– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 19 Ionawr 2022.
Mae'r ddadl fer heddiw gan Jane Dodds. Felly, dwi'n galw ar Jane Dodds i gyflwyno'r ddadl yn ei henw hi. Jane, drosodd i chi.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n falch o gael y cyfle i gynnal y ddadl yma heddiw ac i dynnu sylw at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. A dwi'n falch o'r diddordeb gan Carolyn Thomas, Mabon ap Gwynfor a Jayne Bryant yn y ddadl yma, ac rwyf wedi cytuno i roi peth amser er mwyn i Carolyn, Mabon a Jayne gyfrannu at y ddadl. Dwi'n ddiolchgar iawn; mae'n fyd unig i fod yn rhyddfrydwr yn y Senedd ar hyn o bryd.
Gwyddom ni i gyd fod pobl ifanc wedi cael eu taro'n galed gan bandemig COVID, a byddant yn parhau i gael eu heffeithio ymhell ar ôl risgiau uniongyrchol COVID-19 i iechyd y cyhoedd. A gwn y bydd yn flaenoriaeth a rennir ar draws y Siambr i ddileu rhwystrau i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau, gwaith a chyfleoedd, a chredaf fod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy fod yn rhan allweddol o gyflawni hynny.
Dyna pam y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnig ein bod yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus—teithio ar fysiau a threnau—yn rhad ac am ddim i bawb dan 25 oed yng Nghymru, fel elfen allweddol o'r rhaglen adfer honno i bobl ifanc.
Mae tri maes rwyf am dynnu sylw atynt yn fyr. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r ddadl hon, hoffwn ystyried record fy mhlaid yn y maes hwn. Yn y bedwaredd Senedd, gwnaeth cyd-Aelodau o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sicrhau bod teithio consesiynol i bobl ifanc 16 i 18 oed yn rhan allweddol o'r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, gan ymestyn y cynllun i bobl ifanc 21 oed yn ddiweddarach. Roedd hwn, mewn gwirionedd, yn bolisi a gyflwynwyd gan aelodau ifanc o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yng nghynhadledd ein plaid. Ac mae wedi bod yn llwyddiant, onid yw? Ar ddiwedd mis Hydref 2020, roedd tua 32,000 o gardiau Fy Ngherdyn Teithio gweithredol wedi'u dosbarthu a chyn y pandemig, gwnaed mwy nag 1.3 miliwn o deithiau am bris gostyngol. Mae menter TrawsCymru sy'n cynnig teithio am ddim ar benwythnosau, a oedd yn weithredol rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2020, hefyd yn dangos y gall prisiau gostyngol weithio, gyda chynnydd o fwy nag 81,000 o deithiau. Felly, os yw'r cynlluniau hynny'n gweithio i annog pobl i fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus, credaf y dylem edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i annog pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus ac i leddfu pwysau ariannol. Rwy'n croesawu gwarant y Llywodraeth i bobl ifanc a byddwn yn ailadrodd sylwadau a wneuthum yn ystod datganiad y Gweinidog ynghylch sicrhau ei fod nid yn unig yn gynnig ystyrlon ond yn un y gall pobl ifanc ei gyrraedd.
Yn ail, mae gennym yr agwedd amgylcheddol. Mae trafnidiaeth yn allyrru 17 y cant o allyriadau carbon Cymru, y sector gwaethaf ond dau. Mae ceir preifat yn unig yn allyrru 7.7 y cant o'r ffigur hwnnw. A Chymru sydd â'r gyfran uchaf yn y DU o hyd o bobl sy'n teithio i'r gwaith mewn car, ac mae'r ffigurau hynny wedi aros yn sefydlog dros y 15 mlynedd diwethaf. Felly, gwyddom fod angen inni annog cynifer o bobl â phosibl i roi'r gorau i ddefnyddio cerbydau preifat. Rwy'n ymwybodol iawn fod gwir angen cyllid ychwanegol i'n galluogi i ddatgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac yn wahanol i'r Alban, heb gronfa bwrpasol i gynorthwyo gweithredwyr bysiau i lanhau eu fflydoedd bysiau yn gyflym, bydd hon yn dasg anodd i weithredwyr. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog daflu rhywfaint o oleuni ar ba waith sy'n cael ei wneud i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer cyflawni hyn. Ond heb ymdrech ar y cyd, newid dulliau teithio ac agendâu datgarboneiddio, bydd gennym ffordd hir i fynd, gyda darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mor amrywiol ledled Cymru.
