1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2022.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun setliad dinasyddion Affganistan? OQ57427
Rydym yn codi cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ac ers cyhoeddi'r cynllun, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl galwad rhwng Gweinidogion y pedair gwlad, y ddiweddaraf ohonynt ddoe, ac rwyf wedi codi materion yn amrywio o fylchau yn y cymhwysedd i arafwch datblygiadau.
Diolch, Weinidog. Gwyddom fod gwerthusiad ffisegol unigolyn yn hanfodol i anghenion y cyfryw unigolyn, ond dechrau ei daith yn unig yw cael ei adsefydlu a chael diogelwch mewn gwlad newydd. Fel cenedl noddfa, gwn ein bod yng Nghymru yn ymfalchïo yn y ffordd y cynigiwn y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau. A all y Gweinidog amlinellu pa gymorth parhaus rydym yn ei gynnig fel Llywodraeth a chyda'n partneriaid awdurdod lleol, i sicrhau y gall y rhai a adsefydlir gael mynediad at yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt?
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn. Yn fwyaf arbennig, rwy'n ffodus imi gael cyfarfod â'r Gweinidog, Victoria Atkins, ddoe. Bydd unrhyw un sy'n cael ei adsefydlu neu ei ddanfon i Gymru yn cael ei gefnogi cyn belled ag y gallwn, fel cenedl noddfa, fel y dywedoch chi, a chyda'n partneriaid, o ganlyniad i'n partneriaeth â llywodraeth leol, dull amlasiantaethol tîm Cymru, ac yn wir, â'n lluoedd arfog hefyd, a'r Urdd yn bartner allweddol, rydym wedi cynorthwyo dros 350 o Affganiaid ers mis Awst, ers i'r lluoedd adael. Rydym wedi sicrhau bod asesiad cyfannol o anghenion newydd-ddyfodiaid a mynediad at addysg, gofal iechyd, cymorth i ddod o hyd i waith. Ond hefyd, yn ddiddorol, gwnaethom ddatblygu grŵp cefnogi cymheiriaid ar gyfer teuluoedd o Affganistan sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru eisoes, a bydd llawer ohonynt yn eich etholaethau, gan ddefnyddio'r model fforwm eiriolaeth llwyddiannus, a chafodd hynny ei gyflawni fel rhan o'r prosiect hawliau lloches y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Mae hyn yn helpu teuluoedd o Affganistan i gysylltu â'i gilydd a chynorthwyo ei gilydd i ymgartrefu yng Nghymru. Ddoe, crybwyllais faterion wrth y Gweinidog yn ymwneud â'r trwyddedau preswylio biometrig, sy'n hanfodol i ddinasyddion o Affganistan allu cael mynediad at gyfrifon banc, a materion eraill yn dilyn ei datganiad yr wythnos diwethaf.
A gaf fi dalu teyrnged i'n cyfaill, Jack Dromey AS, a fu farw yr wythnos diwethaf? Y diwrnod cyn iddo farw, cododd Jack y pryderon a rannwn fod cynllun adsefydlu dinasyddion o Affganistan yn methu rhoi blaenoriaeth i ailuno'r rhai sydd mewn perygl yn Affganistan â theuluoedd sy'n byw yn y DU. Rwyf am dalu teyrnged i'r hyn a wnaeth yn ei fywyd gwleidyddol ac wrth gwrs, rwyf am gydymdeimlo â'i deulu a Harriet Harman, ei wraig. Ond yr hyn a ddywedodd—a chredaf ei fod yn berthnasol i hyn—oedd:
'Mae gan ein gwlad hanes balch o ddarparu hafan ddiogel i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth. Byddai unrhyw lastwreiddio ar y cynllun adsefydlu yn groes i'n gwerthoedd mwyaf sylfaenol sef gweddusrwydd, gonestrwydd a thegwch.
Weinidog, bydd cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn darparu llwybr diogel a chyfreithlon i hyd at 20,000 o fenywod, plant ac eraill o Affganistan sy'n wynebu'r perygl mwyaf i adsefydlu yn y DU. Bydd yn adeiladu ar ymdrechion parhaus y DU i gefnogi'r dinasyddion o Affganistan sydd mewn perygl, gan flaenoriaethu'r rhai sydd wedi cynorthwyo ymdrechion y DU yn Affganistan ac a safodd dros ein gwerthoedd, a'r bobl hynod agored i niwed hynny, megis menywod a merched sydd mewn perygl ac aelodau o grwpiau lleiafrifol.
