Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 18 Ionawr 2022.
Llywydd, dwi'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad pwysig yma mewn ardal sydd ddim wedi cael ei datganoli i Gymru, ond yn dangos pa mor o ddifri mae'r Llywodraeth i ddelio gyda'r problemau enfawr mae pobl ein gwlad ni yn eu dioddef ar hyn o bryd. Dyw e ddim yn ormodedd i ddweud bod pobl Cymru wedi cael eu taro'n greulon gan bolisi llymder, didrugaredd y Llywodraeth Dorïaidd a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd nôl yn 2011 i dorri y cymorth cyfreithiol.
Gadewch inni edrych ar ychydig o ffeithiau fan hyn, a bydd yn dda i'r Torïaid fan hyn wrando ar ffeithiau oddi wrth y Legal Aid Agency. Yn Lloegr syrthiodd gwariant cymorth cyfreithiol o 2012 i 2019 gan 28 y cant; yng Nghymru fe wnaeth e syrthio gan 37 y cant. Yn Lloegr syrthiodd nifer y ffyrmiau sy'n cynnig cymorth cyfreithiol gan 20 y cant; yng Nghymru 29 y cant. Yn Lloegr syrthiodd cymorth cyfreithiol yn ardaloedd sifil a theulu gan 31 y cant; yng Nghymru 40 y cant.
Gallaf i fynd ymlaen ac ymlaen. Gallaf i roi enghreifftiau di-ri tebyg i hynny. Maen nhw yna, ffeithiau gan y Legal Aid Agency yn dangos sut mae'r toriadau yma wedi effeithio ar Gymru. Fel barnwr tribiwnlys, fe welais i gannoedd ar gannoedd o bobl—pobl yn dioddef o iechyd meddwl, o iechyd corfforol gwael, anghenion dysgu—yn gorfod wynebu sefyllfa gymhleth, cyfraith anodd, heb unrhyw gymorth proffesiynol. Roedd pobl yn ymddangos o fy mlaen i yn eu dagrau, ar ben eu tennyn. Fe wnaeth dwy weddw ymddangos o fy mlaen i oherwydd bod eu gwŷr wedi lladd eu hunain cyn yr apêl. Doedd dim cymorth yna.
Fel bargyfreithiwr, welais i filoedd o bobl yn methu sicrhau mynediad i gyfiawnder oherwydd eu sefyllfa ariannol. Yn llythrennol, drws cyfiawnder yng Nghymru wedi'i gau yn glep i'r cannoedd a miloedd o bobl sy'n byw yn ein gwlad ni sy'n byw mewn tlodi. Dyna sefyllfa cyfiawnder yng Nghymru. Ond mae modd bod yn wahanol. Yn yr Alban, er enghraifft, lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli, mae 70 y cant o'r boblogaeth yno yn gymwys i gymorth cyfreithiol.