8. Dadl Plaid Cymru: Stelcio

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:37, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Mae stelcio'n drosedd sy'n chwalu bywydau. Mae'n ofn cynyddol sy'n adeiladu yn y meddwl, màs o eiliadau o doriadau i seice ac iechyd meddwl goroeswr, ymgyrch o arswyd tawel sy'n chwalu person fesul darn. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o oroeswyr stelcio, ac mae'r gofid meddwl y maent yn ei ddioddef yn wanychol. Mae stelcwyr yn chwalu teuluoedd, yn dinistrio perthynas pobl â'i gilydd, yn gwneud ichi deimlo na allwch gerdded ar hyd y stryd neu hyd yn oed agor eich gliniadur heb i'w presenoldeb wneud ichi deimlo'n llai neu dan fygythiad. Rwyf wedi gweithio gyda menywod y gwnaeth eu stelcwyr osod dyfeisiau ysbïo a gwrando yn eu cartrefi, menywod sydd wedi dioddef anhwylder straen wedi trawma, menywod y daeth eu stelcwyr i'w gweithle, a aeth â'u hallweddi er mwyn eu copïo, menywod a gafodd negeseuon yn bygwth eu lladd, un fenyw a gafodd neges destun gan ei stelciwr gyda llun o raff crogwr gyda'r geiriau, 'Not long now, my flower.' Ac yn waeth na dim, menywod y gadawyd eu teuluoedd i adrodd eu straeon drostynt am eu bod wedi cael eu llofruddio gan eu stelcwyr. 

Clywais y dystiolaeth hon, Ddirprwy Lywydd, pan oeddwn yn rhan o ymgyrch yn San Steffan rhwng 2010 a 2012 a arweiniodd at gyflwyno deddfau stelcio newydd. Gan weithio gyda'r diweddar Harry Fletcher, y gwelir ei golli'n fawr, sefydlwyd ymchwiliad gennym dan gadeiryddiaeth Elfyn Llwyd AS. Clywsom dystiolaeth gan ymarferwyr, arbenigwyr cyfreithiol a goroeswyr a theuluoedd, ynglŷn â sut roedd y system yn gwneud cam â dioddefwyr. A diolch i raddau helaeth i dystiolaeth y menywod gwych hynny, gwnaethom berswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfau newydd, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012, fis yn unig ar ôl inni gyhoeddi ein hadroddiad. Cafodd y cymalau newydd eu pasio wedyn o fewn 11 diwrnod, rwy'n credu, sy'n torri record, gan ddau Dŷ'r Senedd. Ac eto, Ddirprwy Lywydd, mae'n fy ngwylltio ac yn fy nigalonni, 10 mlynedd yn ddiweddarach, fod angen inni gael y ddadl hon—ac mae angen—gan nad yw heddluoedd yn cael yr hyfforddiant cywir ac am fod cyfraddau erlyn yn ystyfnig o isel. Nid yw'r deddfau stelcio, yr ymladdwyd cyhyd i'w cael, yn cael eu defnyddio ac mae menywod yn dal i gael cam gan y system gyfiawnder. Mae ein cynnig yn galw ar y Llywodraeth a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i sicrhau bod heddluoedd yn deall gwir natur stelcio a bod mesurau sydd ar gael iddynt yn cael eu defnyddio.

Fel y clywsom, rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mawrth 2021, dim ond dau orchymyn diogelu rhag stelcio llawn a roddwyd yng Nghymru, er bod 3,000 o droseddau stelcio wedi eu dwyn i sylw'r heddlu—3,000. Ac rwy'n crybwyll gwir natur stelcio oherwydd, yn rhy aml, mae'n cael ei leihau neu ei anwybyddu. Canfu'r llinell gymorth stelcio genedlaethol fod tua 50 y cant o oroeswyr yn anfodlon ynghylch ymateb yr heddlu i'w hachos. Mewn chwarter o'r achosion, y rheswm am hynny oedd nad oedd yr heddlu'n adnabod y patrwm ymddygiad fel stelcio. 

Gyda stelcio, Ddirprwy Lywydd, y patrwm sy'n creu'r drosedd. Bydd digwyddiadau unigol a gymerir ar eu pen eu hunain yn ymddangos yn gwbl ddibwys, ond gyda'i gilydd maent yn magu perygl, a diffinnir stelcio yn y gyfraith mewn ffordd benodol iawn o ran yr effaith y mae'r ymddygiad yn ei chael ar ddioddefwr—patrymau ymddygiad sy'n achosi braw neu ofid difrifol. Os nad yw'r heddlu'n cael hyfforddiant ar sut i gofnodi patrymau ymddygiad, i feddwl am y straen gronnol ar y dioddefwr, ac i weld y tu hwnt yr un peth o'u blaenau—y blodau sydd wedi cyrraedd yn y post am y pedwerydd tro yr wythnos honno, y negeseuon a anfonwyd ar Twitter ar ffurfiau newydd a gofalus, y stelciwr sy'n digwydd bod wedi parcio y tu allan i gartref person. Nid yr achos unigol sy'n creu braw, ond effaith y cyfan gyda'i gilydd. Ac os nad yw'r swyddog heddlu sy'n ymdrin â'ch achos yn cydymdeimlo â natur yr hyn y gall stelcio ei wneud, gallwch deimlo eich bod wedi eich caethiwo yn y artaith hon. 

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig yn galw am i ddiogelwch menywod fod yn gonglfaen wrth gynllunio mannau cyhoeddus. Rydym yn meddwl am fwy na mannau ffisegol yn unig yma, ond mannau ar-lein hefyd. Ni ddylid gorfodi menywod nac unrhyw ddioddefwyr stelcio i encilio o fannau cyhoeddus oherwydd ofn. Hyd nes y caiff plismona a chyfiawnder eu datganoli'n llawn, dim ond pwerau rhannol fydd gennym dros wella bywydau pobl yn y maes hwn. Mae arnom ddyled i oroeswyr fel y menywod rhyfeddol hynny y gweithiais gyda hwy i wneud popeth yn ein gallu i roi diwedd ar artaith stelcio.