1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll twristiaeth? OQ57569
Gwnaf. Mae'r gwaith o ddatblygu polisi wedi dechrau ac mae trafodaethau ar y gweill gydag awdurdodau lleol. Cynhelir ymgynghoriad yn yr hydref eleni, i alluogi'r holl safbwyntiau i gael eu hystyried ar weithrediad ardoll ymwelwyr.
Diolch, Weinidog. Gallwn ddeall pe baech wedi cael llond bol o gwestiynau am ardoll twristiaeth bosibl, yn enwedig fel y dywedoch chi, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad sy'n dechrau'r hydref hwn. Fodd bynnag, mae'r mater yn parhau i gael ei wleidyddoli a'i ddefnyddio i ledaenu gwybodaeth anghywir yn fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Byddaf yn cefnogi fy etholwyr beth bynnag a benderfynant pan gânt leisio eu barn ar ardoll bosibl, ond rwyf am i'r bobl yn fy nghymuned allu gwneud penderfyniad yn seiliedig ar ffeithiau a thegwch. Mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i gryfhau economïau twristiaeth lleol, megis Porthcawl yn fy etholaeth i, ac eto ni allwn anwybyddu'r ffaith bod degawd neu fwy bellach o gyni San Steffan wedi arwain at gau toiledau cyhoeddus, amgueddfeydd ac amwynderau lleol a bod angen inni groesawu twristiaid heb roi pwysau ychwanegol ar y trigolion a'r busnesau. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y gallai ardoll twristiaeth roi cyfle i'r gymuned fuddsoddi mewn atyniadau i dwristiaid ac amwynderau cyhoeddus heb roi baich ar y trigolion i dalu'r bil?
Ydw, yn bendant. Felly, i'r awdurdodau sy'n penderfynu yr hoffent godi ardoll ymwelwyr, yn amlwg bydd yn rhoi refeniw ychwanegol iddynt i'w cymunedau fuddsoddi yn y pethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, a chredaf y bydd cyfraniad cymesur a theg gan ymwelwyr yn cefnogi'r ymagwedd fwy cynaliadwy tuag at dwristiaeth sydd gennym yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae twristiaid yn defnyddio seilwaith, maent yn defnyddio gwasanaethau ac yn y blaen, felly credaf fod gwneud cyfraniad tuag at gynnal a chadw ac ehangu'r rheini yn beth teg i'w wneud. Ac mewn gwirionedd, nid yw'r hyn rydym yn ei hyrwyddo yn radical hyd yn oed; mae'n gwbl normal mewn sawl rhan o'r byd, ac yn Ewrop, mae peidio â chael unrhyw ardollau twristiaeth nac ardollau ymwelwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn ein gwneud yn eithriadau mewn perthynas â'r agenda hon mewn gwirionedd. Rydym ni, fel y DU, ar ei hôl hi gyda hyn, ond mae Cymru'n awyddus iawn i groesawu'r cyfleoedd sydd yma.
Credaf fod y ffaith eich bod wedi cyfeirio at ymgynghori yn bwysig iawn. Felly, rydym wedi gwneud rhywfaint o waith ymgysylltu cychwynnol ag awdurdodau lleol, ond y bwriad yw ymgysylltu'n eang yn awr, wrth inni anelu tuag at yr hydref eleni, i sicrhau ein bod yn clywed lleisiau'r sector twristiaeth, yn enwedig darpariaethau llety ac yn y blaen, fel y gallwn sicrhau bod yr hyn a gynigiwn i awdurdodau lleol fel offeryn yn un sy'n ddefnyddiol ac yn gymesur.
Diolch, Lywydd, ac rwyf am ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel cynghorydd presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn syndod i mi weld y Gweinidog, sy'n cynrychioli etholaeth Gŵyr, a Sarah Murphy, a gyflwynodd y cwestiwn hwn, y mae ei hetholaeth yn cynnwys Porthcawl, ill dwy yn dadlau dros dreth twristiaeth heddiw. Gan fy mod yn Aelod rhanbarthol dros Orllewin De Cymru, sy'n cynrychioli'r ddwy gymuned hynny, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith negyddol y byddai treth fel honno'n ei chael ar ymwelwyr â chymunedau fel Porthcawl, y Mwmbwls a Gŵyr. Nid yw busnesau yn yr ardaloedd hynny'n ei gefnogi na'r trigolion lleol ychwaith. Ond un o'r prif ddadleuon a glywais gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac eraill sy'n cefnogi treth twristiaeth yw y dylid diogelu unrhyw arian a godir wedyn i hybu gwariant twristiaeth yn eu hardaloedd lleol, a nodaf, o ateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Rhagfyr gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, eich bod chi wedi dweud, Weinidog:
'Bydd arian a godir gan yr ardoll yn cael ei fuddsoddi'n ôl yn y gwasanaethau a'r darpariaethau lleol sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant yng Nghymru.'
Ond ar hyn o bryd, nid ydym wedi gweld unrhyw beth a fyddai'n atal cynghorau rhag lleihau cyllidebau twristiaeth presennol ar ôl cyflwyno treth twristiaeth ychwaith, felly pa fecanweithiau rydych chi'n eu hystyried ar hyn o bryd i sicrhau nad yw cynghorau'n defnyddio'r incwm a gynhyrchir gan dreth twristiaeth er mwyn lleihau'r gwariant a wnânt ar hyn o bryd ar dwristiaeth?
Credaf fod dechrau'r cwestiwn wedi'i osod ar sail nad yw'r dystiolaeth yn ei chefnogi. Nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiad fod ardollau twristiaeth yn rhwystr mawr i dwristiaeth. Pam y byddai gan y rhan fwyaf o ogledd Ewrop ardollau twristiaeth pe baent mor niweidiol? Pam y byddai gan rai o fannau twristaidd mwyaf poblogaidd y byd ardollau twristiaeth pe na baent yn llwyddo i gynnal twristiaeth gynaliadwy yn y mannau hynny?
Felly, mae'r cwestiwn manwl iawn a ofynnwch yn un a fydd yn dilyn o'r ymgynghoriad, a hynny'n briodol. Mae llawer eto i'w benderfynu ynglŷn â beth yn union a fydd yn digwydd i'r cyllid a godir a pha fathau'n union o lety a gaiff eu cynnwys ac yn y blaen. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn nodi ein cynlluniau bras, a bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i edrych yn fanylach ar y ffordd y cynlluniwn ardoll bosibl yn y dyfodol. Bydd digon o gyfleoedd i gyd-Aelodau ar draws y Senedd ymwneud â'r broses ymgynghori, fel y bydd i fusnesau twristiaeth ym mhob un o'r cymunedau y cyfeirioch chi atynt.