1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2022.
4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi 10 mlwyddiant llwybr arfordir Cymru? OQ57530
Diolch i John Griffiths, Llywydd. Mae cynlluniau ar gyfer pen-blwydd llwybr arfordir Cymru yn ddatblygedig iawn. Ym mhob rhan o Gymru, bydd syniadau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn dathlu'r llwyddiant eiconig hwn o'r cyfnod datganoli, gan gynnwys, wrth gwrs, cyfleoedd newydd i bobl o bob oed a gallu cerdded.
Prif Weinidog, roedd yn fraint fawr i mi fel Gweinidog yr amgylchedd ar y pryd agor ein llwybr arfordir Cymru gwych, ac, ers hynny, mae awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac eraill wedi gweithio'n galed i'w gynnal a'i wella. Mae teithiau cerdded cylchol yn ei gysylltu â chymunedau lleol, ac apiau meddalwedd sy'n cyfeirio cerddwyr at nodweddion treftadaeth, mannau o ddiddordeb, bwyd, diod a llety. Mae'n bwysig iawn i wariant ymwelwyr a thwristiaeth, mor bwysig i'n heconomi, ac wrth gwrs mae'n bwysig i bawb yng Nghymru gael y mynediad hwnnw at ein hawyr agored, i gysylltu yn gryfach â'n hamgylchedd, i fod â'r manteision iechyd a llesiant. Felly, rwy'n meddwl gydag asedau mor ardderchog yma yng Nghymru, Prif Weinidog, ei bod hi'n gwbl briodol y dylem ni ddathlu'r 10 mlwyddiant, ac rwy'n credu mai un ffordd effeithiol iawn o'i wneud yw cerdded y llwybr hwnnw, trefnu teithiau cerdded lleol o fewn ffiniau awdurdodau lleol drwy ysgolion, cymunedau a grwpiau cerdded lleol, fel bod y llwybr cyfan, ar adeg y pen-blwydd hwnnw, yn cael ei gerdded yn rhan o'r dathliad mawr hwnnw.
Rwy'n cytuno yn llwyr â John Griffiths, Llywydd. Mae'n ased cenedlaethol ardderchog. Rwy'n cofio yn dda ei gyfraniad ar y dechrau un, a 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu ymhellach ar gyflawni'r llwybr, ac rydym ni wedi gofyn i Huw Irranca-Davies arwain adolygiad o bopeth y mae llwybr arfordir Cymru wedi'i gyflawni hyd yn hyn a sut y gallwn ni sicrhau bod ei 10 mlynedd nesaf yr un mor llwyddiannus â'r 10 cyntaf, ac i ehangu ei ddefnydd mewn gwahanol ffyrdd. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddathlu'r llwybr, fel y mae John Griffiths yn ei ddweud, yw ei ddefnyddio, a'i ddefnyddio ym mhob rhan o Gymru.
Ac a gaf i ddweud wrth John hefyd, Llywydd, fy mod i'n credu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd yn gwneud gwaith gwych o ran hyrwyddo'r 23 milltir o'r llwybr sydd o fewn y fwrdeistref? Mae canolfan gwlyptiroedd Casnewydd yn un o'r lleoedd sydd wedi creu un o'r teithiau cerdded cylchol hynny y cyfeiriodd John Griffiths atyn nhw, ac, yn rhan o ddathlu'r 10 mlynedd, ceir cynlluniau i gysylltu llwybr yr arfordir â thaith gerdded cwm Sirhywi, taith gerdded dyffryn Wysg, ac i wneud mwy i ddod â phlant a phobl ifanc allan i'w ddathlu. Rydym ni wedi bod yn sôn am ganmlwyddiant yr Urdd yn barod; mae dros 1,000 o flynyddoedd, Llywydd, ers i Gerallt Gymro ddisgrifio rhan o le mae llwybr yr arfordir yng Nghasnewydd yn rhedeg fel rhywle sy'n disgleirio â disgleirdeb gwych, ac, os gallwn ni ddod ag ychydig o'r disgleirdeb gwych hwnnw i ddathlu llwybr yr arfordir yn ystod y flwyddyn hon, rwy'n sicr y bydd y llwyddiant a gychwynnwyd gan John Griffiths 10 mlynedd yn ôl yn parhau i gael ei ddathlu ar draws ein cenedl gyfan.
Mae'n gwbl briodol ein bod ni'n nodi dengmlwyddiant llwybr yr arfordir. Nid yn aml yr wyf i'n dweud fy mod i'n cytuno yn llwyr ac yn croesawu geiriau John Griffiths a'r Prif Weinidog o ran llwybr yr arfordir, oherwydd mae'n helpu i gysylltu ein cymunedau arfordirol â'i gilydd ac yn helpu i hyrwyddo teithio llesol, a dylem ni fod yn falch o'r ffaith bod y llwybr y cyntaf o'i fath yn y byd hefyd. Mae'r llwybr yn mynd drwy fy nhref enedigol ym Mhrestatyn, sef y dref gyntaf yng Nghymru i ennill statws Croeso i Gerddwyr, ac mae hefyd ar un pen o lwybr Clawdd Offa, ac, o Brestatyn, nid yn unig y gallwch chi gerdded ar hyd holl arfordir Cymru, gallwch hefyd gerdded ar hyd ei ffin. Felly, Prif Weinidog, gyda hynny mewn golwg, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fanteisio ar hyn, wrth i ni ddod allan o COVID, i roi hwb i'r sector, sydd wedi cael ei daro yn galed iawn gan y pandemig?
Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y cysylltiad gwych ym Mhrestatyn o lwybr yr arfordir a'r llwybr o'r gogledd i'r de hefyd. Bydd yn gwybod bod y llwybr wedi cael sylw cyson mewn gwobrau cenedlaethol a chanllawiau teithio rhyngwladol blaenllaw—y Lonely Planet, y Rough Guides—ac, o ganlyniad i waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i nodi'r dengmlwyddiant, rydym ni'n eithaf hyderus bellach y bydd y National Geographic, sy'n gyhoeddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, yn cynnwys erthygl bwysig ar lwybr yr arfordir adeg Dydd Gŵyl Dewi, gan wneud yn siŵr unwaith eto bod popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, a'r cynnig lletygarwch a thwristiaeth yr ydym ni'n ei wneud yn arbennig, yn cael ei ddathlu a'i gyfathrebu i gynulleidfa nid yn unig yma yng Nghymru, ond y tu hwnt i lannau'r Deyrnas Unedig.
Mae cwestiwn 5 [OQ57534] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 6, Mike Hedges.