Felly, mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â chymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Nid ydym eisiau iddynt gael eu gadael ar ôl pan fo buddsoddiad wedi'i ariannu a'i gydlynu'n briodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Ar y mater hwn, rwy'n ddiolchgar i'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr am roi eu hamser yn gynharach y mis hwn i drafod yr heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant bysiau. Teithiau bws oedd tair o bob pedair taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn 2019, ond rydym yn dal i fod wedi gweld gostyngiad o 22 y cant yn nifer y teithiau bws rhwng 2008 a 2019. Mae llawer o resymau dros hynny, ond mae prydlondeb, amlder, llwybrau, ansawdd a chost i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu, ac mae'r rhain yn waeth mewn ardaloedd gwledig. Mae'n bwysig edrych ar arferion da ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, yn y DU a thramor, megis y gwasanaeth Ring a Link yng nghefn gwlad Iwerddon, yr asiantaeth symudedd yn yr Eidal, ac—rwy'n hoff o hwn—y Bürgerbus yn yr Almaen. Nid yw'n golygu yr hyn rydych yn ei feddwl.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynlluniau teithio lleol fod â dannedd ac adnoddau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy ac yn hygyrch i bawb—un rhwydwaith teithio cyhoeddus cydlynol ac ymatebol. A chan gyffwrdd ar drenau mewn ardaloedd gwledig, gallent fod yn opsiwn, ond mae cost ac effeithlonrwydd yn her. Eleni, gwelwyd y cynnydd mwyaf serth ym mhrisiau tocynnau trên yn y DU ers 2013, sy'n digwydd, fel y gwyddom ac fel y clywsom heddiw, wrth i gost biliau cartref hanfodol barhau i godi. Felly, argymhellwn y dylid cynnig teithio am ddim ar y rheilffyrdd i bobl ifanc pan fo teithiau'n dechrau ac yn dod i ben yng Nghymru—hynny yw, y rheini o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru.
Felly, i orffen, i grynhoi, argymhellwn ein bod yn gwneud teithio ar fysiau a threnau yn rhad ac am ddim i rai dan 25 oed yng Nghymru, a gofynnwn i'r Llywodraeth edrych ar sut y gellid cyflawni hyn a pha mor fuan. Edrychaf ymlaen at yr ymateb ac at weithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jane Dodds am y ddadl fer hon? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater sy'n agos at fy nghalon innau hefyd. Cyn imi gael fy ethol i'r Senedd, cyflwynais ddeiseb gyda mwy na 3,500 o lofnodion arni, a oedd yn galw am wasanaethau bysiau i bobl yn hytrach nag er elw. Roedd y rhain i gyd yn bobl a oedd yn poeni'n fawr ac yn pryderu am golli eu gwasanaethau bws cyhoeddus. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, clywais dystiolaeth yn ddiweddar am yr angen i wella marchnata i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus eto, gan roi hyder i'r cyhoedd ddychwelyd at ddefnyddio bysiau a threnau. Ar hyn o bryd, mae 15 y cant o bobl yn disgwyl y byddant yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i raddau llai ar ôl y pandemig, ac nid yw 23 y cant wedi penderfynu. Fel y mae pethau, mae defnyddio cerbydau preifat yn ffordd fforddiadwy a mwy effeithlon o deithio i lawer o bobl, sy'n golygu y bydd angen newidiadau mawr i gyrraedd targedau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r camau allweddol ar gyfer adfer y sector trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys yr angen i dawelu meddyliau teithwyr.
Bydd cerdyn teithio am ddim yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o oedran ifanc, gan roi hyder iddynt ei bod yn ffordd normal a gwell na'r un o deithio wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion. Ledled Ewrop, rydym yn dechrau gweld manteision trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, ac o ddiwedd y mis hwn yn yr Alban, bydd unrhyw un rhwng pump a 21 oed yn gallu gwneud cais am gerdyn Young Scot, a fydd yn caniatáu iddynt deithio ar fws am ddim. Yn Tallinn yn Estonia, mae'r holl drafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i drigolion y ddinas, ac yn ninas Dunkirk yn Ffrainc, arweiniodd trafnidiaeth gyhoeddus am ddim at lai o allyriadau carbon a helpodd i adfywio'r hen borthladd diwydiannol, gyda nifer y teithwyr yn cynyddu 60 y cant yn ystod yr wythnos. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol i unrhyw ymgais ddifrifol i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Senedd i greu system drafnidiaeth ar gyfer heriau ein dyfodol. Diolch.
