10. Dadl Fer: Manteision adfer camlas Trefaldwyn: Edrych ar gynnydd a manteision y gwaith adfer parhaus sy'n cael ei wneud gan grŵp angerddol o unigolion, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol

– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:15, 26 Ionawr 2022

Fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer, a heddiw mae'r ddadl fer yn enw Russell George, felly fe wnaf i gyflwyno'r eitem nesaf i Russell George i gyflwyno'i ddadl.

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:16, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch hefyd o roi munud o fy amser i James Evans a Jane Dodds. Dylwn hefyd ddatgan buddiant, gan fy mod yn aelod o Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffordd Trefaldwyn.

Roedd camlas Trefaldwyn ar un adeg yn ddarn 35 milltir o ddyfrffordd a weai ei ffordd o ffin Lloegr i ganol canolbarth Cymru yn y Drenewydd. Mae gwirfoddolwyr ac amrywiaeth o grwpiau cymunedol wedi bod, ac wrthi, yn gweithio'n galed iawn i adfer y gamlas i'w statws fel coridor drwy gymunedau Sir Drefaldwyn ar gyfer ymwelwyr, cerddwyr, ecoleg a masnach o dwristiaeth. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys partneriaeth camlas Trefaldwyn, Glandŵr Cymru, Cyfeillion Camlas Trefaldwyn, Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffordd Trefaldwyn, Cymdeithas Camlas Shropshire Union a Twristiaeth Canolbarth Cymru.

Rwyf am archwilio hanes y gamlas yn gryno cyn symud ymlaen i siarad am rai o fanteision y gamlas i ganolbarth Cymru. Roedd camlas Trefaldwyn ar ei hanterth yn gwasanaethu cymunedau fel Llanymynech, y Trallwng, Garthmyl a'r Drenewydd, ac adeiladwyd y gamlas fesul cam, o ganol y 1790au hyd at 1819, ar gyfer cludo deunyddiau gan fusnesau lleol, gan gynnwys amaethyddiaeth. Drwy'r 1920au a'r 1930au, gwelodd y gamlas gyfraddau cludo nwyddau yn lleihau, ac fe'i gorfodwyd i gau i gychod ym 1936.

Mae pobl leol wedi bod yn angerddol ynglŷn â'r gamlas a'i chadwraeth ers degawdau. Yn 1960, ymladdodd y gymuned gynigion ar gyfer defnyddio ei llwybr ar gyfer ffordd osgoi—nid ffordd osgoi'r Drenewydd, dylwn ychwanegu—ac maent wedi gweithio'n galed iawn byth ers hynny i adfer y gamlas i ddefnydd gweithredol. Roedd gwirfoddolwyr yn allweddol yn y gwaith o adfer darn 12 milltir o hyd o'r gamlas sy'n rhedeg drwy'r Trallwng, ac mae darlun o hynny y tu ôl i mi, os edrychwch yn fanwl. Ac ail-agorwyd y darn hwnnw gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar y pryd. Mae gwirfoddolwyr, wrth gwrs, wedi bod yn allweddol i'r gwaith cadwraeth ar y lociau a nifer sylweddol o adeileddau rhestredig ar hyd llwybr y gamlas.

