– Senedd Cymru am 3:26 pm ar 12 Ionawr 2022.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 5, datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ddydd Sadwrn 8 Ionawr eleni, bu farw Hanef Bhamjee OBE yn yr ysbyty yng nghwmni cariadus a gofalgar ei deulu. Dros y pedwar degawd diwethaf, ni allaf feddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud cymaint â Hanef dros achos cydraddoldeb, gwrth-hiliaeth a chyfiawnder cymdeithasol.
Fe'i ganed yn Ne Affrica, a thynnwyd sylw gwasanaethau diogelwch De Affrica ato yn sgil ei wrthwynebiad i'r gyfundrefn apartheid, ac ym 1965, er mwyn ei ddiogelwch ei hun, bu'n rhaid iddo adael. Ym 1972, ymgartrefodd yng Nghaerdydd, a daeth Cymru'n gartref parhaol iddo. Cyfarfûm â Hanef am y tro cyntaf ym 1973, yn ystod yr ymgyrchoedd yn erbyn rhyfel Fietnam a’r gwrthryfel ffasgaidd yn Chile. Fel yn achos Hanef, daeth Cymru yn gartref croesawgar i lawer a oedd yn ffoi rhag gorthrwm gwleidyddol, yn genedl noddfa. Ond yn anad dim, mae Hanef yn fwyaf adnabyddus am ddod yn llais y frwydr wrth-apartheid yng Nghymru. Drwy ei eiriolaeth, ei ymgyrchu a chryfder ei gymeriad, rhoddodd Gymru ar y llwyfan gwrth-hiliaeth rhyngwladol. Creodd Hanef undod o ran pwrpas ac egwyddor yng nghymdeithas grefyddol, ddinesig, ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru. Ar ôl i Nelson Mandela gael ei ryddhau, daeth yn gyfreithiwr, a chefnogi ffoaduriaid a hawliau mewnfudo yn ogystal â pharhau i wneud gwaith elusennol i gefnogi elusennau De Affrica. Yn 2003, dyfarnwyd yr OBE iddo gan y Frenhines am ei waith, ac yn 2009, enillodd wobr heddwch a chymod Mahatma Gandhi. Roedd Hanef mor falch o fod yn Gymro De Affricanaidd. Dylem ni yng Nghymru fod yr un mor falch ei fod wedi dod yn un o'n ffrindiau a'n dinasyddion. Rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau. Mae ei etifeddiaeth yn dal i fyw ac mae'r frwydr yn parhau. Amandla.
Ganed Ron Jones yng Nghwmaman ar 19 Awst 1934, ac roedd yn rhedwr diguro o Gymro. Dros 14 mlynedd, enillodd 12 teitl rhedeg Cymreig a thorri 22 record Gymreig. Yr hyn sy'n gwneud y gamp hon yn rhyfeddol yw bod ei yrfa wedi dechrau ar ddamwain. Ei fuddugoliaeth 100 llath gyntaf ym mhencampwriaethau Cymru 1956 oedd yr ail neu'r drydedd ras o'r fath i Ron ei rhedeg erioed. Ron oedd un o’r ychydig athletwyr o Gymru i ddal record byd ym myd athletau fel rhan o garfan ras gyfnewid 4x110 llath Prydain ym 1963. Bu hefyd yn gapten ar dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico ym 1968. At ei gilydd, casglodd Ron 31 o festiau rhyngwladol, gan gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad bedair gwaith, mewn tair pencampwriaeth Ewropeaidd a'r Gemau Olympaidd ddwy waith. Ar ôl athletau, cafodd Ron rôl uwch mewn sawl clwb pêl-droed, gan gynnwys wyth mlynedd fel rheolwr gyfarwyddwr cyntaf Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Roedd Ron hefyd yn un o hoelion wyth SportsAid Cymru, a helpodd filoedd o ddinasyddion ifanc Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau yn y byd chwaraeon. Dyfarnwyd MBE i Ron yn 2001 a chafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2013. Efallai mai yn 2018 y daeth ei anrhydedd fwyaf, pan gafodd y trac athletau newydd gwerth £3 miliwn yn Aberdâr ei enwi ar ei ôl. Bu farw Ron ar 30 Rhagfyr 2021, ond mae ei etifeddiaeth fel un o athletwyr gorau Cymru yn parhau.
Yr wythnos hon, bu farw'r arlunydd Mike Jones o Bontardawe, sy'n adnabyddus am ei bortreadau o gymunedau gwerinol diwydiannol y de, yn enwedig ei gwm Tawe genedigol. Magwyd Mike yng Nghilmaengwyn a Godre'r Graig, ger Ystalyfera, pan oedd y diwydiannau trwm yn eu bri. Glöwr oedd ei dad, a chadwai ei rieni dafarn hefyd—lle delfrydol i arsylwi ar gymeriadau ei fro. Ac roedd Mike yn un o'r llu o ddoniau creadigol i'w hysbrydoli gan gymunedau diwydiannol Cymraeg cwm Tawe.
Mae'n cael ei gydnabod fel un o'n harlunwyr disgleiriaf am ddarlunio'r cymunedau hynny. Mae ei waith wedi ei arddangos mewn orielau ar draws Cymru a thu hwnt, gan gynnwys yr academi frenhinol yn Llundain, ac yn Efrog Newydd a Seland Newydd. Mae gwaith Mike yn cyfleu bywydau cymeriadau ei filltir sgwar—glowyr, gweithwyr tun a dur, ffermwyr a gwragedd tŷ, yn ogystal â'r pentrefi tai teras lle roedden nhw'n byw.
Llynedd, ac yntau'n dathlu'r 80 oed, cafwyd nifer o arddangosfeydd llwyddiannus dros Gymru. Roedd wrth ei fodd bod Tŷ'r Gwrhyd Pontardawe a Chylch Darllen Cwm Tawe wedi trefnu arddangosfa arbennig o'i waith adeg ei ben-blwydd yn yr hydref. Ces i fy narlun cyntaf yn y casgliad sydd gen i erbyn hyn o'i waith fel anrheg priodas, ac ar ôl symud i gwm Tawe yn fuan wedyn, ces i'r fraint o ddod i adnabod Mike Jones ac ymweld â'i stiwdio ryfeddol yn ei gartref ym Mhontardawe. Roedd e hefyd yn gefnogwr hael i achosion lleol, gan gyfrannu darluniau gwerthfawr i helpu codi arian i'r ysgolion Cymraeg lleol, eisteddfodau a Phlaid Cymru.
Cydymdeimlwn â'i wraig, Eryl, a'r teulu i gyd yn eu colled. Mae cwm Tawe a Chymru gyfan wedi colli dawn arbennig a Chymro angerddol.