3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:57, 15 Chwefror 2022

Y datganiad nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r sefyllfa gyfredol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o reoliadau coronafeirws, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.

Mae Cymru ar lefel rhybudd 0 ar hyn o bryd. Rydym ni wedi mynd heibio i benllanw omicron dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac rydym ni'n gynyddol ffyddiog bod niferoedd yr achosion yn prinhau. Mae heintiadau yn y gymuned yn prinhau. Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 yn lleihau, a nifer y bobl mewn gofal critigol gyda COVID-19 yn ddiweddar yw'r lleiaf ers mis Gorffennaf 2021. Mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn newyddion cadarnhaol iawn.

Wrth gwrs, fe geir rhai rhesymau i ni ddal ati i fod yn ofalus. Mae hi'n amlwg nad yw'r pandemig ar ben eto. Mae COVID, yn anffodus, yn parhau i fod gyda ni. Y gyfradd o achosion, ar sail profion PCR cadarnhaol, yw 326 o achosion fesul 100,000. Mae hon yn gyfradd uchel iawn o hyd, er nad yw hi mor uchel â'r cyfraddau eithriadol a welsom ni yn anterth y don omicron.

Rydym ni'n cadw llygad barcud hefyd ar achosion o is-amrywiolyn omicron, o'r enw BA.2. Mae honno'n ffurf fwy trosglwyddadwy fyth o'r feirws na'r un yr ydym ni wedi dod i arfer â hi. Daeth bron i 250 o achosion i'r golwg yng Nghymru hyd yn hyn. Fe fu yna rywfaint o ddyfalu mai dyna'r hyn sy'n gyrru'r gyfradd uchel o achosion yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.

Llywydd, cyn i mi droi at ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, fe hoffwn i fyfyrio am eiliad ar y cynnydd a'r gwahaniaeth aruthrol a wnaeth ein rhaglen frechu wych ni. Wrth i ni nesáu at ddwy flynedd ers yr achos cyntaf o ddiagnosis coronafeirws yng Nghymru, fe weinyddwyd dros 6.8 miliwn dos o'r brechlyn COVID-19. Mae mwy na naw o bob 10 o bobl wedi cael un dos, mae 86 y cant wedi cael dau ddos, ac mae 67 y cant wedi cael dos atgyfnerthu. Mae brechu wedi helpu i newid cwrs y pandemig hwn, gan wanhau'r cyswllt rhwng y feirws â salwch difrifol, mynediad i ysbyty, a marwolaeth i gymaint ohonom ni. Mae brechu wedi achub bywydau di-rif, ac mae cyflymder ein rhaglen atgyfnerthu ni wedi ein helpu ni wrth dawelu storm omicron, heb os nac oni bai.

Rwy'n falch fod ein system ar-lein ni ar gyfer aildrefnu apwyntiadau bellach yn fyw ac yn cael ei chyflwyno a'i hintegreiddio yn raddol i gynlluniau cyflenwi brechlyn COVID-19 y byrddau iechyd. Dyma offeryn arall i fyrddau iechyd allu darparu dulliau ychwanegol i bobl ar gyfer cysylltu i aildrefnu eu hapwyntiadau nhw os nad yw'r un a roddwyd iddyn nhw'n gyfleus. Fe fydd byrddau iechyd yn parhau i fod â llinellau ffôn ar gael i bobl nad ydyn nhw'n cael y neges testun ar gyfer aildrefnu neu sy'n methu â mynd trwodd i'r gwasanaeth aildrefnu ar-lein. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n annog unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu eto, neu nad yw wedi gorffen ei gwrs brechlyn, i ddod i gael ei bigiadau.