Yna, yn hwyr y llynedd, yn 2021, sicrhaodd cais gan Gyngor Sir Powys i gronfa godi'r gwastad Llywodraeth y DU gyllid ar gyfer adfer darn 4.4 milltir o hyd o'r gamlas ger Llanymynech, a bydd yr arian hwn yn creu dau ddarn wedi'u hadfer o'r gamlas a wahenir gan hanner milltir lle mae angen gosod dwy bont ffordd newydd yn lle'r rhai sydd yno. Felly, dyna oedd y rhwystr ddiwedd y llynedd. Ond rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, drwy weithio gyda'i gilydd, wedi llofnodi bargen twf canolbarth Cymru y mis hwn, a dylai'r fargen hon helpu i adfer y gamlas ymhellach, ac mae'n debygol o ariannu'r gwaith o ailadeiladu'r ddwy bont ffordd sydd eu hangen i gysylltu'r ddau ddarn sydd wedi'u hadfer. Bydd hyn wedyn yn dod ag agoriad y darn o'r gamlas yn agos at ffin Lloegr, ble mae angen adfer darn 2 filltir o hyd yn unig i'w gysylltu â'r rhwydwaith cenedlaethol. Mae'r tir hwn sydd ei angen ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wrth gwrs.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:20, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Weithiau, gall manteision adfer y gamlas fod yn anodd eu gwerthfawrogi, oherwydd caiff effeithiau ariannol a llesiant eu lledaenu ar draws unigolion a busnesau lleol amrywiol. Mae llawer o fanteision eisoes, wrth gwrs, i'r darn lle'r adferwyd y gamlas eisoes o amgylch y Trallwng. Mae Ymddiriedolaeth Heulwen yn gwneud gwaith anhygoel sy'n cynnig teithiau camlas i rai na fyddent yn gallu eu defnyddio fel arall o bosibl, ar gwch cyntaf y DU a addaswyd ar gyfer pobl sy'n agored i niwed. Cynigir y teithiau hyn yn rhad ac am ddim diolch i ymdrechon codi arian lleol ac maent yn helpu pobl mewn amgylchiadau anodd i ddathlu pen blwyddi a mwynhau amser gydag anwyliaid, ac wrth gwrs gallant ddefnyddio a mwynhau'r manteision y mae llawer ohonom yn eu mwynhau ar y dyfrffyrdd. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â hwy fy hun ar gyfer taith ar gwch Heulwen II—unwaith eto, efallai y gallwch weld llun y tu ôl i mi ar fy wal.

Bydd pobl leol yn elwa mewn nifer o ffyrdd o adfer y gamlas. Bydd mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn deillio o fusnesau newydd ac ehangu busnesau yn yr ardal, ac rwy'n hyderus y bydd llawer o gyfleoedd menter a buddsoddi preifat yn codi o'r gwaith adfer. Mae'r gwaith adfer yn gyfle adfywio enfawr ac rwy'n awyddus iawn i Gyngor Sir Powys gyflwyno prif gynllun yn sgil buddsoddiad y sector cyhoeddus.

O ganlyniad i'r pandemig, wrth gwrs, mae ymarfer corff, fel y gwyddom, hyd yn oed yn bwysicach i ni nag erioed o'r blaen. Bydd y rhai sydd â chamlesi mewn etholaethau eraill yn gwybod pa mor boblogaidd y gallant fod ymhlith pobl leol sy'n cerdded a mynd â chŵn allan neu wneud ymarfer corff arall. Roeddwn yn falch iawn rai blynyddoedd yn ôl o ymweld â'r camlesi yn yr Alban, gyda nifer o Aelodau eraill y Senedd, i ddeall y manteision yno, ac fe'm perswadiwyd yn gyflym, fel yr holl Aelodau ar y daith honno, fod dyfrffyrdd yn annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff a gwella lles, fel y dengys nifer o adroddiadau. Mae'r gamlas yn lleol eisoes yn cynnal triathlon camlas Trefaldwyn, sy'n dod â 200 o gystadleuwyr o bob rhan o'r DU a 90 o wirfoddolwyr at ei gilydd. Mae'r gamlas hefyd, wrth gwrs, yn rhan o'n hanes a'n diwylliant lleol. Bydd ei gwarchod, gyda'i hystod wych o adeileddau rhestredig, yn gwasanaethu ac yn achub rhan bwysig o'n gorffennol cyffredin i genedlaethau'r dyfodol.

