Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:33, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad oes gennym y parthau perygl nitradau mwyach; mae gennym reoliadau llygredd amaethyddol ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn aros am ddyfarniad cyfredol y llys.

Rhoddais gyllid sylweddol—roedd oddeutu £44 miliwn, rwy’n credu—i geisio gweithio gyda’r sector amaethyddol ar wella darpariaethau slyri. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y rhaglen datblygu gwledig o fudd i'n cymunedau gwledig wrth gwrs—dyna yw ei diben. A dylai fod ar gyfer pethau fel seilwaith er mwyn ein helpu gyda'r argyfwng newid hinsawdd. Felly, rwy’n edrych ar ba gyllid sydd ar ôl yn y rhaglen datblygu gwledig. Rwyf hefyd yn aros am gyngor gan swyddogion am raglen olynol yn lle'r rhaglen datblygu gwledig. Felly, mae’r rhain yn bethau y byddaf yn sicr yn eu hystyried yn rhan o hynny.