1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru? OQ57558
Rwy’n sicrhau cyllid teg i bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy roi blaenoriaeth i lywodraeth leol a gwasanaethau iechyd wrth wneud penderfyniadau ar y gyllideb a thrwy fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg a gynhyrchir ar y cyd â’n partneriaid llywodraeth leol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mater sy'n cael ei ddwyn i fy sylw'n aml yw bod angen mynd i’r afael â’r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol. Credaf ei fod wedi'i godi yma gryn dipyn o weithiau hefyd. Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ddadl wedi mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, gydag arweinwyr cynghorau yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru wedyn yn dweud bod angen i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gytuno ar y cyd, ac yna mae ganddynt safbwyntiau gwahanol gan fod rhai'n ennill a rhai'n colli. Ond mae cynghorau’n dal i deimlo effaith cyni cyllidol, ac er bod setliad eleni’n un da, gall yr amrywiant fesul y pen a fesul cyngor fod yn hynod sylweddol, gyda’r bwlch rhwng y cyngor sy'n cael y lefel uchaf o gyllid a’r cyngor sy’n cael y lefel isaf yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Gall yr effaith gronnol olygu bod y llinell sylfaen ar gyfer rhai yn parhau i fod yn isel bob blwyddyn, felly gall y gwahaniaeth rhwng dau gyngor cyfagos fod yn £650 fesul trigolyn a £50 miliwn neu fwy y flwyddyn. Er enghraifft, gall grant cynnal a chadw priffyrdd o £20 miliwn drwy’r fformiwla gyfateb i £1.2 miliwn ar gyfer un awdurdod ac £850,000 i awdurdod arall. Os bydd hyn yn parhau bob blwyddyn mae'r effaith gronnol yn parhau i dyfu hefyd, felly bydd un yn gwneud yn dda tra bo'r llall yn ei chael hi'n anodd. Felly, a allai’r pwyllgor dosbarthu sy’n dod o dan y pwyllgor cyllid ymchwilio i’r fformiwla ariannu wrth symud ymlaen, neu i gael cyllid gwaelodol?
Diolch i Carolyn Thomas am godi’r pwynt hwn. Credaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain pam y dyfeisiwyd cyllid gwaelodol yn wreiddiol. Y bwriad bob amser oedd iddo fod yn fesur dros dro i liniaru effaith newidiadau negyddol na ellid eu rheoli yng nghyllid awdurdodau mewn blynyddoedd unigol ac nid i leihau ystod y dyraniad rhwng awdurdodau. Rydym wedi gweithio’n galed i wella swm y cyllid a ddarperir yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi gwneud hynny drwy ddyrannu ymlaen llaw, ar y cam dros dro, i roi gallu i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer y cyfnod llawn o dair blynedd.
Yn amlwg, wrth baratoi’r setliad terfynol, bydd yn rhaid imi roi ystyriaeth drylwyr i’r broses ymgynghori. Ar hyn o bryd, mae’n setliad dros dro a daw’r ymgynghoriad i ben ar 8 Chwefror, felly byddai’n rhaid imi ystyried yr ymatebion i hwnnw. Os yw awdurdodau’n gofyn ar y cyd am gyllid gwaelodol eleni, yna, yn amlwg, byddai’n rhaid iddo fod yn gyllid gwaelodol wedi’i ailddosbarthu, lle byddai'r cyllid yn dod gan awdurdodau eraill uwchlaw’r cyllid gwaelodol a ddewisir. Mae gennyf gyfarfod o'r is-grŵp cyllid ar 9 Chwefror, a byddaf yn sicr yn cael y trafodaethau hynny gydag arweinwyr cynghorau eto i archwilio a ydynt yn dymuno adolygu'r fformiwla ariannu. Mae hynny'n rhywbeth rydym wedi dweud ein bod yn agored i'w wneud, ond byddai'n rhaid iddo ddod fel cais gan lywodraeth leol.
Wrth gwrs, bydd gan bob awdurdod lleol syniadau gwahanol ynglŷn â sut y dylai pethau weithio a pha bethau y dylid rhoi mwy o bwyslais arnynt. Bydd angen ystyried amddifadedd a theneurwydd poblogaeth yn y dyfodol, ac yn amlwg, byddem yn awyddus i gadw'r rheini yn rhan o hyn. Ond byddaf yn cael y drafodaeth honno eto gyda fy nghyd-Aelodau ar 9 Chwefror i drafod eu safbwyntiau. A Lywydd, nid yw Carolyn Thomas byth yn colli cyfle i godi gwaith cynnal a chadw ffyrdd gyda mi.
Ers i fformiwla llywodraeth leol gyfredol Cymru gael ei chyflwyno dros 20 mlynedd yn ôl, mae sir y Fflint wedi cael un o’r setliadau isaf yng Nghymru. Wrth siarad yma ddwy flynedd yn ôl, nodais mai'r un awdurdodau yng ngogledd Cymru unwaith eto oedd pedwar o’r pum awdurdod lleol lle gwelwyd y cynnydd isaf mewn cyllid, gan gynnwys sir y Fflint. Nodais bryd hynny fod talwyr y dreth gyngor yn sir y Fflint yn wynebu cynnydd o 8.1 y cant yn y dreth gyngor, er bod cynghorwyr sir y Fflint wedi lansio ymgyrch, Back the Ask, i dynnu sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynghylch y cyllid a gânt gan Lywodraeth Cymru, gan arwain at ddirprwyaeth fawr o gynghorwyr trawsbleidiol yn dod yma i lobïo Gweinidogion Llywodraeth Cymru, i alw am adolygu’r fformiwla ariannu.
Ar ôl ichi gyhoeddi'r setliad dros dro ar gyfer 2022-23 ym mis Rhagfyr, beirniadodd arweinydd Llafur sir y Fflint y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo faint o arian y maent yn ei dderbyn i ddarparu gwasanaethau wrth iddynt frwydro i fantoli eu cyfrifon. Maent yn cael cynnydd o 9.2 y cant, ond mae hynny’n dal i olygu bod y sir yn drydydd o’r gwaelod o blith 22 awdurdod lleol Cymru o ran y swm y maent yn ei dderbyn fesul y pen yn yr ardal, sy'n golygu bod lefelau cronfeydd wrth gefn y cyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru, a heb y glustog sydd gan awdurdodau lleol eraill. Felly, pa bryd y byddwch yn rhoi'r gorau i guddio y tu ôl i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—bydd fformiwla decach yn golygu collwyr yn ogystal ag enillwyr, ac nid yw tyrcïod yn pleidleisio o blaid y Nadolig—a chydnabod bod y fformiwla ariannu 22 oed wedi dyddio a bod taer angen ei hadolygu'n annibynnol?
Hoffwn atgoffa Mark Isherwood mai’r cynnydd cyfartalog ledled Cymru ar gyfer y setliad llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yw 9.4 y cant a bod sir y Fflint yn cael cynnydd o 9.2 y cant, felly nid yw’n bell iawn oddi ar y cyfartaledd.