Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 18 Ionawr 2022.
Cwnsler Cyffredinol, mae'r ddau ohonom ni'n gwybod o'n gyrfaoedd cyfreithiol am y cysylltiad agos rhwng cyfiawnder cymdeithasol a'r system gyfiawnder, felly rwy'n falch o weld y datganiad ar y cyd rhyngoch chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae ffactorau fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd ac anfantais gymdeithasol yn chwarae rhan enfawr ym mherthynas rhywun â'r system gyfiawnder. A ydych chi'n cytuno, felly, fod angen mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder, cydraddoldebau a hyd yn oed lles fel pecyn yma? Er gwaethaf yr holl dystiolaeth ddiamheuol i'r gwrthwyneb, mae'r Torïaid yng Nghymru—a gwelsom hynny eto y prynhawn yma—mae'r Torïaid yng Nghymru a'r Torïaid yn San Steffan yn parhau â'r un ddadl flinedig bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda. Wel, dydy hi ddim. Yn hytrach na llenwi bylchau clir o fewn ein system gyfiawnder, mae Llywodraeth San Steffan yn benderfynol o gyfyngu ar hawliau ychwanegol—yr hawl i adolygiad barnwrol, yr hawl i ddibynnu ar y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, yr hawl i ddileu is-ddeddfwriaeth anghyfreithlon. Gofynnaf i'r Torïaid yma heddiw: pam, yn eich barn chi, y mae Llywodraeth Cymru yn gwario £10 miliwn ar y gronfa gynghori sengl, maes a gadwyd yn ôl. Maen nhw'n gwneud hynny oherwydd hebddon ni fydd 128,000 o bobl—mwy na phoblogaeth Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr—yn cael cyngor cyfreithiol fel arall. Fe ofynnaf i eto i'r Torïaid sy'n bresennol yma: pam ydych chi'n credu bod Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun treialu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y llys teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd? Yr ateb yw na fyddai'r teuluoedd hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw fel arall. Ac fe ofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol: pa gyfran y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwario ar y prosiect pwysig iawn hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder?
Fel yr amlygodd y Cwnsler Cyffredinol, gwelwn yng Nghymru arc enfawr rhwng Abertawe a Wrecsam heb fawr ddim gwasanaethau cyfreithiol na llysoedd a thribiwnlysoedd. Er enghraifft, byddai gan unigolyn sydd angen teithio i Ganolfan Gyfiawnder Aberystwyth o Aberteifi daith ddwy awr wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes llysoedd ym Môn. Byddai teithio o Ynys Môn ar drafnidiaeth gyhoeddus i Gaernarfon yn golygu taith 90 munud ar ddau fws. Mewn llawer o ardaloedd gwledig, fel y sonia James Evans, yr Aelod Ceidwadol, yn aml iawn, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus foddhaol o gwbl. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod canolfannau llys a thribiwnlysoedd wedi'u cysylltu gan drafnidiaeth gyhoeddus dda. Mae gwrandawiadau o bell wedi gweithio'n dda ar y cyfan yn ystod pandemig COVID. Nid yw'n addas i bawb, rwy'n cyfaddef, ond a fydd gwrandawiadau rhithwir yn parhau yn nhribiwnlysoedd Cymru yn y dyfodol?
Os yw Mark Isherwood yn credu bod Llywodraeth San Steffan wedi parhau i gadw cyfiawnder ar waith yn ystod pandemig COVID, yna mae'n amlwg nad yw wedi siarad â'r proffesiynau cyfreithiol. Erbyn hyn mae oedi hirach nag erioed. Ie, yn rhannol oherwydd COVID, ond roedd yr oedi hir yn bodoli ymhell cyn y pandemig. Roedden nhw'n bodoli oherwydd toriadau, toriad systematig, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i'r system gyfiawnder. Ac ni allwch anwybyddu hynny.
Gallaf dystio i sylwadau Syr Christopher Bellamy am ymarferwyr cyfraith trosedd. Mae llawer o'm cyfoeswyr a ddechreuodd ymarfer mewn cyfraith trosedd bellach wedi symud i feysydd eraill neu wedi gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Yn y canolbarth a'r gorllewin, mae 60 y cant o gyfreithwyr cyfraith trosedd dros 50 mlwydd oed. Ond rwy'n sylwi, Cwnsler Cyffredinol, ar gyfer Llywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o'r bargyfreithwyr y maen nhw'n eu cyfarwyddo yn dal i fod wedi'u lleoli yn Lloegr. A ydych chi'n cytuno â mi y gall Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru yn gyffredinol—awdurdodau lleol, byrddau iechyd—wneud llawer mwy i gefnogi proffesiwn cyfreithiol Cymru? Llywydd, rydym ni'n gweld erydu hawliau yn y DU. Rydym yn gweld hawliau'n cael eu tynnu oddi wrth y cyhoedd yng Nghymru. Mae arnom angen system gyfiawnder gref. Mae arnom angen mynediad at gyfiawnder nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Diolch yn fawr.