3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2022.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhewi ffi'r drwydded ar ddarlledu yng Nghymru? TQ592
A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Cyfarfûm â’r BBC ddoe, ac rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ffi’r drwydded, sy’n peri cryn bryder, a’r hyn y mae’n ei olygu i wasanaethau a’r sector cyfryngau yng Nghymru.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ffi'r drwydded ddydd Llun yn brawf pellach na fydd anghenion cyfryngol Cymru byth yn cael eu diwallu dan reolaeth San Steffan, ac mae'n nodi dechrau'r diwedd i'r holl syniad o ddarlledu cyhoeddus ym Mhrydain. Mae rhewi'r ffi drwydded am ddwy flynedd yn arwain at ansicrwydd mawr ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymru, yn enwedig ein sianel genedlaethol, S4C, a Radio Cymru, a fydd yn cael eu hariannu yn gyfan gwbl o ffi'r drwydded. Cadarnhaodd Nadine Dorries y bydd y ffi drwydded yn cael ei rhewi am ddwy flynedd, sy'n cynrychioli toriad difrifol mewn termau real yng nghyllid y gorfforaeth.
Mae llawer ar feinciau'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi nodi pwysigrwydd darlledu Cymraeg a'r cyllid ychwanegol ar gyfer S4C. Fodd bynnag, a ydynt yn cydnabod y bydd toriad mewn termau real i setliad y BBC yn anochel yn effeithio ar ddarpariaeth Gymraeg, o gofio bod y BBC yn darparu gwerth tua £20 miliwn o raglenni i S4C bob blwyddyn? Ni all y cynnydd yn y cyllid ar gyfer allbwn digidol S4C wneud iawn am y toriad hwnnw, heb sôn am Radio Cymru. Mae'n gliriach nag erioed bod angen tirwedd cyfryngau iachach yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos gelyniaeth gynyddol tuag at y BBC, tra ar yr un pryd mae allbwn newyddion lleol yn gwanhau. Mae hyn yn gwthio Cymru i mewn i gornel o ran diffyg y cyfryngau yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n niweidio ein democratiaeth.
Gyda sôn pellach am ddileu ffi'r drwydded yn gyfan gwbl ar ôl 2027, rwy'n croesawu mwy nag erioed y bwriad i wthio am ddatganoli darlledu, sydd wedi ei gynnwys yn y cytundeb cydweithredu. A fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno gyda fi bod y datblygiadau diweddar yn tanlinellu pwysigrwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi datganoli cyfathrebu a darlledu i Gymru fel nad ydyn ni'n gaeth mewn ras i'r gwaelod lle mae elw'n clodfori darpariaeth o safon?
A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei sylwadau pellach? Rwy’n cytuno at ei gilydd â phopeth a ddywedodd. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ac rydym yn bryderus iawn ynghylch y cyhoeddiad byrbwyll a wnaed gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u dyfodol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru, yn cefnogi ein mynegiant creadigol amrywiol ac yn hyrwyddo'r Gymraeg. Gallai’r toriad cyllid mewn termau real a gyhoeddwyd yn y dyddiau diwethaf fygwth yr holl elfennau allweddol hynny o’r gwasanaethau presennol, yn ogystal â datblygiad y diwydiant cyfryngau yng Nghymru. Nid yw'r syniad fod Llywodraeth y DU wedi paratoi cynlluniau mwy hirdymor i ystyried y materion hyn yn gredadwy.
Mae'r ffordd y gwnaed y cyhoeddiadau hyn yn dangos yn glir mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Er y cawsom gyhoeddiad gan Nadine Dorries ynghylch diddymu ffi'r drwydded, ymddengys bod Rishi Sunak wedi camu'n ôl ar hynny i raddau dros y dyddiau diwethaf, ar ôl iddynt weld adwaith y cyhoedd i'r cyhoeddiad penodol hwnnw. Oherwydd mae'n amlwg nad oedd y cyhoeddiad hwnnw'n gredadwy fel unrhyw fath o gynllun cynhwysfawr a oedd yn barod i gael ei gyhoeddi mor fuan ar ôl i Rif 10 wynebu argyfwng gwleidyddol arall wedi'i achosi ganddynt hwy eu hunain. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod ehangu gweithgarwch y BBC yng Nghymru wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant rhyfeddol y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a byddai unrhyw fygythiad i'r cynnydd hwn yn arddangosiad amlwg o fwriad y Llywodraeth hon i iselhau a llesteirio economi Cymru.