Gwn eich bod yn sefyll yn gadarn iawn dros hyn ac rwy'n cytuno â chi fod angen i Gymru chwarae ei rhan yn y gwaith i helpu'r bobl hyn i gael cartrefi parhaol ac ailadeiladu eu bywydau yn y DU, a gwn eich bod wedi sôn droeon fod Cymru'n genedl noddfa. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch—gwn ichi sôn am hyn mewn ymateb cynharach i fy nghyd-Aelod dysgedig, Rhianon Passmore—pa sgyrsiau a gawsoch yn benodol gyda chyd-Weinidogion, eich partneriaid mewn llywodraeth leol, y sector preifat a'r sector gwirfoddol i oresgyn y rhwystrau y sonioch chi amdanynt yn eich ymateb blaenorol i Rhianon, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n dod i Gymru yn cael y cyfleoedd ym maes tai, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i ailadeiladu eu bywydau, ac i ad-dalu'r ddyled sydd arnom iddynt?
Fe sonioch chi hefyd am gronfa adsefydlu Affganistan. A allwch chi egluro pa ddangosyddion perfformiad allweddol a fydd ar waith i sicrhau y bydd yn wirioneddol ddefnyddiol i'r rhai sy'n dymuno adsefydlu? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Rwy'n cadarnhau fy mod wedi cyfarfod â Victoria Atkins, y Gweinidog Adsefydlu Affganiaid, ddoe. Yn wir, cyfarfûm â hi gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, ac roedd hi'n cyfarfod â chydweithwyr yn yr Alban hefyd. Byddwn yn cael deialog reolaidd. Gwnaeth y datganiad hwnnw yr wythnos diwethaf ar y cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, ac rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar rai o'r pryderon a godais gyda hi ddoe, ac mae llawer ohonynt yn faterion i Lywodraeth y DU. Rydym eisoes yn ymwneud â'n hawdurdodau ni, mewn perthynas â gwasanaethau datganoledig. Yn wir, mae Victoria Atkins i fod i ddod i ymweld â Chymru i edrych ar rai o'n darpariaethau pontio, a byddaf yn cyfarfod â hi gydag aelod cabinet arweiniol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd. Mae hwn yn faes lle crybwyllais faterion penodol mewn perthynas â dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, sy'n hanfodol. Rwyf wedi sôn am y trwyddedau preswylio biometrig fel un pwynt allweddol. Cawsom beth cynnydd ddoe mewn perthynas â diweddaru gwybodaeth a oedd yn dod drwodd, ond hoffwn ddweud ein bod yn parhau'n bryderus iawn ynghylch oedi wrth helpu'r unigolion sydd mewn perygl i ddod o hyd i noddfa.
Nid yw llwybrau atgyfeirio Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn agor tan y gwanwyn. Mae hynny'n golygu efallai na fydd unigolion mewn perygl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi byth yn dod o hyd i'w ffordd drwy'r llwybr hwn. Dyma'r llwybr allweddol i mewn i gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, a chredaf fod llawer i'w wneud. Nid ydynt yn gweithredu llwybr carlam, nid ydynt yn edrych yn gydymdeimladol ar achosion yr holl geiswyr lloches o Affganistan sydd eisoes yn byw yn y DU. Mae hynny'n afresymegol ac mae'n gwaethygu'r pwysau ar y system loches. Rhaid imi ddweud bod anghysondeb sylfaenol wrth wraidd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sy'n dweud y bydd Affganiad a ddygwyd i'r DU o dan y cynllun adsefydlu yn cael cymorth da, ond ni fyddai'r cyfryw ddinesydd Affganaidd yn gallu manteisio ar naill ai'r cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, na'r polisi adleoli a chymorth i Affganiaid. O dan y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau felly, gallent gael eu troseddoli a'u hamddifadu o gymorth digonol. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn weithio ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a'r materion hyn wrth i'r cynllun ddatblygu.