Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 2 Chwefror 2022.
Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi defnyddio pob sbardun at ein defnydd i gefnogi busnesau Cymru, gan ddarparu mwy na £2.8 biliwn a diogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gefnogi'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, gan gynnwys drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch.