5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 18 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 4:15, 18 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mark Isherwood am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu fy mod i'n cytuno llwyr â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae gan yr ynysoedd hyn hanes hir o gaethwasiaeth ac nid yw ein rhan ni yn yr hanes hwnnw wedi bod yn destun gogoniant i ni bob amser. Ond mae'n rhaid i ni edrych arno yng nghyd-destun yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Roedd hynny'n rhan o holl broses yr archwiliad Legall: nodi pobl yr oeddem yn eu hystyried, bryd hynny mewn hanes, yn bobl a oedd yn ddyngarwyr, a gyfrannodd at ein cymdeithas, a oedd yn grewyr cyfoeth, ac yn y blaen, ac a roddodd pethau da i'n cymdeithas, ond y gwnaethon nhw hefyd, wrth gwrs, niwed gydol oes i'r genedl o ran atgofion cymunedau, heb fod mor bell yn ôl â hynny. Mae'n gwbl iawn a phriodol ein bod yn edrych ar hynny i gyd drwy gyd-destun yr unfed ganrif ar hugain—ein bod yn edrych ar y bobl hyn, a'n bod yn dweud y gwnaethon nhw yr hyn y gwnaethon nhw bryd hynny yn ystod hynt eu hoes ar yr adeg honno, ond na ddylid anwybyddu'r effaith y cafodd hynny ar genedlaethau a ddaeth ar eu holau.

Cyflawnodd pobl a oedd yn ymwneud â'r fasnach gaethweision erchyllterau ofnadwy ac anghyfiawnderau ofnadwy, ac mae angen cydnabod hynny i gyd ochr yn ochr ag unrhyw bethau da a wnaeth y bobl hynny. Byddaf i'n rhoi enghraifft i chi. Bydd cydweithwyr yn y Siambr yn gwybod, wrth gwrs, y cefais i fy ngeni a fy magu yn ninas Bryste, dinas yr oedd ei heconomi gyfan wedi ei seilio bryd hynny—. Roedd cerflun Edward Colston yn symbol o hynny. Roedd Edward Colston yn ddyngarwr mawr yn y ddinas. Adeiladodd ysgolion, adeiladodd ysbytai, rhoddodd ei enw i bob math o bethau o amgylch y ddinas, a rhoddodd lawer o arian i'r ddinas honno. Ond nid yw hynny'n golygu nad yw pobl bellach yn cydnabod bod yn rhaid cydnabod y niwed a wnaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Cafodd archwiliad Legall ei gynnal o ganlyniad i rai o'r pethau a welsom tua'r adeg honno, yn dilyn y mudiad Black Lives Matter a chwympo cerflun Colston, ac, yn wir, cwympo cerfluniau fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill. Roedd yn rhan o'r rheswm pam yr edrychodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ar sail hynny ac yn sgil hynny i gyd, ar sut yr ydym yn coffáu'r bobl hyn o'r gorffennol. Felly, rwy'n credu ei fod yn fwy o fater o beidio â thaflu'r llo a chadw’r brych, a'n bod yn edrych ar yr hyn a wnaeth y ffigyrau hanesyddol hyn. Gallwn ni goffáu'r pethau da y gwnaethon nhw, ond rydym yn cydnabod yr anghyfiawnderau hanesyddol hefyd, ac rydym yn eu gosod yn y cyd-destun.

Nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn datgan oddi fry pa rai o'r bobl hyn y dylid ac na ddylid eu coffáu. Ein rhan ni yw cyhoeddi canllawiau ar sut y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn eu gosod yn y cyd-destun. A dyna'r hyn a ddigwyddodd gyda cherflun Stanley yn Ninbych. Ymatebodd Dinbych o ganlyniad i ddeiseb yn y dref honno. Cawson nhw refferendwm lleol, a phenderfynodd y refferendwm lleol hwnnw gadw Stanley. Nid bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithredu'n groes i ddymuniadau trigolion lleol o ran y ffigyrau hanesyddol y gallan nhw uniaethu â nhw yn eu trefi, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ddweud yn y canllawiau—y dylid ei osod o bosibl yn y cyd-destun hanesyddol er mwyn, fel yr ydych chi eisoes wedi dweud, Mark Isherwood, ei osod yn y cyd-destun hwnnw gyda naratif a gyda disgrifiad sy'n nodi'n hanesyddol sut y mae'r bobl hyn yn rhan o'n hanes. Bydd y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi yn cael eu llunio ar y cyd â nifer o randdeiliaid allweddol, fel yr wyf i wedi ei ddweud, a byddan nhw'n cynnwys pobl o'r cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd â gwybodaeth hanesyddol. Mae'n amlwg y bydd arbenigwyr o Lywodraeth Cymru.

Bydd hefyd yn edrych ar sut yr ydym yn coffáu pobl wrth symud ymlaen ac i'r dyfodol. Oherwydd un o'r pethau y nododd yr archwiliad eisoes, ac yr wyf i wedi ei nodi yn fy natganiad, yw bod gennym ni brinder coffáu yn ymwneud â menywod, yn ymwneud â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn sicr, nid yw'n ymddangos bod y gymuned LGBTQ+ yn cael ei chynrychioli mewn llawer o'n coffadwriaethau. Bydd yr holl bethau hynny'n cael eu cynnwys yn y canllawiau. Yn allweddol i'r cyfan yw bod pobl yn cael eu coffáu a'u cydnabod yng nghyd-destun eu hamser a'r cyd-destun yr ydym yn byw ynddo yn awr, gan edrych yn ôl ar eu bywydau. Nid yw'n ymwneud ag ailysgrifennu hanes, mae'n ymwneud â'i osod yn ei gyd-destun priodol.