Er na chafodd hyn ei gyhoeddi yn swyddogol eto gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, rwyf i wedi cael cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechu pob plentyn pump i 11 oed. Rwyf i wedi cytuno i'w gynnig, ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i weithredu'r cynnig hwn. Rydym ni'n aros am gyngor o ran a ddylai'r carfannau mwyaf agored i niwed gael brechiad atgyfnerthu arall i'w diogelu nhw dros fisoedd y gwanwyn a'r haf. Rydym ni'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol i sicrhau ein bod ni'n hyblyg ac yn barod i roi unrhyw gyngor ar waith wedi i mi ystyried hyn yn ofalus.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:01, 15 Chwefror 2022

Llywydd, hoffwn i droi nawr at yr adolygiad. Hwn oedd yr adolygiad tair wythnos cyntaf o'r mesurau diogelu sydd gyda ni ar lefel rhybudd 0. Gan fod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella'n gyffredinol, mae'r Cabinet wedi penderfynu mai aros ar lefel rhybudd 0 fyddwn ni. Gallwn ni hefyd ddechrau llacio rhai o'r mesurau diogelu sydd ar waith. Byddwn ni'n mynd ati yn ofalus i wneud hyn, ac yn gweithredu gam wrth gam.

O ddydd Gwener yma, 18 Chwefror, ymlaen, byddwn ni'n dileu'r gofyniad i ddangos pàs COVID i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr dan do ac yn yr awyr agored, ac i glybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. O 28 Chwefror ymlaen, byddwn ni'n dileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai mannau cyhoeddus dan do. Ond bydd hyn yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol ym mhob lleoliad manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mewn lleoliadau iechyd a gofal. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, rydym ni'n gobeithio gallu dileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn llwyr erbyn diwedd mis Mawrth.

Rydym yn gweithio yn agos gydag ysgolion i'w helpu nhw i gynllunio i ddechrau gweithredu yn unol â'r fframwaith penderfyniadau lleol unwaith eto. Bydd hyn yn digwydd yn syth ar ôl y gwyliau hanner tymor. Ni fydd angen gorchuddion wyneb fel mater o drefn mewn ystafelloedd dosbarth ar ôl hynny, ond dylid parhau i'w gwisgo mewn ardaloedd cymunedol mewn ysgolion uwchradd. Bydd y rheolau ynghylch hunanynysu yn parhau ar waith yma yng Nghymru. Mae'r trefniadau hyn yn bwysig er mwyn torri cadwyni trosglwyddo'r feirws ac i atal rhagor o bobl rhag cael eu heintio.

Ar ôl yr adolygiad nesaf, rydym ni'n bwriadu cyhoeddi cynllun pontio ar gyfer byw gyda coronafeirws. Cynllun fydd hwn i weithredu pan fydd yr holl gyfyngiadau cyfreithiol sydd wedi cael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth diogelu iechyd frys wedi cael eu dileu. Rŷm ni nawr yn gallu symud yn ein blaenau a dechrau codi'r cyfyngiadau fesul dipyn, gan adael rhai eraill yn eu lle. I bobl Cymru sydd wedi dilyn y rheolau a'r mesurau i'w cadw nhw a'u hanwyliaid yn ddiogel y mae'r diolch i hynny. Hoffwn i ddiolch i bawb am chwarae eu rhan nhw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i staff ein gwasanaeth iechyd a staff gofal cymdeithasol am barhau i weithio yn ddiflino trwy'r cyfnod anodd hwn.

Nid yw COVID-19 wedi diflannu. Wrth inni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn, byddwn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, ond mae'r darlun hwnnw yn gwella yng Nghymru. Mae hynny yn rhoi y gobaith inni y gallwn ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell. Diolch, Llywydd.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:04, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac am y briff yn gynharach hefyd a oedd ar gael i aelodau'r pwyllgor iechyd? Gwerthfawrogwyd hynny'n fawr iawn. Gweinidog, rwy'n hapus iawn gyda rhai o'r manylion yn eich datganiad chi. Rydych chi'n sôn am ostyngiad yng nghyfraddau ysbytai a'r rhai mewn gofal critigol gyda COVID-19 ar eu lefelau isaf ers mis Gorffennaf 2021. Rydych chi'n dweud bod hynny'n gadarnhaol iawn, ac rwyf i'n cytuno â chi'n llwyr. Mae hon yn sefyllfa gadarnhaol dda iawn i fod ynddi hi. Fe ewch chi ymlaen i ddweud bod coronafeirws yn parhau i fod gyda ni, yn anffodus. Ond fe fydd hwnnw gyda ni am byth; yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall a dyna ddywed gweithwyr iechyd proffesiynol wrthym ni. Felly, mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda coronafeirws. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu a ydych chi'n cytuno â'r safbwynt hwn.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:05, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Ar ôl 19 wythnos, rydym ni, o'r diwedd, wedi penderfynu cael gwared ar y pasbortau brechu. Wrth gwrs, mae hynny'n fy mhlesio i'n fawr iawn, am eu bod nhw'n aneffeithiol, ac yn gostus i fusnesau, heb unrhyw dystiolaeth eu bod nhw'n gwneud unrhyw beth gwirioneddol i rwystro ymlediad coronafeirws na chynyddu cyfraddau brechu. Yn fy marn i, ni ddylai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi dod â'r penderfyniad ger ein bron i fod â phasbortau COVID yn y lle cyntaf un. Roeddech chi'n dweud y gall busnesau barhau i fod â phasbortau brechu yn wirfoddol; a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd gan fusnesau eu bod nhw'n awyddus i wneud felly, ac os ydych chi, o ba sectorau arbennig y daeth hynny? Fe fyddai hi'n ddefnyddiol i ni gael gwybod hynny.

