Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf ychwanegu fy llais heddiw at y teyrngedau i’w Mawrhydi y Frenhines i nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd. Mae Jiwbilî Blatinwm yn ddigwyddiad unigryw yn hanes Prydain, a dylem roi amser i fyfyrio ar deyrnasiad hir y Frenhines a sut y mae pethau wedi newid. Nid oedd y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ein geni ym 1952; yn sicr, nid oeddwn i, ac ni ellir gwadu bod y byd yn lle llawer gwahanol bryd hynny. Roedd Winston Churchill yn Brif Weinidog y DU, roedd galwyn o betrol yn costio 22c yn arian heddiw, daeth dogni te i ben, ac agorodd drama Agatha Christie, The Mousetrap, yn y West End, sydd, fel Ei Mawrhydi, yn dal i fynd hyd heddiw, rwy'n falch o ddweud.
Ym 1952, roedd fy nau riant wedi'u geni, yn India a hefyd ym Mhacistan. Roedd fy nhad-cu ar ochr fy nhad yn aelod o lu awyr India a fy nhad-cu ar ochr fy mam yn aelod o lu awyr Pacistan, ac rwy'n sicr wedi etifeddu eu cariad, eu hymroddiad a’u hedmygedd tuag at y Frenhines. Yna, ar ôl y rhaniad ym 1952, roedd fy nau riant yn blant ysgol, fel y soniais, ond un o lwyddiannau mwyaf teyrnasiad y Frenhines fu trawsnewidiad yr ymerodraeth yn Gymanwlad.
Heddiw, mae'r Gymanwlad yn cynnwys 53 o wledydd annibynnol sy'n cydweithio ar drywydd nodau cyffredin sy'n hyrwyddo datblygiad, democratiaeth a heddwch. Gyda phoblogaeth gyfunol o 2.4 biliwn, mae'r Gymanwlad yn ymestyn dros y byd ac yn cynnwys economïau datblygedig a gwledydd sy'n datblygu. Mae'n cwmpasu Affrica, Asia, y Caribî a De a Gogledd America, Ewrop a'r Môr Tawel. Daw ei chryfder o'i gwerthoedd a rennir, amrywiaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb hiliol. Mae hyn ar adegau wedi achosi straen yn y sefydliad, gyda gwledydd yn gadael neu'n cael eu diarddel, ond heddiw, mae'r Gymanwlad yn parhau i fod yn rym unedig ar gyfer hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb hiliol a democratiaeth yn y byd.
Dywedodd y Frenhines unwaith, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae bob amser wedi bod yn hawdd casáu a dinistrio. Mae adeiladu a choleddu'n llawer anos.'
Ac:
'Wrth gofio dioddefaint echrydus y rhyfel ar y ddwy ochr, rydym yn cydnabod pa mor werthfawr yw'r heddwch rydym wedi'i adeiladu'.
Y Frenhines, i raddau helaeth, sy'n gyfrifol am lwyddiant y Gymanwlad, ac mae hi fel ei harweinydd yn cael ei charu, ei hedmygu a'i pharchu gan bawb. Ni ddylem synnu at hyn. Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain ym 1947, dywedodd y Dywysoges Elizabeth ar y pryd:
'Rwy'n datgan ger eich bron chi i gyd y byddaf yn cysegru fy mywyd, boed yn hir neu'n fyr, i'ch gwasanaethu chi a gwasanaethu'r teulu mawr ymerodrol y mae pob un ohonom yn perthyn iddo.'
Ac mae hi'n sicr wedi cadw at yr addewid hwnnw. Ers 70 mlynedd, mae'r Frenhines wedi gwasanaethu'r wlad hon a'r Gymanwlad gydag ymroddiad a theyrngarwch. Mae hi wedi bod, ac mae'n parhau i fod, yn elfen sefydlog mewn byd sy'n newid yn gyflym, 'mor gyson â seren y gogledd', fel y gallai Shakespeare fod wedi'i ddweud. Esgynnodd y Frenhines i'r orsedd 70 mlynedd yn ôl pan fu farw ei thad annwyl, a llynedd, collodd ei gŵr, y Tywysog Philip, a fu wrth ei hochr drwy gydol ei theyrnasiad, yn ei chefnogi a'i hannog bob cam o'r ffordd. Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd y Frenhines,
'Nid yw'r byd yn lle dymunol iawn. Yn y pen draw, mae eich rhieni yn eich gadael, ac nid oes unrhyw un yn mynd i fynd allan o'u ffordd i'ch amddiffyn yn ddiamod. Mae angen ichi ddysgu sefyll drosoch eich hun a'r hyn rydych chi'n ei gredu'.
Dros y 70 mlynedd diwethaf, gyda chyngor ac arweiniad y Tywysog Philip, mae'r Frenhines wedi dangos gallu'r frenhiniaeth i addasu i'r oes fodern. Mae hi wedi gwneud mwy o deithio nag unrhyw un o arweinwyr eraill y wlad hon. Ar adeg jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Victoria, roedd y frenhines yn ffigwr pell na châi eu gweld yn aml gan ei phobl. Heddiw, amcangyfrifir bod y Frenhines wedi cyfarfod yn bersonol â 4 miliwn o bobl. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod uchel ei barch, Darren Millar, mae hi wedi cyfarfod â mwy na 14 o Brif Weinidogion y DU, gan arfer ei dyletswyddau statudol i roi cyngor, i annog ac i rybuddio yn ystod eu cyfarfodydd rheolaidd, a rhoi budd ei phrofiad digyffelyb iddynt. Mae hi wedi cyfarfod â phob un o Arlywyddion yr Unol Daleithiau o Truman i Biden, ac eithrio un. Mewn 70 mlynedd, nid yw wedi rhoi cam o'i le, ac nid yw byth yn cwyno na byth yn esbonio. Mae’n parhau i fod yn agos at galon y genedl, gan gyflawni ei dyletswydd a gwasanaethu ei gwlad, a Lywydd, rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.