Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:31, 2 Chwefror 2022

Diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog, a dwi’n siŵr eich bod chithau, fel minnau, wedi mwynhau brecwast efo’r Undeb Amaethwyr Cymru a oedd yn casglu pres i’r DPJ Foundation yn ddiweddar iawn, sy’n gwneud gwaith da yn y maes iechyd meddwl hwnnw.

Mae’r cynnydd yma yn y costau mewnbwn dros y misoedd diwethaf yn ychwanegu at broblem fwy hirdymor sy’n wynebu ein hamaethwyr. Dyma ddarlun i chi o sut mae’r costau wedi bod yn cynyddu: nôl yn 1970, roedd angen gwerthu tua 163 oen er mwyn prynu tractor newydd. Erbyn 2020, roedd angen gwerthu 864 o ŵyn er mwyn cael tractor newydd. Mae hyn yn naturiol yn golygu bod nifer o ffermwyr, yn enwedig y ffermydd llai sydd yn britho cefn gwlad Cymru, yn gorfod defnyddio peiriannau ac isadeiledd hŷn sydd yn aml bellach ddim yn addas i'w pwrpas.

Ar ben hyn, wrth gwrs, mae disgwyl iddyn nhw rŵan ddatblygu mwy o storfeydd slyri i ateb y rheoliadau NVZ newydd rydych chi wedi'u rhoi arnyn nhw. Pan gyflwynwyd y rheoliadau NVZ yng Ngogledd Iwerddon, rhoddodd y Llywodraeth yno £150 miliwn i ariannu’r gwaith cyfalaf angenrheidiol. Hyd yma, dim ond £11.5 miliwn o bres RDP Cymru sydd wedi cael ei wario ar waith cyfalaf yn ei gyfanrwydd, ac mae data gan NFU Cymru yn dangos bod yn dal i fod angen gwario hyd at £272 miliwn o arian RDP erbyn diwedd 2023.

Ydych chi, Weinidog, yn cytuno mai un datrysiad posib ydy defnyddio’r arian RDP yma sydd yn weddill er mwyn helpu amaethwyr i adeiladu a gwella isadeiledd eu ffermydd, yn ogystal â helpu busnesau a chontractwyr cefn gwlad? Byddai hyn, felly, yn galluogi buddsoddiadau mewn peiriannau ac isadeiledd newydd a fyddai’n cynyddu effeithlonrwydd, lleihau effaith amgylcheddol a gwella diogelwch gan sicrhau hyfywedd y diwydiant.