yn dod o'r DU. Yng Nghymru, mae llawer o anifeiliaid a ffermir yn dal i gael eu caethiwo mewn cewyll, gan gynnwys hychod mewn llociau porchella, ieir dodwy, adar hela a chwningod. Dywed End the Cage Age fod dros 16 miliwn o anifeiliaid yn y DU yn byw mewn system gewyll. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi ymrwymo i gyflwyno cynnig deddfwriaethol erbyn diwedd 2023 i ddiddymu'n raddol gan arwain at wahardd y defnydd o gewyll ar gyfer ieir, hychod, lloi, cwningod, hwyaid a gwyddau, ac anifeiliaid eraill hefyd. Maent wedi ymrwymo i gael gwared yn raddol ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio erbyn 2027. Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei wneud er mwyn gwella lles pob anifail sy'n cael eu ffermio yng Nghymru?