1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
7. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi busnesau i ddelio ag effaith COVID-19 wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi? OQ57550
Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi defnyddio pob sbardun at ein defnydd i gefnogi busnesau Cymru, gan ddarparu mwy na £2.8 biliwn a diogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gefnogi'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, gan gynnwys drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Diolch, Weinidog. Manteisiodd llawer o fusnesau yng Nghwm Cynon ar y gronfa adfer ar ôl COVID i'w helpu i wneud addasiadau i allu gweithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyflawni ymyriadau eraill mewn ymateb i'r coronafeirws—busnesau fel Cheryl's Fruit and Veg yn Abercynon, caffi marchnad Aberdâr, Temple Bar yn Aberaman a Penaluna's Famous Fish and Chips yn Hirwaun. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ariannu a gweinyddu'r cynllun. Ond a allech amlinellu sut rydych yn adeiladu cymorth tebyg i mewn i'r gyllideb fel y gall busnesau ffynnu yn ogystal â goroesi wrth inni symud ymlaen?
Diolch yn fawr am hynny, a hefyd am roi cyfle imi, fel chithau, i adleisio ein diolch i RhCT a chynghorau eraill ledled Cymru a weithiodd mor galed i gael y cyllid hwnnw i gyfrifon banc busnesau mor gyflym ac mor ddidrafferth â phosibl. Credaf eu bod wedi gwneud gwaith anhygoel, yn enwedig ochr yn ochr â'r holl bethau eraill y gofynnwn iddynt eu gwneud ar daliadau cymorth hunanynysu a'r holl waith y gofynnwn iddynt ei wneud mewn perthynas â'r taliad o £200 i aelwydydd sy'n wynebu tlodi tanwydd ac yn y blaen. Felly, maent wedi gwneud gwaith hollol anhygoel ac rwy'n falch ein bod yn cael y cyfle hwn y prynhawn yma i ddweud 'diolch' am hynny.
Ar y gyllideb, credaf fod y gwaith a wnawn i sicrhau y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn cael rhyddhad ardrethi o 50 y cant y flwyddyn nesaf yn bwysig. Mae hefyd yn werth cofnodi ein bod wedi buddsoddi £20 miliwn yn fwy yn hynny nag a gawsom mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Mae hynny oherwydd natur ein sylfaen drethu ar gyfer busnesau yma yng Nghymru, ond rydym wedi bod yn falch o wneud hynny i sicrhau nad oes neb ar eu colled. Ac rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i fuddsoddi mewn cymunedau drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Felly, bydd honno'n darparu £136 miliwn i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol trefi ledled Cymru ymhellach, a chredaf y bydd honno'n ymyrraeth bwysig iawn. Gwn fod enghreifftiau gwych yn etholaeth Vikki Howells, gan gynnwys cyllid tuag at adnewyddu adeilad neuadd y dref Aberpennar, sy'n bwysig iawn, yn ogystal ag ailddatblygu hen fanc Barclays yn Aberpennar hefyd. Felly, ceir llawer o enghreifftiau da, yn enwedig, rwy'n credu, yn etholaeth Vikki Howells, a gwn ei bod yn dadlau'n gryf dros fusnesau yn ei hardal.