Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 2 Chwefror 2022.
Mae cymaint i ymateb iddo yno. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryderon ynglŷn â'r diffyg hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru. Gwn fod hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi ennyn cytundeb ar draws y Senedd yn y gorffennol, o ran yr angen i Lywodraeth Cymru gael mwy o hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn i gael blwyddyn ariannol lawn i wario arian sy'n aml yn cael ei gyflwyno i ni yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol. Byddai ein gallu i fenthyca mwy yn ei grynswth a mwy yn flynyddol hefyd yn ddefnyddiol o ran rheoli ein cyllid. Felly, mae sawl math o hyblygrwydd rydym am ei weld. Mae ystod eang o bwerau trethu y byddem am eu gweld yn dod i Gymru—fe sonioch chi am doll teithwyr awyr. Mae'r drafferth enfawr rydym yn ei chael hyd yn oed i gael sgwrs iawn yn awr gyda Llywodraeth y DU ynghylch y dreth ar dir gwag yn enghraifft arall o sefyllfa nad yw'n foddhaol ar hyn o bryd. Ac felly, mae'r cyhoeddiadau diweddar ar ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at Lywodraeth Cymru a phwerau Cymru yn peri pryder, ac yn amlwg, dylem fod yn rhoi sylw llawn i'r mater. Unwaith eto, mae hwn yn faes lle bydd y rheini ohonom sy'n rhannu'r farn hon yn awyddus i gydweithio.