Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 18 Ionawr 2022.
Byddaf i'n dechrau eto. Newydd ddechrau oeddwn i.
Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl a'u galluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas sifil ar delerau cyfartal. Rydym yn gwybod bod hwn yn llwybr at gymunedau mwy cydlynus a chymdeithas fwy llewyrchus. Mae hefyd yn sicrhau bywiogrwydd ein diwylliant a'n treftadaeth, sy'n cael eu cyfoethogi gan gyfranogiad ac ymgysylltiad ac a ddylai fod yn ddathliad o'n hamrywiaeth. Ond mae'r ffordd yr ydym yn adnabod ac yn hyrwyddo ein treftadaeth hefyd yn cael effaith ar ein lles fel cymdeithas. Ar y naill law, gall eithrio pobl o'n stori genedlaethol, ond ar y llaw arall, gall hefyd fod yn rym cadarnhaol sy'n helpu i lunio'r Gymru yr ydym yn ei dymuno. Mae ganddi'r potensial i feithrin yr ymgysylltiad a'r cyfranogiad hwnnw, sef sylfaen cymunedau cydlynus ac economi ffyniannus.
Mae treftadaeth yn agwedd bwysig ar sut y mae pobl yn uniaethu â ble maen nhw. Mae'n helpu i roi ymdeimlad o le ac o berthyn. Rydym yn awyddus i bawb deimlo bod rhan o'u stori dreftadaeth yma yng Nghymru. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn agored i adrodd straeon newydd a dod o hyd i ffigyrau newydd i'w dathlu. Ond mae angen i ni edrych yn feirniadol hefyd ar yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei nodi fel treftadaeth, a bod yn agored i'w dehongli o'r newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle ceir pethau sy'n atgoffa o anghyfiawnderau hanesyddol. Mae gennym ni gyfrifoldeb i osod y naratif hanesyddol, ac annog perthynas onest a gwybodus â'n hanes. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni feithrin yr ymgysylltiad creadigol sy'n cynnal ein treftadaeth ac sy'n cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithas sifil.
Roedd yr archwiliad o goffáu, dan arweiniad Gaynor Legall, yn gam cyntaf pwysig mewn proses o edrych yn onest ar yr hyn yr ydym wedi ei etifeddu, ac o gydnabod yr angen i fod â chofnod di-duedd o'r gorffennol. Bwriad yr archwiliad bob amser oedd bod yn gam cyntaf, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod yn cymryd camau pellach ar hyd y ffordd tuag at y cofnod di-duedd a dilys hwnnw o'r gorffennol sydd mor bwysig os ydym am sicrhau treftadaeth sy'n cael ei rhannu'n wirioneddol. Y prif ymateb i archwiliad Legall fydd datblygu polisi a chanllawiau clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gweithredoedd coffáu cyhoeddus.
Rydym eisoes wedi ymateb i adroddiad yr hen Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, 'Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus', a wnaeth alwadau tebyg am ganllawiau clir a fydd yn cyflwyno map llwybr ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â gweithredoedd coffa hanesyddol ac yn y dyfodol. Bydd y canllawiau hyn yn defnyddio arferion da o fannau eraill i nodi'r mathau o ymyriadau cadarnhaol a allai fod ar gael. Er enghraifft, a oes angen i gofebion presennol gael naratif pellach, sy'n esbonio'r cyd-destun ehangach, neu a oes angen ystyried opsiynau mwy radical a allai gynnwys adleoli cofeb? Pa feini prawf y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau o'r fath, a sut y gellir ymgysylltu yn wirioneddol â chymunedau?
Mae penderfyniadau fel yr hyn a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu dehongliad ochr yn ochr â heneb Picton, neu gan Gyngor Caerdydd i dynnu cerflun Picton o Neuadd y Ddinas, yn ein hatgoffa o ba mor anodd y gall hyn fod ac amlygu'r angen am arweiniad. Hefyd, wrth gwrs, mae cydnabod cyn lleied o gofebion sydd i bobl dduon, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, neu fenywod nodedig hyd yn oed, yn fan cychwyn ar gyfer deialog ynghylch pwy yr ydym yn ei goffáu yn y dyfodol. Bydd datblygiad y canllawiau ei hun yn adlewyrchu ymrwymiad i gynhwysiant. Bydd cyfres o weithdai wedi eu hwyluso sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn ganolbwynt iddo. Mae swyddogion Cadw wedi dechrau'r ymchwil gefndirol a fydd yn llywio'r canllawiau eisoes, a'r bwriad yw cynnal y gweithdai yn gynnar eleni. Caiff y canllawiau eu drafftio yn ystod y gwanwyn, ac yna bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Yn y cyfamser, rydym ni eisoes wedi cymryd rhai camau. Rydym ni wedi cyhoeddi argraffiad diwygiedig o archwiliad Legall, gan wneud mân ddiwygiadau mewn ymateb i adborth a gwybodaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg ers ei gyhoeddi gyntaf flwyddyn yn ôl, ac mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar gyfer cofebion sydd â gwarchodaeth gyfreithiol, fel strwythurau rhestredig, mae Cadw wedi diwygio'r holl ddisgrifiadau sy'n croesgyfeirio i ffigyrau a nodwyd yn yr archwiliad o goffáu. Mae'r disgrifiadau rhestr newydd hyn ar gael i'r cyhoedd bellach drwy fapiau Cof Cymru ar-lein Cadw. Mae Cadw hefyd yn gweithio i ddefnyddio ei wefan i gyhoeddi naratif cyfoethog ac amrywiol am hanes Cymru. Mae cam cyntaf wedi cynnwys adolygu cynnwys presennol a'i gasglu gyda'i gilydd i'w rannu ar y wefan. Mae'r ail gam yn cynnwys comisiynu cynnwys amlgyfrwng allanol, gan gynnwys fideo a sain. Bydd y cynnwys hwn yn cael ei gynnal ar ardal bwrpasol sydd newydd ei datblygu ar wefan Cadw. Bydd hwn yn fan sydd ar gael i bawb yn y pen draw lle gellir dathlu a rhannu llawer o agweddau ar amrywiaeth ein treftadaeth.
Mae'r camau hyn yn cyfrannu at un o nodau'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol sy'n cael ei ddatblygu, sy'n galw arnom i weithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb am bennu'r naratif hanesyddol, hyrwyddo a chyflwyno cofnod di-duedd, dilys, heb fod yn drefedigaethol o'r gorffennol. Mae'r camau hyn yn mynd i'r afael â rhai blaenoriaethau pwysig: cael gwybodaeth sy'n ddi-duedd, codi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth, a sefydlu fframwaith sy'n cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer gweithredoedd coffáu. Rwyf i'n credu eu bod, gyda'i gilydd, yn ymateb addas i'r materion a gafodd eu codi yn archwiliad Legall a'r camau nesaf pwysig ar ein taith tuag at Gymru wrth-hiliol. Diolch yn fawr.