Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:46, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n cytuno. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Yn fy marn i, bob tro y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud addewid nad yw’n ei gadw i Gymru ac i bobl Cymru, mae'n mentro chwalu'r Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig fod yn grŵp o genhedloedd lle mae gennym barch cydradd at ein gilydd, lle rydym yn trin ein gilydd yn gyfartal, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw hynny'n golygu na all Llywodraeth y DU wneud newidiadau yn hynny o beth heddiw, a newid ei hymagwedd at y Deyrnas Unedig. Ni chredaf fod Llywodraeth y DU ar ben arall yr M4 yn wirioneddol ymwybodol o'r teimladau yng Nghymru ac yn clywed pa mor ddig yw pobl yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU. Ond wrth gwrs, daw cyfleoedd iddynt glywed hynny’n glir iawn dros y misoedd nesaf.