Diolch i Jane am ddod â’r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Mae’n ddadl andros o bwysig i bob rhan o Gymru, mewn gwirionedd, ond dwi eisiau canolbwyntio yn y munud sydd gen i ar Gymru wledig ac edrych yn benodol ar Ddwyfor Meirionnydd. Dwi'n cydnabod ac yn diolch i Jane am gyfeirio at Gymru wledig yn ei chyfraniad. Wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi’i weld dros y degawdau diwethaf ydy canoli gwasanaethau i ffwrdd o’n cymunedau ni, gwasanaethau yn mynd i'r dinasoedd a'r trefi—yn achos gogledd Cymru, yn mynd ymhellach i'r arfordir, oddi wrth ein pentrefi bach gwledig ni. Felly, mae pobl yn methu â chael mynediad i'r gwasanaethau hynny. Meddyliwch os ydych chi'n berson ifanc yn byw yn rhywle fel Trawsfynydd ac eisiau mynd i chwarae pêl-droed a does dim pitsh 3G yn gyfagos; os ydych chi eisiau cael triniaeth, a ddim eisiau i bobl wybod am hynny, ond mi ydych chi'n ddibynnol ar drafnidiaeth breifat, yn ddibynnol ar gyfaill neu deulu i fynd â chi i'r ysbyty neu'r clinig.
Dwi eisiau cyfeirio'n benodol at un enghraifft er mwyn dangos pwysigrwydd hyn. Dwi wedi bod yn siarad efo'r elusen GISDA; dwi wedi cyfeirio at hyn o'r blaen. Mae GISDA yn elusen rhagorol yn y gogledd-orllewin yn helpu pobl ifanc ddifreintiedig. Fe ddaru nhw wneud ymgynghoriad efo defnyddwyr yr elusen, a’r brif her oedd yn wynebu’r bobl ifanc hynny oedd iechyd meddwl, a’r diffyg cyfleusterau a gwasanaethau iechyd meddwl, a'r her o ran y gwasanaethau hynny oedd diffyg gallu i gyrraedd y gwasanaethau. Felly eto, os ydych yn byw yn rhywle fel Harlech neu Meirionnydd neu ym mhen draw Llŷn, rydych chi'n gorfod teithio oriau er mwyn mynd i Fangor neu Fae Colwyn neu ymhellach, hyd yn oed. Felly mae hyn yn dangos pwysigrwydd trafnidiaeth, yn enwedig i'r bobl ifanc yn ein cymunedau ni. Mae angen rhoi’r pwys mwyaf arno fe a rhoi'r buddsoddiad yn ein trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bobl yma'n derbyn y gwasanaethau angenrheidiol. Felly, diolch yn fawr iawn, Jane, a gobeithio y byddwn ni'n cael ymateb cadarnhaol gan y Dirprwy Weinidog.
Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan Jane Dodds yn fawr, a hoffwn ddiolch i Jane am gytuno i roi munud o'i hamser i mi. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a gododd heddiw. Y mater yr hoffwn ganolbwyntio arno yw cludiant i'r ysgol. Yn fwyaf arbennig, hoffwn weld cludiant bws ysgol am ddim yn cael ei gyflwyno, efallai i ddechrau, er mwyn annog mwy o blant i deithio ar fws i'r ysgol, gan normaleiddio'r ymddygiad hwnnw, ond hefyd i helpu teuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio costau cludiant ysgol, gyda llawer ohonynt yn teimlo bod yn rhaid iddynt yrru eu plant yn lle hynny. Bob blwyddyn, rwy'n derbyn negeseuon e-bost gan rieni pryderus sy'n ei chael yn anodd fforddio costau bws ysgol. Ar adeg pan wyddom fod teuluoedd yn wynebu argyfwng costau byw enbyd, byddai'n lleddfu'r baich tra'n annog math llawer mwy cynaliadwy o drafnidiaeth i'n plant a'n pobl ifanc, gan helpu i ymgorffori'r ymddygiad hwn. Mae rhieni sy'n danfon eu plant i'r ysgol yn cyfrannu at brysurdeb ein strydoedd bob bore a phrynhawn, felly gadewch i ni fynd i'r afael â hynny drwy gynnig dewis amgen deniadol: system cludiant bws ysgol am ddim sy'n fwy hygyrch i ategu ein llwybrau diogel i'r ysgol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Jane Dodds am y ddadl bwysig hon heddiw.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl ac am yr amrywiaeth o gyfraniadau gan Aelodau. Fel erioed, pan fyddwn yn trafod trafnidiaeth gyhoeddus yn y Senedd hon, ceir diddordeb a chefnogaeth drawsbleidiol i fod yn fwy uchelgeisiol, ac ni ellir gwadu'r ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn syniad deniadol. Er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd a chyrraedd y targed nad yw'n agored i drafodaeth o sicrhau allyriadau carbon sero net erbyn 2050, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud llai o deithiau car ac yn newid i ddulliau trafnidiaeth a rennir ac i deithio llesol. Y cwestiwn rydym i gyd yn ceisio ei ateb yw: sut y gwawn hynny? Sut y mae newid ymddygiad teithio ac agweddau a sut y mae ailwampio'r peirianwaith a'r seilwaith trafnidiaeth i helpu i sicrhau hynny?
