– Senedd Cymru am 3:09 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf y prynhawn yma gan Elin Jones.
Cafodd Geiriadur Prifysgol Cymru ei sefydlu gan Brifysgol Cymru union 100 mlynedd yn ôl. Mae ynddo bron i 90,000 o gofnodion ac mae'n cynnwys tua 9 miliwn o eiriau—rhai bellach allan o ddefnydd bob dydd, rhai yn newydd eu defnydd.
Mae'r Gymraeg, fel pob iaith, yn esblygu'n barhaus, a'r geiriadur sy'n ei chofnodi yn esblygu hefyd. Mae'r gwaith yma'n cael ei wneud gan dîm bach o weithwyr arbenigol yn Aberystwyth, sy'n ymchwilio i ddefnydd cynharaf unrhyw air, ei ystyr a'r ddealltwriaeth amrywiol ohono mewn tafodieithau gwahanol. Fyddai'r gwaith yma ddim yn bosibl oni bai am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Yn 2002, cwblhawyd a chyhoeddwyd pedair cyfrol gyfan y geiriadur, a 'Zwinglîaidd' oedd y gair olaf bryd hynny. Yna, mi oedd angen cychwyn ar y gwaith o'r newydd, o ddiweddaru yn barhaus. Wrth gwrs, erbyn hyn, mae'r geiriadur cyfan ar gael ar y we i bawb am ddim, ac ers 2006, ar ap Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd. O bosibl, dyma'r unig eiriadur hanesyddol llawn sydd ar gael am ddim fel hyn.
Wn i ddim beth yw'r gair hynaf yn yr iaith Gymraeg, ond liciwn i fentro taw gair ieuengaf y Gymraeg yw 'hwblyn', sef gair newydd am 'booster' a gafodd ei fathu ar Twitter yn yr wythnosau diwethaf yma gan Dr Eilir Hughes—gair a fydd yn ymddangos yn y geiriadur ar ryw bwynt yn y dyfodol agos, mae'n siŵr.
Diolch i'r rhai a gafodd y weledigaeth i gychwyn y geiriadur 100 mlynedd yn ôl a'r rhai sy'n ei gynnal heddiw. Mae pob iaith yn y byd angen ei geiriadur.
Yn gyntaf, gadewch imi sôn am Elin a'r hyn a ddywedodd. Iaith yw calon y genedl. Nawr, gadewch imi sôn am yr Athro Robert Owen.
Mab i ffermwr oedd Bob Owen, a anwyd yn Chwilog ym mhenrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru ym 1921, a byddai wedi bod yn 100 oed eleni. Fe'i magwyd ar fferm y teulu. Ar ôl bod yn yr ysgol gynradd a'r ysgol ramadeg leol, astudiodd feddygaeth yn Ysbyty Guy yn Llundain, cyn treulio tair blynedd yn y Llu Awyr Brenhinol.
Ar ôl rhagori mewn hyfforddiant orthopedig yn Lerpwl, gan ennill cymrodoriaeth ABC, fe’i penodwyd yn llawfeddyg orthopedig ymgynghorol yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, Croesoswallt, ac ysbytai gogledd Cymru yn Rhyl ac Abergele. Rhoddodd wasanaeth ardderchog i'r sefydliadau hyn, gan gynnwys cyflwyno arthroplasti Charnley, ynghyd â chaeadle gwydr, yn Abergele, y ganolfan gyntaf yn y byd y tu allan i Wrightington.
Yn ddiweddarach, bu hefyd yn athro llawfeddygaeth orthopedig ym Mhrifysgol Lerpwl, a bu'n feddyg ymgynghorol ac yn athro yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey, lle bûm yn gweithio gydag ef rhwng 1979 a 1983. Roedd yn awdur a chyd-awdur 140 o bapurau gwyddonol, yn gyd-olygydd dau werslyfr nodedig ac yn aelod balch o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, Cymdeithas Orthopedig Prydain, Cymdeithas Sgoliosis Prydain a Chymdeithas Asgwrn Cefn Serfigol Prydain.
Yng Nghymru, roedd yn ymddiriedolwr neu'n gynghorydd i sawl sefydliad elusennol sy'n helpu plant anabl neu sâl, yn ddirprwy raglaw Clwyd, ac yn ombwdsmon meddygol Cymru. Roedd yn gefnogwr pybyr ac yn gyn-lywydd Cymdeithas Hanes Meddygaeth Cymru.
Cafodd OBE am ei wasanaethau i feddygaeth ym 1990, gyda'i gyflawniadau'n cynnwys cyd-sefydlu Ronald McDonald House yn ysbyty Alder Hey, a helpu i sefydlu Robert Owen House, a gafodd ei enwi er anrhydedd iddo, yn Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl, i ddarparu llety ar gyfer perthnasau cleifion.