Mewn perthynas â datganoli darlledu, fel y gŵyr Heledd Fychan, mae ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i archwilio, ar y cyd, y posibilrwydd o greu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gan ddarparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau i wella cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu yn barod ar gyfer datganoli’r pwerau hynny i Gymru. Credaf ei bod yn deg dweud bod consensws eang fod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn annigonol. Mae’n llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad, nid yw’n gwasanaethu anghenion nac uchelgeisiau’r Gymraeg, a’i ymosodiad diweddaraf ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yw’r dystiolaeth ddiweddaraf na fydd y system bresennol yn cyflawni hynny.
Rwyf am gloi drwy ailadrodd yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, sef bod angen brys am glymblaid o gefnogaeth yn awr i amddiffyn cyllid cyhoeddus ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.
Ddirprwy Weinidog, hoffwn groesawu’r ymrwymiad i ddarlledu Cymraeg sydd wedi’i wireddu gyda’r cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer S4C. Ein plaid ni a sefydlodd y sianel dros 40 mlynedd yn ôl, a byddwn bob amser yn diogelu ei rôl ym mywyd Cymru, ni waeth sut y caiff y BBC ei ariannu a honiadau gwamal gan y gwrthbleidiau. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard a minnau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y pryd i alw am gynnydd yn y setliad cyllid ar gyfer S4C y llynedd, ac rwy’n falch eu bod wedi gwrando ar ein galwadau. Yn wir, roeddwn yn falch o weld bod uwch arweinwyr S4C hefyd wedi croesawu’r cyllid ychwanegol, gyda phrif weithredwr newydd S4C, Siân Doyle, yn dweud
'Mae hyn yn newyddion gwych i gynulleidfa S4C yng Nghymru a thu hwnt.'
A dywedodd cadeirydd S4C, Rhodri Williams
'Mae'r setliad yma'n adlewyrchu ffydd y DCMS, a'r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf.'
Yn ystod y cyfarfod a gefais gyda’r prif weithredwr newydd yr wythnos diwethaf, roedd yr angerdd dros ddod â’r sianel i’r oes ddigidol yn amlwg. Mae’r cyllid ychwanegol o £7.5 miliwn y flwyddyn i gefnogi gwasanaethau digidol yn gydnabyddiaeth fod gwasanaethau ffrydio ar-lein bellach yn chwarae rhan enfawr yn y ffordd rydym yn gwylio rhaglenni teledu. Bydd rhoi S4C ar yr un llwyfan â chewri ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime yn creu cynulleidfa newydd a chynyddol i gynnwys Cymraeg. A wnewch chi ymuno nid yn unig gyda mi ond hefyd gydag uwch dîm arwain S4C i groesawu’r cyhoeddiad hwn o gyllid ychwanegol i gefnogi darlledu Cymraeg yma yng Nghymru?
Wel, a gaf fi ddiolch i Samuel Kurtz am ei gwestiwn pellach? Mae’n llygad ei le, cafodd S4C setliad mwy ffafriol na’r BBC, ac mae’r gwaith y mae S4C yn ei wneud ar ddatblygu rhaglenni Cymraeg i’w groesawu ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Fodd bynnag, roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud â chyllid y BBC, a'r BBC a'i rôl ehangach yn cefnogi darlledu gwasanaeth cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU ac ar draws y byd. Ni ddylem anghofio’r rhan y mae’r BBC yn ei chwarae yn datblygu a chefnogi’r Gymraeg yng Nghymru gyda BBC Radio Cymru ac ati, a rhai o’r rhaglenni y maent yn eu cynhyrchu ar gyfer S4C hefyd. Felly, er fy mod yn llwyr groesawu'r setliad llawer gwell a gafodd S4C o gymharu â’r BBC, nid wyf yn awgrymu am eiliad fod yr hyn a welsom yma yn y cyhoeddiad ar gyllid y BBC yn agos at ddigon, ac mae'n fygythiad pendant i ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus onid eir i’r afael â hyn fel mater o frys.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.