Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 2 Chwefror 2022.
Ac wrth gwrs, nid yn unig eu bod yn gwadu'r cyllid y mae gennym hawl iddo, ond maent hefyd yn gwadu'r ysgogiadau cyllidol i ni a fyddai'n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yma yng Nghymru, o gyfyngu'n fwriadol ar y pwerau cyllidol sydd gennym i wadu pwerau i ni dros ysgogiadau allweddol eraill fel treth gorfforaeth, treth ar werth a tholl teithwyr awyr. Fel y dywedoch chi mewn ateb blaenorol, nid oes gennym y grym cyllidol. Unwaith eto, mae'n debyg na ddylem synnu, gan nad yw'n gyfrinach fod y Llywodraeth Dorïaidd hon yn San Steffan yn benderfynol nid yn unig o danseilio datganoli, ond o ddadwneud datganoli, a mynd â phwerau yn ôl i San Steffan. Felly, a ydych yn rhannu fy mhryderon fod bwriad Llywodraeth San Steffan i adolygu Deddf Cymru 2014 yn arwydd fod y Torïaid yn bygwth datganoli, ac nad ein harian yn unig y byddant yn ei gymryd gennym, ond ein pwerau hefyd?