Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Ionawr 2022.
Llywydd, yn ein hasesiad ni, mae enillion cadarnhaol y cynllun gweithredu teithio llesol yn llawer mwy nag unrhyw sgil-effeithiau negyddol. Mae'n un o ofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ei fod yn cael ei adolygu erbyn diwedd 2022. Bydd yr adolygiad hwnnw yn nodi unrhyw faterion gweithredu y mae angen mynd i'r afael â nhw.