Nid oes amheuaeth y bydd cymhellion a datgymhellion yn chwarae rhan allweddol. Fel y mae Julie James a minnau wedi bod yn ei ddweud ers inni gael ein penodi'n Weinidogion newid hinsawdd fis Mai diwethaf, mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud yn beth hawsaf i'w wneud. Ond mae ein system drafnidiaeth a chynllunio wedi'i llunio mewn ffordd sy'n golygu mai neidio i mewn i'r car yw'r peth hawsaf i'w wneud, a beicio, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn llai hawdd, ac mae'n rhaid i hynny newid. Yn amlwg, mae gan bris rôl i'w chwarae yn y ffordd rydym yn cymell y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Yn sicr, nid dyma'r unig ffactor, serch hynny. Mae gweithredwyr bysiau wedi bod yn dweud wrth bwyllgorau'r Senedd ers blynyddoedd mai'r rhwystr mwyaf i ddenu mwy o deithwyr yw'r effaith y mae tagfeydd yn ei chael ar amseroedd teithio a dibynadwyedd. Mae diffyg integreiddio rhwng bysiau a threnau yn rhwystr arall, yn ogystal â newid arferion. Nid yw 50 y cant o bobl byth yn mynd ar y bws. O ganlyniad, mae gan lawer ohonom farn wyrgam o realiti teithio ar fysiau, pa mor hawdd a chyfleus yw gwneud hynny. Felly, mae llawer y mae angen inni ei newid, ond ble mae dechrau a sut y talwn amdano? Dyna'r cwestiynau sy'n ein hwynebu.
Yn ninas Dunkirk yn Ffrainc, maent yn sicr wedi gweld bod defnydd am ddim o fysiau wedi bod yn llwyddiant. Ym mis Medi 2018, cynyddwyd y dreth fusnes leol i ariannu defnydd am ddim o fysiau ac maent wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu 60 y cant yn ystod yr wythnos a dwbwl ar benwythnosau. Rydym eisoes wedi'i dreialu ein hunain gyda theithio am ddim ar benwythnosau ar ein rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2020, ac roedd yn llwyddiannus o ran cynyddu defnydd hefyd. Roedd tua chwarter y teithwyr bws yn bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, a phan gawsant eu holi, dywedodd 73 y cant o bobl ifanc wrthym y byddai teithio am ddim yn eu hannog i wneud mwy o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a newid o ddefnyddio'r car.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganmol cynghorau Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd—cynghorau Llafur—sydd wedi cynnig mentrau tocynnau bws am ddim a thocynnau bws rhatach dros y flwyddyn ddiwethaf. O ganlyniad i hynny, gwelodd pob un ohonynt fwy o bobl yn defnyddio bysiau, ac rydym yn edrych yn ofalus gyda hwy ar yr adroddiadau gwerthuso. Felly, unwaith eto, nid oes amheuaeth nad yw defnydd am ddim o fysiau yn opsiwn deniadol. Ond wrth gwrs, mae cost ynghlwm wrtho a rhaid i bob Llywodraeth flaenoriaethu. Gwn nad yw Jane Dodds yn dadlau dros ddefnydd am ddim o fysiau i bawb, ond ei dargedu yn hytrach at bobl ifanc. Ac mae cynsail i hyn: rydym yn darparu teithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Rydym i gyd yn cydnabod bod pobl ifanc yn arbennig wedi cael amser caled yn ystod y pandemig, a bod llawer o wahanol garfannau heb fod yn cael yr un cyfleoedd ag y cafodd fy nghenhedlaeth i neu fy rhieni.
