1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru? OQ57600
Rydym yn parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein cynllun gweithredu LHTDC+ yn rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu i ben ym mis Hydref ac mae dadansoddiad ar y gweill, a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w ddatblygu a'i gryfhau ymhellach.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn i'r llysoedd ddwyn rheithfarn ar lofruddiaeth drasig ac chiaidd Dr Gary Jenkins, ac rwy'n sicr y bydd y Gweinidog am ymuno â phob un ohonom yn y Siambr hon heddiw i dalu teyrnged iddo. Roedd hwn yn ymosodiad homoffobig a ddigwyddodd yn y ddinas hon, nid nepell o'r man lle'r ydym yn siarad heddiw. Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pob un o'r Aelodau pan ddywedaf ein bod yn cydymdeimlo'n ddwys a diffuant â'i deulu, ei ffrindiau a phawb sy'n galaru ar ei ôl. Roedd yn ddyn a gysegrodd ei fywyd i'n GIG, ac a gaiff ei ddisgrifio gan bawb a oedd yn ei adnabod fel dyn caredig a thrugarog. Bydd Dr Jenkins yn cael ei gofio yn y ffordd honno, ac am ei wasanaeth i'n gwlad. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i dalu teyrnged i Dr Jenkins ac i bob un sy'n parhau â'r ymgyrch i sicrhau'r genedl gyfartal, ddiogel a chyfiawn y gwyddom y gall Cymru fod pan fyddwn ar ein gorau?
Diolch. Mae fy meddyliau i a meddyliau Llywodraeth Cymru gyda'r teulu, ffrindiau, cydweithwyr a phawb a oedd yn adnabod Dr Gary Jenkins. Fel pawb yma, cefais fy nhristau gan lofruddiaeth homoffobig erchyll Dr Jenkins. Mynychais yr wylnos yng Nghaerdydd ar risiau'r amgueddfa genedlaethol nos Sul gyda channoedd o bobl, lle y cawsom ein cyffwrdd gan bobl yn talu teyrnged i enaid caredig, a oedd yn hynod o hael, yn drugarog ac yn dosturiol, ac fel y dywedoch chi, rhywun a weithiodd yn galed gan gysegru ei fywyd i'n GIG, dyn y cafodd ei fywyd effaith gadarnhaol ar gynifer o fywydau eraill. Rwy'n credu bod yr wylnos wedi dangos cryfder y teimlad yn dilyn y digwyddiad erchyll hwn, a gwn fod y gymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd a thu hwnt wedi teimlo effaith yr ymosodiad yn ddwfn iawn.
Buom yn siarad yr wythnos diwethaf fel rhan o Fis Hanes LHDTC+ am ba mor bell rydym wedi dod, ond mae'n dangos yn y ffordd greulonaf sy'n bosibl pa mor bell sydd gennym i fynd o hyd. Dyma'r pegwn creulonaf, ond mae cymaint o bobl LHDTC+, a minnau yn eu plith, yn dal i wynebu sylwadau sarhaus a bychanus yn ddyddiol. Ni theimlwn y gallwn ddal dwylo ein hanwyliaid wrth gerdded ar hyd y stryd. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn codi llais ac yn defnyddio ein llwyfan er lles yn y Siambr hon a dangos sut genedl y dymunwn fod. Fel Llywodraeth Cymru, dyna pam y mae ein cynllun gweithredu mor bwysig. Rydym eisoes wedi rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod ni, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau, yn cyfarfod â chynrychiolwyr o'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru, a chyda'r heddlu, i weld beth arall sydd angen ei wneud i sicrhau bod ein cymunedau'n saff, fel y dylent fod, ac yn ddiogel ar y strydoedd ac yng nghymunedau Cymru.
A gaf fi uniaethu â theimladau'r Aelod dros Ogwr a hefyd sylwadau'r Gweinidog y prynhawn yma? A gaf fi hefyd holi'r Gweinidog ynglŷn â'r adroddiadau heddiw ar raglen BBC Wales Live am eiriau sarhaus ac ymosodiadau homoffobig o fewn y system addysg? Yn anffodus, maent yn nodi cynnydd yn hynny drwy adroddiadau Estyn sy'n deillio o'r arolygiadau a gynhaliwyd. Gallwn siarad cymaint ag y dymunwn am gynlluniau gweithredu, ac rwy'n siŵr eu bod yn cael eu llunio gyda'r bwriad gorau yn y byd, ond yn anffodus y realiti yw, o'r profiadau bywyd go iawn, fod pobl sy'n mynd i rai o'n sefydliadau addysg yn profi ymosodiadau homoffobig. Yn anffodus, mae'r adroddiad yn dangos, lle y mae'r proffesiwn addysgu'n cael gwybod am y rhain, fod diffyg profiad, mewn rhai achosion, i allu ymdrin â hwy mewn modd sensitif. A allwch gadarnhau eich bod yn cydweithio â'r adran addysg i sicrhau—fe gyfeirioch chi at hyn yn gynharach—nad oes gwaith seilo o'r fath yn digwydd yn y Llywodraeth, a lle y codir y pryderon hyn gan Estyn neu sefydliadau eraill, yr ymdrinnir â hwy'n briodol ac y rhoddir cymorth i'n hathrawon, fel y gallant ymdrin ag adroddiadau o'r fath pan gânt eu cyflwyno iddynt?
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad. Rwy'n gyfarwydd ag adroddiad Estyn a'r adroddiadau sydd wedi bod ar y BBC heddiw. Mae'n hynod o drist fod pobl ifanc yn unrhyw le yn dal i wynebu ofn, boed yn ofn ymosodiadau corfforol neu sylwadau sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus ac na allwch fod yn chi eich hun. Gwn ein bod yn gweithio'n agos iawn ar draws y Llywodraeth gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog addysg i sicrhau nid yn unig fod ysgolion yn lleoedd diogel a bod plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth, ond mewn gwirionedd, fod gan athrawon ac addysgwyr yr adnoddau cywir a'r hyder i ymdrin â'r pethau hyn mewn modd sensitif a bod pobl ifanc yn gallu troi atynt a theimlo bod eu hysgol yn lle diogel, fel y dylai fod.
Roeddwn yn edrych ar adroddiad y BBC yn gynharach, a chredaf fod enghraifft o ysgol yng Nghaerdydd. Mae ganddynt grŵp o'r enw Digon, a phan fydd rhywun wedi dweud rhywbeth efallai, neu pan na fydd rhywun yn deall bwriad yr iaith y maent wedi'i defnyddio, y niwed y gallai ei achosi, maent yn eistedd gyda hwy—. Gallai fod yn ddim mwy na sylw ysgafn iddynt hwy, neu efallai nad ydynt yn deall yr effaith sylweddol y gallai ei chael ar berson arall. Yr hyn y maent yn ceisio'i wneud mewn gwirionedd—a chredaf fod hon yn ffordd dda iawn o fynd ati y gallwn ei dysgu wrthi o rywle arall hefyd—yw eistedd gyda'r bobl ifanc hyn ac esbonio'r effaith a gafodd a pham y mae'n brifo a pham ei fod yn anghywir, mewn ffordd sydd bron fel cyfiawnder adferol, ond mewn ffordd sy'n digwydd rhwng cyfoedion, mewn ffordd y maent yn ei deall. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn i gyd ddysgu ohono, beth bynnag fo'n hoedran.