Rwyf i wedi gofyn i chi ar sawl achlysur am dystiolaeth o ran y pasbortau COVID, ac rydych chi naill ai wedi dweud wrthyf i eich bod chi wedi defnyddio tystiolaeth ryngwladol ynglŷn â phasbortau brechu o wledydd lle nad yw'r niferoedd sydd wedi manteisio ar frechlynnau yn fawr iawn—wrth gwrs, yng Nghymru, nid yn y sefyllfa honno yr ydym ni; rydym ni mewn sefyllfa lawer gwell, lle mae 86 y cant, fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi heddiw, wedi cael yr ail ddos ac mae 67 y cant wedi cael y brechiad atgyfnerthu—neu rydych chi wedi dweud bod y dystiolaeth sy'n dangos pa mor effeithiol ydyn nhw wedi cael ei chyhoeddi eisoes. Ond fe hoffwn i eich cyfeirio chi at eich cell cyngor technegol chi ddoe. Pan oedden nhw'n cyhoeddi gwybodaeth, roedden nhw'n dweud y ceir llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch effeithiolrwydd y pàs COVID o ran rhwystro heintiadau, o gofio nad oes yna werthusiad sylweddol wedi bod o'r ymyriadau hyn. Rydych chi'n dweud yn aml mai un mesur ymhlith llawer yw hwn, ond mae'r gell yn mynd ymlaen i ddweud, er bod potensial i hwnnw leihau heintiadau ynghyd â'r mesurau eraill, mai parhau i fod yn brin y mae'r dystiolaeth a adolygwyd gan gymheiriaid i ddangos hynny. Felly, rwyf i am ofyn i chi unwaith eto am y dystiolaeth honno. A gafodd y dystiolaeth honno ei chasglu yng Nghymru, a phryd y caiff y dystiolaeth honno ei chyhoeddi? Mae angen i ni werthuso effeithiolrwydd pasys COVID, oherwydd fe geir y posibilrwydd eu bod nhw wedi peri niwed mawr i economi'r nos, heb fod o fawr ddim lles i iechyd y cyhoedd.

Gweinidog, rwyf i am ofyn i chi am y cynnydd o ran ôl-groniad y rhestrau aros. Wrth gwrs, fe wyddom ni ein bod ni mewn sefyllfa yma yng Nghymru lle mae un o bob pump o boblogaeth Cymru yn dal i fod ar restr aros ac mae un o bob pedwar wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac mae hynny'n cyfateb i un o bob 19 yn Lloegr ac un o bob 13 yn yr Alban. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd GIG Lloegr, wrth gwrs, ei gynllun i ymdrin â'r ôl-groniad, ac rwy'n credu, yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, Gweinidog, i chi ddweud y byddech chi'n edrych ar y cynllun hwnnw gyda diddordeb. Felly, fe hoffwn i gael unrhyw asesiad cynnar a wnaethoch chi o'r cynllun yn Lloegr. Pa agweddau yn y cynllun hwnnw, yn eich barn chi, sy'n briodol i'w trosglwyddo i'ch cynllun chi pan fyddwch chi'n ei gyhoeddi ef ym mis Ebrill?

Gweinidog, yn eich datganiad chi heddiw, rydych chi'n sôn am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechlyn i bob plentyn pump i 11 oed, felly efallai y gwnewch chi roi rhyw syniad i ni o ba ystyriaethau y gwnaethoch chi eu rhoi i fanylion cyflwyno'r cynllun hwnnw ar gyfer y grŵp oedran penodol hwn.