Felly, beth fydd y dyfodol yn ei gynnig? Dros 10 mlynedd ar ôl ei hadfer, amcangyfrifir y bydd yr incwm ychwanegol gan ymwelwyr a gynhyrchir gan y gamlas dros £23 miliwn, yn ôl yr astudiaethau dichonoldeb gan bartneriaeth camlas Trefaldwyn. Wrth gwrs, bydd hyn o fudd i siopau, caffis ac atyniadau, a thrwy adfer y gamlas a rhoi hwb i'r busnesau hynny, gellir cadw mwy o gyfleusterau i bobl leol a thwristiaid yn ein trefi a'n pentrefi. Bydd y gamlas hefyd yn rhoi brand i ganolbarth Cymru allu hyrwyddo ei hun i ddarpar ymwelwyr. Wrth gwrs, mae gan Sir Drefaldwyn atyniadau gwych i ymwelwyr, fel castell Powis a Rheilffordd Fach y Trallwng a Llanfair, a bydd y gamlas yn ychwanegu at y rheini.

Mae cadwraeth ac ailagor y gamlas yn gynaliadwy ac yn sensitif yn ganolog i ethos pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect cyffrous hwn, ac rwy'n falch iawn fod Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, rwyf yn aelod ohoni hefyd, wedi cyfrannu'n weithredol at y prosiect hwn, a bydd yn parhau i wneud hynny.

Ceir uchelgais mawr iawn yn yr ardal i ddatblygu'r prosiect o adfer y gamlas yn llwyr. Bydd y momentwm a welwn yn awr yn sicrhau bod rhan sylweddol o'r gamlas wedi'i chwblhau. Dylem fod yn edrych wedyn, wrth gwrs, ar fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer rhan y Drenewydd, fel y bydd egni, ymdrech a chyllid yn parhau gyda'r gwaith adfer pan fydd y gwaith adeiladu wedi gorffen ar y camau presennol. Mae Cyngor Tref y Drenewydd wedi bod yn gefnogwyr brwd i'r prosiect a gwn eu bod yn awyddus iawn i gefnogi peth o'r gwaith sydd ei angen ar gyfer y cam hwn.

Hefyd, rwy'n arbennig o falch o weld bod adfer y gamlas wedi ennyn cefnogaeth mor eang o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Gwn y bydd Jane Dodds a fy nghyd-Aelod, James Evans, yn siarad i gefnogi'r gwaith o adfer y gamlas heddiw hefyd. Ond o fy mhlaid fy hun, mae fy AS fy hun, Craig Williams, wedi bod wrthi'n ymgyrchu dros y gamlas ac wedi ei gwneud yn un o'i flaenoriaethau ers cael ei ailethol. Yn ôl yn 2020, siaradodd y Prif Weinidog yn ffafriol iawn am y prosiect pan ofynnais iddo ynglŷn â'r ymdrechion i hyrwyddo treftadaeth wych canolbarth Cymru, a gwn fod cyn Weinidog yr economi, Ken Skates, yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn i'r cynllun, ac mae'n sicr wedi mynegi ei farn ehangach fod y camlesi'n hanfodol i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Rwy'n cytuno'n llwyr wrth gwrs, ac rwy'n gobeithio y bydd parhad y prosiect hwn yn gweld canolbarth Cymru yn mwynhau'r un manteision ag ardaloedd eraill yng Nghymru sydd â chamlesi gweithredol, cydgysylltiedig. Roeddwn yn falch iawn hefyd pan ymunodd yr Arglwydd Elis-Thomas â mi ar daith ar ran y Trallwng o'r gamlas, yn ôl ym mis Hydref 2018. Bydd yn rhaid bod gennych olwg da iawn i weld y llun bach y tu ôl i mi ohonof fi a Dafydd ar y gamlas yn ôl yn 2018. Ac roedd Dafydd, fel y Gweinidog twristiaeth ar y pryd, yn arbennig o awyddus i weld y gamlas wedi ei hadfer.

