6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y broses cydsyniad deddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:25, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Dywedodd yr Arglwydd Thomas, y cyn-Arglwydd Brif Ustus, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar i'r pwyllgor deddfwriaeth, fod y setliad datganoli yng Nghymru yn gymhleth—yn gymhleth hyd yn oed i gyfreithwyr—a bod y defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn cymhlethu materion ymhellach fyth. Ni fydd yn gwneud unrhyw synnwyr i'r mwyafrif helaeth o bobl fod deddf mewn maes datganoledig, mater sydd wedi'i ddatganoli ers dros 20 mlynedd, yn cael ei phasio gan San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y cymhlethdod. Maent yn mynd yn groes i'w dyletswydd eu hunain o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 drwy gydsynio—ond nid yn unig cydsynio; ar brydiau, drwy annog—Llywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig. Dychmygwch gyfreithiwr, heb sôn am leygwr, yn chwilio am ddeddf sy'n ymwneud â'r amgylchedd yng Nghymru. Byddai'r unigolyn hwnnw'n iawn i gredu y byddai unrhyw ddeddf ddiweddar mewn maes datganoledig wedi'i chyflwyno yma gan y Senedd, ond nid yw hynny'n wir. Mae'r setliad datganoli yng Nghymru yn ddigon cymhleth heb i Lywodraeth Cymru ychwanegu at y dryswch hwnnw.

Ni fydd Biliau cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ddwyieithog. Ni allant ffurfio rhan o gynlluniau codeiddio Llywodraeth Cymru, ac ni fydd y Senedd yn craffu'n briodol arnynt. Gwelsom hynny ddoe ddiwethaf yn ymateb y ddau bwyllgor i’r Bil diwygio cyfraith lesddaliad. Cwynodd y ddau bwyllgor ynglŷn â diffyg amser ar gyfer craffu. Bydd y cynigion cydsyniad deddfwriaethol hefyd yn rhwystro Seneddau’r dyfodol rhag cyflwyno deddfwriaeth yn y meysydd hyn. Aelodau, a ydym o ddifrif yn barod i drosglwyddo pwerau yn ôl i Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy'n mynd o un sgandal i'r nesaf, o un enghraifft o gamreoli i'r nesaf?

Pleidleisiodd pobl Cymru ddwywaith o blaid y Senedd hon, ac etholwyd mwyafrif sylweddol o blaid datganoli i'r lle hwn ym mis Mai. Mae'n rhaid inni beidio â thanseilio'r mandad democrataidd clir hwn drwy drosglwyddo ein pwerau i Weinidogion Torïaidd heb unrhyw graffu go iawn yma o gwbl. Dylem fod yn craffu'n briodol, fel Aelodau, ar ddeddfau Cymru. Dyna yw ein gwaith. Rwyf am weld Senedd sy'n gryf ac yn ddemocrataidd, Senedd sydd wedi'i grymuso ac sy'n defnyddio ei phwerau i'r graddau llawn er mwyn sicrhau newid cadarnhaol i fywydau pobl Cymru.

Ni all Llywodraeth Cymru daflu'r baich ar Weinidogion Torïaidd yn Llundain bob amser. Mae angen inni sicrhau adolygiad brys i broses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, lle rydym yn gofyn i'n hunain a ydynt yn berthnasol hyd yn oed, a ddylent fodoli o gwbl, lle rydym yn dadansoddi'n fforensig yr effaith a gânt ar y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru, a sicrhau y gall yr Aelodau yn y lle hwn graffu ar ddeddfwriaeth yn effeithiol. Aelodau, mae'n rhaid inni amddiffyn ein Senedd, amddiffyn ei phwerau ac er mwyn Cymru—Senedd sy'n darparu deddfwriaeth radical, ystyrlon sy'n destun craffu. Nid yw hynny'n digwydd gyda phroses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Nid fel hynny y mae cyfraith dda yn cael ei drafftio a'i deddfu. Ein rôl a'n dyletswydd, fel Aelodau o'r Senedd, yw craffu ar y gyfraith a sicrhau bod gan bobl Cymru y cyfreithiau y maent yn eu haeddu wedi'u pasio gan eu Senedd. Diolch yn fawr.