Ac rwyf am gloi gyda'i ddyfyniad: 'Ac felly, yn y pen draw, bydd beddargraff Mag'—ei wraig—'a minnau, fel nyrs a meddyg, yn dweud hyn: ein nod oedd rhoi cysur i eraill. Felly y daw fy stori i ben.' Diolch yn fawr iawn.
Wedi'i hadeiladu ar ddiwedd y bymthegfed ganrif, mae eglwys y plwyf San Silyn yn Wrecsam yn un o ryfeddodau Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n gartref i Ŵyl Angylion. Mae'r ŵyl yn coffáu'r rheini a gollodd eu bywydau i'r coronafeirws ledled Cymru. Mae pob un o'r 6,000 o angylion sy'n cael eu harddangos wedi'u gwneud â llaw o amryw ddefnyddiau—papur, polystyren, ffabrig, cardbord—rhai'n newydd, rhai wedi'u hailgylchu. Mae'r angylion yn llenwi'r eglwys. Mae rhai wedi'u hongian o du mewn y tŵr, wedi'u gosod ar rwyd a'u gollwng i gorff yr eglwys. Mae'r eiliau'n llawn angylion, ynghyd â'r festri, lle maent yn croesawu aelodau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Pan ymwelais â'r ŵyl am y tro cyntaf, cefais fy syfrdanu—roedd y ffaith bod pob un o'r angylion yn cynrychioli gŵr, gwraig, partner, tad, mam, brawd, chwaer, ffrind neu gymydog a gollodd eu bywyd i'r feirws creulon hwn yn emosiynol dros ben. Wrth eistedd yn un o'r corau, wedi fy amgylchynu gan yr angylion, myfyriais ar yr 21 mis diwethaf, ac effaith pandemig byd-eang COVID-19. Wrth gwrs, mae angylion yn symbol o obaith a goleuni, a chofiais yr amser hwn y llynedd pan glywsom gyntaf fod ein gwyddonwyr wedi cynhyrchu brechlyn, a faint o obaith a roddodd hynny i ni. Wrth inni gychwyn ar gyfnod anodd arall o'r pandemig, mae'n bwysig fod gennym obaith a goleuni o hyd. Hoffwn dalu teyrnged i aelodau eglwys y plwyf San Silyn yn Wrecsam am greu arddangosfa mor hyfryd a theimladwy, sydd i'w gweld tan ddiwedd mis Ionawr. Bydd cymaint o deuluoedd yng Nghymru yn wynebu'r Nadolig heb rywun annwyl yn sgil y coronafeirws, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ŵyl Angylion yn rhoi rhywfaint o gysur a chryfder ar adeg mor anodd.
Ar ran cymunedau Porthysgewin a Sudbrook yn ne sir Fynwy, hoffwn dalu teyrnged i was sifil rhagorol. Mae Anthony Griffiths wedi rhoi rhan enfawr o'i fywyd i'w gymunedau. Bu'n gynghorydd cymuned ers dros 51 mlynedd cyn ymddeol o waith cymunedol y mis diwethaf. Mae Tony wedi bod yn llawer mwy na chynghorydd cymuned yn unig—mae'n gyfaill, yn gefnogwr, yn eiriolwr, ac yn ddyn y gellir dibynnu arno i gynifer o bobl yn ein pentrefi. Y tu ôl i bob digwyddiad, pob achlysur a phob gwelliant yn ein pentrefi dros y 50 mlynedd diwethaf, fe welwch Tony, y prif gynheiliad wrth wraidd popeth. Mae ei gyfoeth o brofiad a'i wybodaeth hanesyddol am y gymuned wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi ychwanegu gwerth anfesuradwy i'r gymuned, a flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl gan was sifil lleol. Mae bob amser yn barod i helpu'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd neu'r rheini sydd angen help llaw—yn y bôn, mae bob amser yn gofalu am bobl. Mae'n trefnu goleuadau Nadolig y pentref ac yn rheoli'r elfennau technegol y tu ôl i'r nifer o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal o un flwyddyn i'r llall. Er ei fod bellach yn ei 80au, nid yw ei wasanaeth i'n cymunedau wedi lleihau, ac mae bob amser ar reng flaen bywyd lleol. Tony Griffiths yw Mr Porthysgewin—unigolyn cwbl ymroddedig a dibynadwy sy'n rhoi popeth sydd ganddo i'w gynnig er lles pobl eraill, heb ofyn am ddim yn ôl. Mae'n bleser dathlu ei ymdrechion yn y ffordd fach hon heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr, bawb.