2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2022.
5. Pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau trosglwyddo COVID-19? OQ57467
Rydyn ni’n cefnogi pob ardal i leihau lefelau trosglwyddo yn y gymuned. Mae camau diogelu lleol wedi’u targedu at ardaloedd lle mae cyfraddau ar gynnydd. Mae’r feirws yn lledaenu’n haws mewn ardaloedd trefol lle mae dwysedd y boblogaeth yn uwch.
Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r camau rŷch chi wedi'u hamlinellu yn eich ateb. Mae'r pandemig wedi datgelu'n glir yr anghydraddoldebau sosio-economaidd sy'n bodoli yn ein cymdeithas, ac yn wir wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn. Mae'r anghydraddoldebau hyn hefyd yn rhai iechyd, gyda pherthynas glir yn bodoli rhwng sefyllfa sosio-economaidd rhywun ac effaith COVID arnynt. Mae ffigurau o Loegr yn dangos bod pobl sy'n byw mewn cymunedau sy'n cael eu disgrifio fel rhai left behind 46 y cant yn fwy tebygol o farw o COVID o'i gymharu â rhai nad ydynt yn byw yn y cymunedau hyn, ac fe ddatgelodd adroddiad 'Locked Out' yng Nghymru fod ffactorau sosio-economaidd yn chwarae rhan allweddol yn niferoedd uwch y marwolaethau ymhlith pobl anabl a'r effaith ar eu hiechyd a'u gofal o gymharu â gweddill y boblogaeth o ganlyniad i COVID. Mae'n glir felly fod angen i bolisi iechyd y Llywodraeth i'r dyfodol wneud mwy i unioni'r anghydraddoldebau hyn wrth i ni barhau i fynd i'r afael â lefelau COVID a'i effaith, gan gynnwys COVID hir. A all y Llywodraeth felly sicrhau bod unrhyw gamau newydd i daclo trosglwyddiad ac effaith COVID yn ymgorffori strategaethau clir i daclo'r anghydraddoldebau iechyd hyn? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned. Mae hwn yn dilyn o'r drafodaeth gawsom ni yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n meddwl bod honno'n drafodaeth fanwl a chywir gan bob un oedd wedi cyfrannu. Rŷn ni'n ymwybodol dros ben o'r gwahaniaeth o ran lle mae COVID wedi bwrw, ac mae'n amlwg bod y rheini mewn ardaloedd tlawd, mewn cartrefi tlawd wedi dioddef yn fwy nag ardaloedd eraill. Felly, pan fyddwn ni'n ailgodi ar ôl y pandemig, yn amlwg byddwn ni'n ei ystyried nid jest o safbwynt iechyd ond ar draws y Llywodraeth i gyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd ati i geisio gwneud mwy i sicrhau nad ydym ni'n gweld yr anghydraddoldebau yna yn y dyfodol.
O safbwynt iechyd, dwi wedi ei gwneud hi'n glir iawn i'r byrddau iechyd na fyddwn ni yn gallu—. Byddwn ni'n gweld yr un canlyniad pe byddem ni'n cael pandemig eto os nad ydyn ni'n gwneud rhywbeth yn wahanol. Felly, o'm safbwynt i, dwi wedi bod yn hollol glir gyda'r byrddau iechyd fod rhaid i ni fynd i'r afael gyda prevention. Mae'n rhaid i ni stopio pobl rhag ysmygu. Rŷn ni wedi bod yn trafod gorfwyta. Mae'r holl ffactorau yna yn hollbwysig o ran beth mae iechyd un yn edrych fel yn y dyfodol. Ond, dyw e ddim yn rhywbeth sydd jest wedi'i gyfyngu i fyd iechyd; mae'n hollbwysig ein bod ni'n ystyried addysg, yr economi, a'r holl bethau eraill sydd yn cyfrannu at y ffordd mae pobl yn byw.
Weinidog, er bod y mesurau mwyaf llym i leihau trosglwyddiad COVID-19 ar waith yma, Cymru sydd â'r cyfraddau heintio uchaf o blith pedair gwlad y DU ac un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. A yw eich Llywodraeth bellach yn derbyn bod yr ymyriadau anfferyllol yn gwneud mwy o ddrwg nag o les erbyn hyn? A chyda dros 90 y cant o boblogaeth Cymru, yn ôl eich prif swyddog meddygol, yn cario gwrthgyrff COVID-19, a ydych yn derbyn bod yn rhaid inni ddysgu byw gyda COVID yn awr, yn hytrach na chanolbwyntio ein hymdrechion ar sut i'w atal?
Diolch yn fawr iawn, Gareth. Roeddwn i bron wedi eich annog ddoe, onid oeddwn, i ofyn y cwestiwn hwn i mi, felly rwy'n falch iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn, oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi ddweud, mewn gwirionedd, fod y data a gawsom hyd yma yn awgrymu bod y cyfyngiadau wedi helpu. Rydym yn sicr wedi gweld gwahaniaeth yn y nifer sy'n mynd i'r ysbyty. Rydym yn aros i'r data hwnnw gael ei brosesu. Yn sicr, roedd gan Loegr gyfraddau uwch o bobl yn mynd i'r ysbyty o'u cymharu â phob un o'r tair gwlad arall a gyflwynodd gyfyngiadau. Mae'n ddyddiau cynnar o hyd, felly fe arhoswn i'r data terfynol hwnnw gael ei gyhoeddi, erbyn diwedd yr wythnos hon gobeithio.
Rwy'n credu hefyd fod a wnelo hyn â chyfrif, Gareth. Felly, mae'r ffordd rydym yn cyfrif achosion yn wahanol ym mhob un o'r pedair gwlad. Er enghraifft, nid yw Lloegr yn cyfrif ailheintiadau, felly gallai hynny wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae Cymru'n cyfrif ailheintiadau os oes 42 diwrnod rhwng yr heintiadau. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r niferoedd. Newidiodd ein polisi ar brofi, wrth gwrs, felly efallai bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Hefyd, credaf mai'r hyn a welwch yw bod pobl wedi addasu eu hymddygiad yn Lloegr pan glywsant yr hyn a ddywedodd y prif swyddog meddygol, oherwydd, yn amlwg, nid oedd eich Prif Weinidog mewn sefyllfa i ddweud wrth unrhyw un beth i'w wneud oherwydd yr holl bartïon y bu'n eu cynnal. Felly, gwrandawodd pobl ar y prif swyddog meddygol yn Lloegr ac addasu eu hymddygiad. Yr hyn nad oedd ganddynt yn Lloegr oedd y math o gymorth economaidd roeddem yn gallu ei roi i'n busnesau ni oherwydd y mesurau diogelu a roesom ar waith. Rwy'n falch o ddweud bod yr arwyddion hyd yma yn awgrymu bod rhoi'r cyfyngiadau hynny ar waith wedi helpu, ond yn amlwg, bydd angen inni aros am ychydig ddyddiau eto i fod yn gwbl hyderus fod hynny'n wir.
Yn sicr, dengys yr ystadegau a welais hyd yma fod gennym tua 170,000 o bobl â COVID. Pe baem yn yr un sefyllfa â Lloegr, byddem wedi cael 40,000 yn fwy o bobl â COVID, a phe baem yn Llundain, byddem wedi gweld bron i 70,000 yn fwy o bobl â COVID. Byddai hynny'n ddigon i lenwi stadiwm y mileniwm yn ychwanegol at y niferoedd a gawsom. Felly, dyna rai o'r cyfrifiadau cynnar, ond yn amlwg, fe arhoswn i'r data hwnnw fod yn gyflawn.