Ar y cyfan, Gweinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am lacio cyfyngiadau COVID ymhellach. Fe hoffwn i eich holi chi ynglŷn ag ynysu gorfodol, o ystyried cymaint o drafod a fu ar y mater hwn. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi mynegi syndod a siom ynghylch dod â hynny i derfyn yn Lloegr, ac mae eich Llywodraeth chi'n dweud yr hoffech chi weld y dystiolaeth i gefnogi'r cam hwn. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa dystiolaeth a hoffech chi ei gweld yn hynny o beth? Ac yn ail, mae Gweinidog yr economi, Vaughan Gething, wedi dweud y gellid terfynu hynny yng Nghymru cyn diwedd y mis nesaf. Felly, pa dystiolaeth sydd wedi llywio'r datganiad hwnnw, os, fel yr ydych chi'n dweud, nad oedd yna unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny? Ac yn drydydd, mae eich cyd-Aelodau chi yn y Llywodraeth wedi honni na roddodd Llywodraeth y DU rybudd i chi am eu penderfyniad nhw. Fe allai hynny fod, wrth gwrs, am eu bod nhw'n awyddus i wneud y cyhoeddiad yn Nhŷ'r Cyffredin i ddechrau, yn hytrach na'i drosglwyddo i newyddiadurwyr yn gyntaf i gyd. Ond rwyf i am ofyn i chi: pa mor aml ydych chi'n rhybuddio Gweinidogion Llywodraeth y DU am eich penderfyniadau chi yn y fan hon?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:10, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Russell. Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda COVID. Ni fydd yn marw o'r tir, ni fydd yn diflannu, a dyna pam, yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, y gwelwch chi ni'n datblygu strategaeth tymor hwy ar gyfer ein dull ni o ymdrin â hynny.

Rwyf i am neidio, os nad oes ots gennych chi, at eich pwynt olaf, sef ynysu gorfodol, oherwydd mae cyswllt yn hyn o beth, yn fy marn i. Yr anhawster yw bod Llywodraeth y DU yn gweithredu fel pe bai'r cyfan drosodd, a'r gwir amdani yw, os ydych chi'n darllen cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, mewn gwirionedd, mae hi'n sobri dyn i feddwl beth arall a allai fod rownd y gornel. Ar hyn o bryd, rydym ni'n gwneud yn dda, ond ni wyddom ni ddim beth allai ddod nesaf.

Gadewch i mi roi rhai amcanion i chi am yr hyn a allai ddod nesaf. Maen nhw'n dweud ei bod hi bron yn sicr y daw amrywiad genetig o'r feirws a fydd yn gwneud brechlynnau cyfredol yn aneffeithiol. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, SAGE sy'n dweud hynny. Maen nhw'n dweud, o ran y clefyd llai difrifol gyda omicron—felly, y bu'n llai difrifol o'i gymharu â'r hyn a welsom ni'n flaenorol—nid ydym ni'n debygol o weld hynny eto; mae'n fwy tebygol o fod yn debycach i delta. Unwaith eto, nid fi sy'n dweud felly, gwyddonwyr sy'n dweud felly. Mae'r cyngor yn dweud wrthym ni hefyd ein bod ni'n debygol o weld tonnau newydd o amrywiolion. Felly, gadewch i ni fod yn ymwybodol ein bod ni, wrth gwrs, mewn sefyllfa well ar hyn o bryd, ond mae'n debyg nad yw datgymalu'r amddiffynfeydd i gyd yn syniad synhwyrol. Yn amlwg, mae gennym ni lawer o waith meddwl, ac mae'n rhaid i ni ddeall bod perthynas agos iawn—yn wir, dibyniaeth, i raddau—gyda'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ac felly, fe fydd yr hyn y maen nhw'n ei benderfynu yn effeithio ar yr hyn y gallwn ninnau ei benderfynu yma. Felly, mae hi'n bwysig, pan fyddwn ni'n sôn am ddysgu byw gyda COVID, ein bod yn deall nad ystyr hyn yn unig yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond yr hyn a allai fod yn dod tuag atom neu beidio yn y dyfodol.

