1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i amddiffyn pobl ar incwm isel yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ57618
Diolch, Delyth Jewell. Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, rydym wedi dyblu'r taliad cymorth tanwydd gaeaf, o £100 i £200, ac wedi ymestyn ein cyllid ar gyfer banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ofyn yn benodol i chi, os gwelwch yn dda, am ragor o wybodaeth am yr uwchgynhadledd bord gron y byddwch yn ei chynnal yr wythnos nesaf, a chroesawaf hynny'n fawr. Gwn fod y Llywodraeth wedi cytuno i'w chynnull yn dilyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi rhagor o wybodaeth i ni, os gwelwch yn dda, am y sectorau a’r grwpiau a fydd yn cael eu cynrychioli. Ac—mae hyn yn rhywbeth a godwyd, mewn gwirionedd, gydag un o'ch cyd-Weinidogion ddoe yn y Siambr—a allwch roi mwy o sicrwydd i ni y bydd lleisiau'r bobl y bydd y cynnydd hwn yn y costau'n effeithio fwyaf arnynt yn bersonol yn cael eu clywed yn rhan o'r uwchgynhadledd bord gron honno? Yn ogystal â hynny, os caf, yn gyflym, Weinidog, mae etholwyr wedi cysylltu â mi—rwy’n siŵr y bydd yr un peth wedi digwydd i chi—i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud â'r swm canlyniadol Barnett yn sgil gostyngiad y dreth gyngor yn Lloegr. Rwy'n deall eich bod wedi dweud eich bod yn gweithio ar ffyrdd o sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed. Rwy’n cymryd bod hyn yn mynd i gael ei drafod yn rhan o’r uwchgynhadledd bord gron hefyd, ond a allwch roi syniad i ni hefyd, os gwelwch yn dda, pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad ar hynny? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn defnyddiol iawn, oherwydd gallaf roi ymateb llawn i chi yn awr ar y cynlluniau ar gyfer yr uwchgynhadledd bord gron ddydd Iau nesaf, 17 Chwefror. Rydym wedi gwahodd pob un o’r sefydliadau sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi ledled Cymru. Yn amlwg, mae hynny’n cynnwys nid yn unig y rheini sy'n ymwneud â thlodi bwyd—Ymddiriedolaeth Trussell a banciau bwyd eraill a sefydliadau bwyd cymunedol sy’n ymateb i her tlodi bwyd—ond hefyd y rheini sy’n ymateb i heriau tlodi tanwydd, gan gynnwys y cynghorwyr sy'n bwysig i ni, fel Sefydliad Bevan, er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eu tystiolaeth. Mae profiadau bywyd yn hollbwysig. Cyfarfûm â’r grŵp gweithredu ar dlodi plant yr wythnos diwethaf, ac roedd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi yn hynod ddefnyddiol, yn dod â ni at wraidd yr hyn sy’n digwydd mewn cymunedau. Ond rwyf hefyd yn sicrhau bod y Llywodraeth gyfan yn rhan o hyn. Felly, byddaf yn cael cyfarfod dwyochrog â'r holl Weinidogion yr wythnos hon. Mae gennym weithgor trawslywodraethol, i edrych ar bob portffolio, o ran yr hyn y gallant ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. I Lywodraeth Cymru, mae hwn yn ymrwymiad gyda phartneriaid. Y bore yma, cyfarfûm â’r rhai sy’n darparu'r gronfa gynghori sengl, Cyngor ar Bopeth, Shelter, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig—pob un o’r partneriaid sy’n gweithio ar flaen y gad, yn darparu cyngor ac arweiniad—a’r gronfa cymorth dewisol hefyd. Felly, byddaf yn gallu adrodd ar hyn oll. Byddaf yn cadeirio’r uwchgynhadledd, ochr yn ochr â'm cyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. O ran y cyllid, rydym yn cadarnhau manylion y cyllid a fydd yn dod i Gymru yn sgil y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU, ond ar yr un pryd, fel y dywedais, rydym yn datblygu cynlluniau ar sut y gallwn ddefnyddio'r cyllid hwnnw i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, a thrafod yr argyfwng a’r blaenoriaethau—ac mae hynny’n hollbwysig am y digwyddiad yr wythnos nesaf—a ddaw gan y rheini sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hwnnw ac sy'n ymateb iddo yn ddyddiol.
Weinidog, mae’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar bobl ledled y DU yn frawychus dros ben i lawer o bobl yn fy etholaeth i. Mae tlodi gwledig yn rhywbeth nad yw llawer yn y Gymru drefol yn ei ystyried wrth greu polisïau i wrthsefyll caledi economaidd i lawer o deuluoedd ar incwm is sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae yna ffyrdd o ymladd yr argyfwng o fewn y setliad datganoli. Mae gan eich Llywodraeth reolaeth rannol dros lefelau treth incwm, a bob blwyddyn, gallwch ddewis amrywio’r cyfraddau hyn. Felly, pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i dorri cyfradd y dreth incwm i'r rheini sy'n talu'r gyfradd sylfaenol er mwyn lleddfu rhywfaint ar y pwysau a wynebir gan y rheini ar y cyflogau isaf yn ein cymdeithas? Diolch, Lywydd.
Wel, o ran eich Llywodraeth chi, hoffwn pe byddent yn gwrando ar ein galwadau i sicrhau y telir am y costau a roddir ar filiau cartrefi, y costau cymdeithasol hynny, ac yn wir, y costau amgylcheddol, drwy drethiant cyffredinol. Dyna ein galwad ar Lywodraeth y DU, a hefyd, eu bod yn cynyddu’r gostyngiad Cartrefi Clyd. Mae'r ffaith eu bod yn cyhoeddi ad-daliad nad yw'n dod i mewn, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, tan fis Hydref, ac yna'n disgwyl i bawb ei dalu'n ôl yn sarhad ar y rheini sy'n wynebu effeithiau mwyaf yr argyfwng costau byw heddiw. Yr hyn a wnawn gyda'n Llywodraeth yng Nghymru yw gwario ein harian—fe wnaethoch gymryd rhan yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe—ac efallai y bydd angen inni sicrhau bod pob punt ohono'n cael ei wario i ddarparu ar gyfer y rheini sy'n wynebu'r effeithiau mwyaf. Mae'n rhaid imi ddweud, o ble byddai’r arian yn dod ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus hynny? Yn sicr, nid ydym yn mynd i ddilyn eich llwybr chi. Mae angen ichi berswadio eich Llywodraeth yn San Steffan i fuddsoddi drwy drethiant cyffredinol yn yr argyfwng costau byw.