Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gynnig y ddadl hon heddiw, a chyfle, o'r diwedd, i ni gael trafodaeth iawn ar y broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu'r LCMs, nid bod y geiriau 'LCMs' wedi bod yn ddieithr i'r Siambr hon. Fel mae'r siaradwyr eraill wedi sôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 17 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn saith mis cyntaf y chweched Senedd, sydd yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, gan eithrio 2020. Ac, os ydym ni'n credu mewn datganoli, a'r syniad y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac yn credu yn y Senedd hon, dylai hyn fod yn destun pryder i ni, gan ei fod yn cwtogi ar ein pwerau ni, fel Senedd, ac, felly, yn ymosodiad ar ddemocratiaeth.
Fel yr ydym ni oll yn ymwybodol, mae pwyllgorau, fel rydym wedi ei glywed gan Huw Irranca-Davies a Llyr Gruffydd, wedi codi pryderon niferus ac eang ynghylch hyn oll, gan gynnwys y diffyg cefndir ac esblygiad y ddeddfwriaeth, strwythur aneglur y drafftio, bod y prawf cymhwyso ynglŷn â'r angen am gydsyniad y Senedd yn aneglur, rhesymau aneglur gan Lywodraeth Cymru dros argymell cydsyniad ai peidio, barn Llywodraeth Cymru ar gymalau penodol, y graddau mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio diwygio Biliau'r Deyrnas Unedig, a natur y gwelliannau a geisir, ynghyd ag effaith y Bil ar ddeddfwriaeth neu fframweithiau allweddol eraill sy'n rhyngweithio â hwy. Dengys hyn yn glir, felly, bod amrywiaeth o faterion heb eu datrys o ran y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.
Ac eto, er bod y pryderon hyn wedi eu codi, nid yw'r Senedd wedi cael cyfle i graffu'n ystyrlon ar y broses tan heddiw. A hoffwn gymryd y cyfle felly i fynegi yn glir fy mod yn anfodlon iawn â'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol hyd yma. Wedi'r cyfan, rhaid gofyn pam bod Llywodraeth Cymru yn dewis, dro ar ôl tro, i wneud diwygiadau o fewn Bil yn y Deyrnas Unedig, yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun. Ydy o oherwydd diffyg amser, diffyg Aelodau neu ddiffyg awydd? Neu a oes rhesymau amgen? A pha effaith mae hyn wedyn yn ei chael ar graffu, gan nad yw Aelodau a rhanddeiliaid yn medru cydweithio a chyfrannu i'r ddeddfwriaeth yn ôl y broses hon? Lle mae llais y Senedd hon a phobl Cymru yn y broses?
Bob tro mae LCM yn cael ei gyflwyno mae'n cryfhau'r gynsail beryglus o roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol, yn lle Gweinidogion Cymru, ac nid dyma pam gwnaeth pobl ar draws y pleidiau ymgyrchu am ehangu pwerau'r Senedd hon. Mae LCMs yn cymhlethu system sy'n barod yn hynod o gymhleth, ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl Cymru ddylanwadu ar y broses ddeddfwriaethol, yma yng Nghymru. Hoffwn, felly, annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio o blaid cynnig y ddadl heddiw, a gwneud safiad yn erbyn y bygythiad amlwg i'n democratiaeth. Mae pobl Cymru wedi ymddiried ynom ni i basio Deddfau yn y meysydd sydd wedi eu datganoli ers dros 20 mlynedd, yn hytrach na Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylem felly sicrhau ein bod yn cyflawni ar eu rhan, yn hytrach na rhoddi grym yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydy hi’n malio dim am fuddiannau pobl Cymru.