Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 2 Chwefror 2022.
Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Darren Millar, i nodi deng mlynedd a thrigain ers i’r Frenhines esgyn i’r orsedd. Mae’n gynnig syml un linell o hyd, ac weithiau, y rhai symlaf yw'r rhai mwyaf effeithiol. Mae'r cynnig yn dweud:
'Cynnig bod y Senedd:'— ein Senedd ni—
'Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar achlysur 70 mlwyddiant ei hesgyniad i'r orsedd.'
A byddwn yn awgrymu, gyda phob parch, nad dyma'r achlysur i drafod rhinweddau neu wendidau’r frenhiniaeth neu gynnig dewisiadau amgen, na'r adeg ychwaith ar gyfer sinigiaeth fodern, ffasiynol tuag at bob sefydliad mewn bywyd cyhoeddus. Mae'r rheini ar gyfer adeg arall a lle arall. Nod y ddadl heddiw’n syml yw nodi gwasanaeth rhyfeddol unigolyn sydd, ers saith deg mlynedd, wedi rhoi ei rôl unigol a’r modd y mae’n cyflawni gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw popeth arall, ac yn wir, y modd y mae wedi aberthu llawer o bethau eraill er mwyn cyflawni’r un genhadaeth honno o fod yn bennaeth cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Mae hynny, ynddo’i hun, yn deilwng o’n sylw.
Mae pawb ohonom yma wedi derbyn rôl yn llygad y byd cyhoeddus, ond fe wnaethom wirfoddoli. Wrth wneud hynny, gwnaethom ddewis ymwybodol, gan wybod pe bai’n mynd yn ormod i ni neu ein teuluoedd, y gallem hefyd wneud y dewis, er mor anodd, i gamu’n ôl o’r amlygrwydd a dilyn llwybr gwahanol—hynny yw, os nad yw'r etholwyr wedi gwneud y dewis hwnnw ar ein rhan yn y cyfamser. Ond rwy’n credu mai’r hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei dderbyn yw, i Dywysoges Elizabeth o Efrog ifanc, a aned yn aelod o’r teulu brenhinol, nad oedd fawr o ddewis yn sgil hynny yn wyneb yr hyn y byddai hi wedi’i weld fel dyletswydd—dyletswydd i wasanaethu ei gwlad, yn aml yn y cyfnodau mwyaf anodd y gellid eu dychmygu i’r wlad honno, ac yn aml yn anodd iddi hi'n bersonol ac yn gyhoeddus iawn fel merch, mam ac ati.
Nid yw’n anodd gweld pam fod parch y cyhoedd ehangach tuag ati wedi tyfu, oherwydd rhai o’r nodweddion y mae hi wedi dod i’w dangos ar yr adegau anoddaf. Nid yw’r nodweddion hyn yn unigryw iddi, ac yn ei heiliadau preifat tawel, efallai y byddai hefyd yn cydnabod ei bod hi, fel pob un ohonom, wedi gwneud syrthio'n fyr o'r nod yn awr ac yn y man mewn ffyrdd bach. Ond maent hefyd yn rhai o'r nodweddion y byddem am eu gweld ynom ni ein hunain yn fwy cyson, ac yn ein holl arweinwyr cyhoeddus hefyd, yn enwedig y rhai yn swyddi uchaf y wladwriaeth. Ac fe soniaf am ddwy o'r nodweddion hynny yn benodol, oherwydd mae rhinwedd mewn gwneud hynny wrth inni edrych yn ôl ar 70 mlynedd o rôl y Frenhines Elizabeth fel pennaeth y wladwriaeth, ac wrth inni edrych yn awr hefyd ar gyfnodau tymhestlog presennol mewn bywyd cyhoeddus. Y ddwy nodwedd hynny yw anhunanoldeb a'r ffocws ar wasanaeth i eraill. Ac arwain trwy esiampl hefyd, a gosod y safonau mewn bywyd cyhoeddus sy’n wirioneddol bwysig i'n democratiaeth a'n parch at y ffordd y cawn ein llywodraethu a’r rhai sy'n ein llywodraethu ni.
Pan edrychwn at ein ffigyrau cenedlaethol mewn bywyd cyhoeddus ar unrhyw adeg mewn amser, ar unrhyw adeg mewn hanes, sylweddolwn fod gan hyd yn oed y gorau ohonynt, y gorau ohonom, wendidau. Ond rydym yn disgwyl—mewn gwirionedd, rydym yn mynnu—er mwyn ennyn parch y cyhoedd, eu bod yn ceisio byw yn ôl delfrydau anhunanoldeb ac arwain drwy esiampl. Mae’r anrhydedd o fod mewn swydd uchel ynddi’i hun yn creu dyletswydd i barchu'r swydd honno, nid i gamddefnyddio'r swydd, ac i drin y cyhoedd â pharch hefyd. Ac os ydynt yn methu cynnal y nodweddion hyn yn gyson, neu'n methu derbyn pan fyddant wedi baglu a syrthio’n fyr o’r nod, neu'n waeth, eu bod yn ceisio twyllo'r cyhoedd, yna bydd y cyhoedd yn gwbl anfaddeuol; nid ydynt byth yn ffyliaid. Ac rydym wedi gweld hyn trwy gydol hanes a byddwn yn siŵr o'i weld eto.
Felly, rwy’n gorffen yn syml drwy nodi bod y Frenhines Elizabeth II wedi gwasanaethu am saith degawd hir yn y swydd fwyaf amlwg mewn bywyd cyhoeddus yn y DU, yn sylw nid yn unig y cyhoedd ar yr ynys fach hon oddi ar lannau gogledd-orllewinol cyfandir Ewrop, ond yn sylw’r cyhoedd, y wasg a sylwebaeth y byd ar bob symudiad a phob gair o’i heiddo. Mae hi wedi bod yn dyst i rai o’r argyfyngau cyfansoddiadol, diplomyddol, gwleidyddol a phersonol mwyaf difrifol y gellir eu dychmygu a gwrthdaro milwrol a streiciau sifil yma ac ymhell dramor, ac yn aml bu’n rhan ohonynt, un cam oddi wrthynt fel pennaeth cyfansoddiadol y wladwriaeth ond byth yn ddifater yn eu cylch, ac eto mae'n ennyn parch y mwyafrif llethol o'r dinasyddion—a defnyddiaf y term 'dinasyddion' yn fwriadol mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol—ar yr ynysoedd hyn. Awgrymaf fod hynny’n deillio i raddau mawr oherwydd, er bod gennym ni i gyd wendidau fel y dywedais, mae’r ddwy nodwedd barhaus, sef anhunanoldeb ac arweiniad a pharodrwydd i gydnabod pan aiff pethau o chwith wedi golygu bod y parch at y Frenhines ei hun wedi tyfu a thyfu gyda phob blwyddyn a degawd a aeth heibio. Efallai bod gwersi i bob un ohonom yno ac i’n holl arweinwyr mewn bywyd cyhoeddus sydd, mewn rolau etholedig, yn gobeithio cadw eu swyddi breintiedig yn gwasanaethu’r cyhoedd. Rydym i gyd yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines, y Frenhines Elizabeth II, wrth nodi deng mlynedd a thrigain ers iddi esgyn i’r orsedd.