Felly, mae llawer eisoes wedi'i gyflawni yn y gwaith o adfer y gamlas, ac mae nifer o gyhoeddiadau arwyddocaol ynghylch cyllid wedi rhoi hwb sylweddol i hyn yn ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am annog pob adran ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sefydliadau sy'n adfer y gamlas wrth iddynt edrych am ragor o gyfleoedd ariannu ar gyfer y prosiect hwn, sy'n cysylltu ein cymunedau â'i gilydd. A dylem ddathlu potensial pellach y gamlas i roi hwb i'n lles, ein heconomi a'n treftadaeth yn lleol, a diolch i'r gwirfoddolwyr niferus hynny sydd, dros ddegawdau lawer, wedi gwneud cymaint eisoes ar ran ein cymuned. Diolch yn fawr. 

Photo of James Evans James Evans Conservative 6:27, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Ni chymeraf fwy na munud o amser, ac mae llawer ohono i ganmol y gwaith da y mae fy nghyd-Aelod, Russell George, wedi'i wneud. Gwn o fywyd blaenorol, pan oeddwn yn aelod cabinet dros yr economi ar Gyngor Sir Powys, faint o lobïo a wnaeth Russell, Craig Williams AS a'r AS blaenorol a oedd yn y lle hwn amser maith yn ôl, Glyn Davies, i geisio cael arian i adfer camlas Trefaldwyn, ac rwyf am dalu teyrnged i chi, Russell. Heb eich dyfalbarhad, nid wyf yn credu y byddai'r prosiect gwych hwn wedi digwydd, oherwydd, yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae gennym gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a'r budd y mae honno'n ei ddarparu i'r economi ehangach yma yn Sir Frycheiniog ac yn ehangach i etholaeth Peter Fox yn Sir Fynwy. Mae'n anhygoel cymaint o bobl sy'n dod i'r rhan hon o'r byd i ddefnyddio'r gamlas, a phan wneir y gwaith adfer ar eich camlas chi yn Sir Drefaldwyn, gwn faint o fudd a wnaiff hynny i'ch economi ac economi ehangach canolbarth Cymru. Ac mae'n braf fod pob Llywodraeth wedi gweithio gyda'i gilydd, o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod gennym ymrwymiad i fuddsoddi yng nghanolbarth Cymru er mwyn hybu'r economi. Felly, diolch yn fawr iawn, Russell, am eich holl ddyfalbarhad ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 6:28, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Russell, unwaith eto, am gyflwyno'r ddadl hon ac am ganiatáu imi ddweud ychydig iawn o eiriau. Diolch, hefyd, am ei waith yn cefnogi camlas Trefaldwyn—dyfrffordd hardd sy'n rhedeg trwy Sir Drefaldwyn ac yn meithrin mwynder Maldwyn, ysbryd Sir Drefaldwyn.

Rwyf am ddweud ychydig eiriau am Ymddiriedolaeth Heulwen, y deuthum innau ar ei thraws hefyd, fel Russell. Mae'n bodoli i ddod â heulwen a gwên i fywydau'r rhai sy'n agored i niwed ac i ddod â phobl lai abl ar fwrdd y cwch, gyda'r tripiau cwch camlas sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar gamlas Trefaldwyn. Dechreuodd ym 1975, pan drefnodd Pwyllgor Tywysog Cymru, mewn partneriaeth â'r Variety Club of Great Britain, i brentisiaid Cammell Laird adeiladu cwch camlas 70 troedfedd wedi'i gynllunio'n arbennig i gludo plant anabl. Credir ei fod y cyntaf o'i fath yn y byd. Fe'i galwyd yn Heulwen, ac fe'i lansiwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Sefydlwyd y cynllun i bara 10 mlynedd, ac ar ôl hynny byddai pobl leol yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o barhau'r gwaith da.

