Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, mae nifer o grwpiau wedi cysylltu â mi yn pryderu yn fawr am y cynllun teithio llesol a'r effaith y mae ei gweithredu yn ei chael lle mae'n achosi problemau diogelwch ac anawsterau i bobl o ran eu hiechyd a'u llesiant. Un mater penodol sydd wedi ei godi yw bod lonydd beicio dynodedig naill ai'n cael eu hymgorffori yn y palmant, neu wrth ymyl y palmant ac ar yr un lefel ag ef. I'r rhai sydd â phroblemau golwg neu sydd wedi eu cofrestru yn ddall, gall hon fod yn sefyllfa frawychus, yn enwedig i bobl sy'n defnyddio ffyn gwyn neu'n defnyddio cŵn tywys i'w helpu. Pan fydd y cwrb wedi ei ddileu, nid yw cŵn tywys yn gallu gwahaniaethu rhwng yr hyn sy'n ffordd, yn lôn feicio neu'n balmant. Un enghraifft nodedig a lleol yw'r safle bws ar hyd Plas Dumfries yng Nghaerdydd. Pan fyddwch chi'n camu oddi ar y bws, rydych chi'n camu yn syth ar lôn feicio las ddynodedig ac nid palmant, ac mae pobl â nam ar eu golwg mewn perygl o fod mewn gwrthdrawiad â beicwyr. Yn ogystal â hyn, nid oes ganddyn nhw unrhyw ffordd o benderfynu ble mae'r ffordd neu'r palmant yn dechrau chwaith, sydd wedi arwain at achosion o'r rhai sy'n dioddef colled i'w golwg yn cerdded yn syth i'r ffordd. I rywun sydd â phroblemau golwg, mae hwn yn brofiad dryslyd a brawychus iawn.
Ceir problemau hefyd y mae marchogion ceffylau yn eu hwynebu. Er enghraifft, mae llwybrau ceffylau wedi eu hisraddio i lwybrau troed a lonydd beicio ar gyfer y cynllun teithio llesol, gan orfodi marchogion i fynd ar y ffyrdd er mwyn cael mynediad at lwybrau marchogaeth addas, sydd yn ei dro yn dod â nhw i gysylltiad â thraffig ffyrdd trwm, weithiau gyda chanlyniadau marwol a pheryglus, fel y gwrthdrawiad diweddar rhwng fan a cheffyl a marchog yn Nhonyrefail, sydd wedi arwain at y marchog yn cael ei dderbyn i'r ysbyty gydag anafiadau lluosog.
Rwy'n siŵr y byddwch chi mor bryderus â minnau am rai o'r canlyniadau negyddol hyn, a gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi bod Llywodraeth Cymru wedi asesu anghenion pawb yn ddigonol yng nghyswllt y cynllun teithio llesol, oherwydd, yn amlwg, ceir grwpiau nad ydyn nhw wedi eu hystyried? Diolch.