Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’n debyg fod Llywodraeth San Steffan wedi cyrraedd lefel uwch byth yr wythnos hon yn y ffordd y mae'n gwadu cyllid i Gymru. Efallai na ddylem synnu, gan y gwyddom eisoes fod Llywodraeth y DU yn gwadu ein cyfran o £5 biliwn o gyllid HS2 i Gymru—arian y maent wedi'i roi, gyda llaw, i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon. Mae San Steffan hefyd yn gwadu’r gallu inni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i greu refeniw drwy ddatganoli Ystad y Goron, rhywbeth arall y maent wedi’i roi i ran arall o’r Deyrnas Unedig. Ond fe ddysgom ni, wrth gwrs, yr wythnos hon, er gwaethaf addewid pendant gan Brif Weinidog y DU na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled yn sgil gadael yr UE, fod San Steffan yn pocedu gwerth £1 biliwn o arian a ddylai fod yn dod i Gymru. Felly, a ydych yn cytuno â mi, Weinidog, po fwyaf y bydd Llywodraeth San Steffan yn torri ei haddewidion, y mwyaf y bydd yn chwalu’r Deyrnas Unedig?