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Heulwen, fel y clywsoch, ym 1985. Mae'n parhau i gael ei rhedeg yn frwdfrydig gan dîm o wirfoddolwyr. Ac fel Russell, hoffwn ddiolch iddynt hwy am yr hyn a wnânt yn staffio'r cychod yn ogystal â chodi arian i barhau'r gwaith a wnânt. Rwy'n cefnogi parhad y gwaith o ddatblygu camlas Trefaldwyn, ac unwaith eto, diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:30, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, i ymateb i'r ddadl, Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Russell George am ddod â phrosiect camlas Trefaldwyn i'n sylw ni heddiw? Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn hyrwyddo'r prosiect hwn ers tro, ac unwaith eto mae wedi tynnu sylw at lwyddiannau'r gwirfoddolwyr lleol brwdfrydig niferus sy'n rhoi cymaint o'u hamser, eu hegni a'u sgiliau i brosiect adfer y gamlas, prosiect a fu ar y gweill bellach ers degawdau lawer, fel y clywsom. Mae'n sicr yn llafur cariad ac yn deyrnged i ymrwymiad pawb sy'n gysylltiedig ag ef. 

Roedd camlesi ar un adeg yn wythiennau byw'r chwyldro diwydiannol, gan gysylltu chwareli a gwaith diwydiannol â marchnadoedd a phorthladdoedd lle cludwyd cynnyrch o Gymru i ddinasoedd ledled y byd. Heddiw, mae ein camlesi'n parhau i fod yn bwysig i ni fel symbolau o'n treftadaeth ddiwydiannol, ysgogwyr cynhyrchiant economaidd, ac fel mannau lle gall natur ffynnu. Maent hefyd yn ffynonellau hamdden poblogaidd, gan gynnig cyfleoedd i gymunedau gymryd rhan mewn ymarfer corff drwy gerdded, rhedeg a beicio ar hyd y milltiroedd lawer o lwybrau tynnu a adferwyd, yn ogystal â mwynhau gweithgareddau ar y dŵr ei hun. 

Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn falch o'r cyfle i ymweld â thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte, un o'n pedwar safle treftadaeth y byd, a thra oeddwn yno, dysgais gan y rhai a oedd yn gyfrifol am ei rheoli am y manteision niferus a ddaw yn sgil y gamlas i'r rhanbarth. Mae 12 mlynedd bellach ers i Bontcysyllte gael ei wneud yn safle treftadaeth y byd, ac mae ei boblogrwydd fel cyrchfan i ymwelwyr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn i'r pwynt, cyn COVID, pan oedd yn gweld dros 300,000 o ymwelwyr yn ymweld â'r brif draphont ddŵr yn unig. Mae camlas Llangollen ei hun yn un o'r darnau prysuraf o gamlas yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

Mae camlas Trefaldwyn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn hanes diwydiannol canolbarth Cymru, ac rwy'n falch o weld ei bod yn parhau i chwarae rhan bwysig heddiw. Mae'r gamlas yn rhan o dreftadaeth fyw'r rhanbarth, ynghyd â thrysorau eraill fel rheilffordd fach y Trallwng a Llanfair, castell Powis ac amgueddfa Powysland sy'n rhoi cymeriad unigryw i ganolbarth Cymru, ac sy'n helpu i ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ac er y gallai cerddwr sy'n pasio drwy'r rhanbarth ar lwybr troed enwog Clawdd Offa feddwl am y rhanbarth fel un gwledig yn bennaf, mae'r gamlas a'i cheiau a'i hodynau calch cysylltiedig yn ein hatgoffa mai ychydig o rannau o Gymru sydd heb eu cyffwrdd gan ledaeniad diwydiant yn y gorffennol diweddar.

Mae'r nifer gynyddol o ymwelwyr a defnyddwyr y gamlas yn dangos cymaint o atyniad y gall camlesi hanesyddol fod, oherwydd mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi ranbarthol, fel y cydnabyddir yn ein fframwaith economaidd rhanbarthol, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae sicrhau bod twristiaeth yn gweithio ar lefel leol, tra'n sicrhau y gall Cymru gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, yn elfennau allweddol o'r strategaeth pum mlynedd 'Croeso i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020. Mae 'Croeso i Gymru' yn gosod y fframwaith ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr, gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru: ei thirweddau, ei diwylliannau a'i lleoedd. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at ddau brif syniad o bro a byd, 'bro' sy'n golygu cymuned leol, ymdeimlad o bwrpas a lle, a 'byd' sy'n golygu lefelau rhyngwladol o ansawdd, safonau ac uchelgais.

