Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr, a chredaf fod Joyce yn codi pwynt pwysig iawn. Mae gennym enw da iawn am godi'r safonau ym maes lles anifeiliaid fferm. Fe gyfeirioch chi at gorau hychod ar gyfer moch a chewyll cig llo ar gyfer lloi—maent wedi'u gwahardd—a chewyll batri ar gyfer ieir dodwy. Rydym yn wirioneddol awyddus i barhau i adeiladu ar hyn, a dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiad i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Lluniwyd y rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd yn 2007, ond maent yn nodi amodau manwl ar gyfer cadw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Felly, fel y soniais yn fy ateb cynharach, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda gweinyddiaethau eraill i ystyried sut y gallwn wella ein safonau uchel iawn ym maes lles anifeiliaid a ffermir ymhellach drwy archwilio, er enghraifft, y defnydd o gewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy a llociau porchella ar gyfer moch. Rydym yn mynd i ystyried o ddifrif beth yw'r effaith ar les yr anifeiliaid, y diwydiant, argaeledd masnachol systemau amgen, yn ogystal â'r effaith ar ddefnyddwyr, masnach, ac yn bwysig, yr amgylchedd.