Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Weinidog. Manteisiodd llawer o fusnesau yng Nghwm Cynon ar y gronfa adfer ar ôl COVID i'w helpu i wneud addasiadau i allu gweithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyflawni ymyriadau eraill mewn ymateb i'r coronafeirws—busnesau fel Cheryl's Fruit and Veg yn Abercynon, caffi marchnad Aberdâr, Temple Bar yn Aberaman a Penaluna's Famous Fish and Chips yn Hirwaun. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ariannu a gweinyddu'r cynllun. Ond a allech amlinellu sut rydych yn adeiladu cymorth tebyg i mewn i'r gyllideb fel y gall busnesau ffynnu yn ogystal â goroesi wrth inni symud ymlaen?