Wrth wraidd y polisi twristiaeth mae'r tri maes allweddol sy'n sail i'r holl weithgarwch: cynaliadwyedd, cynwysoldeb a hygyrchedd. Mae cytundeb twf canolbarth Cymru yn cynnwys elfen benodol ar gyfer twristiaeth, lle mae adfer camlas Trefaldwyn yn un o'r prosiectau sydd dan ystyriaeth ar gyfer cyllid, o ganlyniad i'r cais gan bartneriaeth camlas Trefaldwyn, y gwn iddo gael ei gefnogi gan Russell George. Un o'r cyfleoedd penodol a gyflwynir gan y camlesi yw eu bod yn cysylltu lleoedd a phobl a all fod yn gatalyddion ar gyfer partneriaethau cynhyrchiol. Mae twristiaeth yn elwa o gysylltu safleoedd gyda'i gilydd, a gall hefyd fod yn ffordd gynhyrchiol o rannu profiad a sgiliau cadwraeth.

Un yn unig o'r pethau mwy gweladwy sy'n ein hatgoffa o'n treftadaeth ddiwydiannol yw camlesi, ond i'w deall a'u mwynhau'n llawn, mae hefyd yn bwysig ystyried y lleoedd y maent yn eu cysylltu ac yn rhedeg drwyddynt. Ac mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar wrth baratoi cynllun rheoli safle treftadaeth y byd traphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau a gweithio mewn partneriaeth, ac mae hyn yr un mor bwysig i gamlesi eraill.

Rwy'n falch o glywed bod camlas Trefaldwyn yn elwa o bartneriaeth gref sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sydd â diddordebau amrywiol yn y gamlas. Mae Croeso Cymru yn parhau i weithio gyda'r bartneriaeth, gan roi cyngor a chefnogaeth iddynt a hyrwyddo'r gamlas ochr yn ochr ag atyniadau treftadaeth rhanbarthol eraill. Mae Croeso Cymru hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau i wella llwybrau tynnu a mynediad cyhoeddus.

Rwyf wedi canolbwyntio ar werthoedd treftadaeth y gamlas, ond wrth gwrs mae rhan o'i statws rhyngwladol yn seiliedig ar gadwraeth natur fel ardal cadwraeth arbennig ar gyfer fflora dyfrol, ac rwy'n ymwybodol fod llwyddiant hyn wedi elwa o grant Natura 2000 o bron i £250,000 i sicrhau bod yr adnodd natur pwysig hwn yn cael ei reoli'n barhaus.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod a chymeradwyo gwaith y gwirfoddolwyr y soniasom amdanynt yn gynharach. Ers imi ymgymryd â fy rôl fel Dirprwy Weinidog, mae wedi bod yn bleser gennyf gyfarfod â llawer o grwpiau ac unigolion sy'n angerddol ynglŷn â'u treftadaeth ac sy'n gweithio'n ddiflino i warchod a diogelu safleoedd hanesyddol o bob cyfnod a'u rhannu gyda'u cymunedau. Mae gwybodaeth, sgiliau ac angerdd cyfunol grwpiau ac unigolion fel y rhain yn helaeth, nid yn unig o ran eu cyfraniadau at dreftadaeth neu ymchwil hanesyddol, ond o ran yr hyn y maent yn ei ddarparu ar gyfer eu cymunedau. Ceir dealltwriaeth dda o fanteision corfforol a chymdeithasol gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli, ac mae prosiectau fel hwn yn dangos sut y mae ein hamgylchedd hanesyddol a'n hasedau treftadaeth yn cynnig cyfleoedd gwych i roi hyn ar waith. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:36, 26 Ionawr 2022

Diolch, Dirprwy Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Ac edrychaf ymlaen at weld sawl un ohonoch yr wythnos nesaf.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:36.