Rydym yn cynnig rhywfaint o help yn barod. Gan ddechrau gyda'r ieuengaf, mae pob plentyn o dan 6 oed yng Nghymru yn cael teithio am ddim, mae pobl ifanc 16 i 21 oed yn cael gostyngiad o draean ar docynnau bws gyda chymorth cynllun Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru, fel y nododd Jane Dodds, ac mae rhai pobl ifanc yn gymwys i deithio am ddim gyda chymorth ein cynllun teithio consesiynol gorfodol. Ar y trên, gall plant dan 11 oed deithio am ddim pan fyddant gydag oedolyn, a gall rhai dan 16 oed elwa o deithio am ddim ar adegau tawel gyda Trafnidiaeth Cymru. I rai rhwng 16 a 17 oed, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cerdyn rheilffordd sy'n cynnig gostyngiad o 50 y cant ar lawer o docynnau. Ac wrth gwrs, yng Nghymru, rydym wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n rhoi cymorth ariannol gwerthfawr i fyfyrwyr tuag at gostau byw, gan gynnwys tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus.
I fod yn glir, rydym eisiau gwneud mwy, ond mae hefyd yn deg nodi ein bod wedi ein cyfyngu. Bydd ein cyllideb ar ddiwedd tymor y Senedd hon bron i £3 biliwn yn llai na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi dros dymor Llywodraeth y DU ers 2010. Ac nid ydym yn cael ein cyfran deg o adnoddau trafnidiaeth y DU. Dylem i gyd uno ar hyn; nid oes angen i hwn fod yn fater pleidiol. Pe bai gennym gyfran o'r gwariant ar raglen HS2, byddem yn cael £5 biliwn ychwanegol y gallem ei ddefnyddio i wella trafnidiaeth yng Nghymru yn sylweddol. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, y gallwn ddod at ein gilydd ar draws y pleidiau i alw ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar hyn.
O ganlyniad i hynny, ni allwn wneud popeth yr hoffem ei wneud, ond rydym yn benderfynol o wneud mwy. Yn wir, mae ein hymrwymiadau hinsawdd yn mynnu ein bod yn gwneud mwy. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys addewidion i adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio consesiynol i bobl hŷn ac i edrych ar sut y gall prisiau teg annog defnydd o drafnidiaeth integredig. Yn ail, rydym wedi ymrwymo i archwilio estyniadau i gynllun Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer teithio rhatach i bobl ifanc. Rwy'n ymwybodol fod dros 100 o drefi a dinasoedd ledled y byd wedi cyflwyno cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob dinesydd, ac rydym yn edrych ar y rhain i weld beth fydd yn gweithio orau yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar y gwaith yn yr Alban, a gafodd sylw yn y ddadl, ar gyflwyno teithio am ddim ar fysiau i rai dan 22 oed.
Er bod prisiau tocynnau'n ffactor pwysig, soniais fod y diwydiant bysiau yn rhoi mwy o bwyslais ar brydlondeb a dibynadwyedd. Yn ddiddorol, dangosodd ymchwil y llynedd gan Passenger Focus fod hon yn farn a rennir gan bobl ifanc yn enwedig; maent yn rhoi mwy o bwys na grwpiau oed eraill ar brydlondeb a dibynadwyedd, darpariaeth Wi-Fi am ddim mewn safleoedd bysiau, ynghyd â phrisiau sy'n cynnig gwerth am arian a'r gallu i gael sedd. Felly, Ddirprwy Lywydd, nid yw'r rhain yn ystyriaethau syml; nid oes amheuaeth nad yw pris yn ffactor pwysig wrth geisio cael mwy o bobl ar fysiau, ond nid yw ond yn un o amrywiaeth o gymhellion ac mae'n rhaid inni ystyried yn ofalus sut y defnyddiwn ein hadnoddau cyfyngedig i sicrhau'r newid dulliau teithio rydym i gyd wedi ymrwymo iddo.
Nid wyf mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau i'r Senedd heno, ond gallaf sicrhau'r Aelodau fod Julie James a minnau'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gweithredu strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru a lansiwyd gennym y llynedd, er mwyn rhoi Cymru ar lwybr newydd. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Daw ei gyfraniad â ni at ddiwedd y trafodion am heno. Felly, diolch i bawb, a gobeithio y cewch daith ddiogel adref i ble bynnag y byddwch yn mynd adref. Mae'n rhaid i mi deithio adref.