O ran pasbortau brechu, fe wyddom ni, yn achos delta, er enghraifft, fod y brechiad wedi helpu i leihau trosglwyddiad. Felly, pe byddech chi'n dod i gysylltiad â rhywun, roeddech chi'n llai tebygol o'i drosglwyddo ymhellach, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth pan ydych chi'n mynd i le caeedig dan do. Fe geir tystiolaeth ryngwladol hefyd sy'n awgrymu eu bod nhw'n cynyddu'r niferoedd sy'n derbyn y brechlynnau. Felly, mae'r dystiolaeth honno'n bodoli, ac, wrth gwrs, dim ond un mesur ydyw hwnnw mewn cyfres o fesurau eraill. Rydych chi'n gofyn am dystiolaeth trwy'r amser; ble mae eich tystiolaeth chi sy'n awgrymu eu bod nhw wedi difrodi economi'r nos? Nid wyf i'n siŵr a oes yna lawer o dystiolaeth i awgrymu bod y pasys COVID, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Rwy'n deall, os ydych chi'n cau clwb nos ac nad ydyn nhw'n gallu agor eu drysau, mae hynny'n wahanol. Nid sôn am hynny'r oeddech chi. Sôn yr oeddech chi am basys COVID, ac fe fyddai hi'n ddefnyddiol iawn i ni gael gwybod o ble daw eich tystiolaeth chi am hynny, oherwydd rhai o'r awgrymiadau a gefais oedd bod mwy o bobl, mewn gwirionedd, yn teimlo yn hyderus wrth fynd allan gyda'r wybodaeth bod pobl eraill o'u cwmpas nhw wedi cael eu brechu.

O ran rhestrau aros, rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, ac nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU ac, yn wir, yn fyd-eang. Fe fu'n rhaid i ni gymryd camau i ddiogelu'r cyhoedd. Fe geir canlyniadau yn sgil hynny ac, wrth gwrs, fe fydd gennym ni waith enfawr wrth fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw. Dyna pam y byddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun ni ym mis Ebrill. Mae gennym ni broses integredig i'r cynllun tymor canolig. Mae gennym ni system nawr lle yr ydym ni'n aros am y byrddau iechyd i gyflwyno eu cynlluniau nhw. Fe fyddwn ni'n asesu'r cynlluniau hynny ac fe welwn ni a ydyn nhw'n briodol o ran ein cyfeiriad a'n huchelgais ni yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym ni ddigon o bethau, rwy'n credu, yr hoffem ni eu dysgu o ardaloedd eraill. Rwy'n gwybod eich bod chi'n awyddus iawn i weld dulliau rhanbarthol. Fe hoffwn innau weld hynny hefyd. Ond rwyf i o'r farn fod angen i ni roi ystyriaeth i bethau fel hyn.

O ran brechu plant, nid yw'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei adroddiad eto, er bod llawer o arwyddion yn y papur The Guardian ac mewn mannau eraill sy'n awgrymu bod rhai wedi bod yn gollwng cyfrinachau. Mae hi'n drueni ac mae hi'n anodd deall pam nad yw hwnnw fyth wedi cael ei gyhoeddi. Ond rwyf i wedi gweld copi o'r cyngor hwnnw ac fe fyddwn ni'n dechrau cyflwyno brechiadau ar gyfer plant pump i 11 oed. Wrth gwrs, mae hwn yn debygol o fod yn benderfyniad anodd iawn i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, oherwydd yn gyffredinol, nid yw plant yn dioddef salwch mor ddifrifol ac mae llai ohonyn nhw'n mynd i ysbytai, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgor gydbwyso hynny â'r posibilrwydd o golli ysgol. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried materion amrywiol iawn o ran brechu plant mor ifanc â phum mlwydd oed, wrth gwrs, felly rydym ni am fod mewn sefyllfa lle byddwn ni'n disgwyl i'r plant hynny fod yng nghwmni oedolyn. Fe fydd angen caniatâd deallus, ond fe fydd cyfle i frodyr a chwiorydd, er enghraifft, gael eu hapwyntiadau ar yr un amser. Fe wneir y rhan fwyaf o'r gwaith hwn—mewn gwirionedd, fe wneir y cyfan mewn canolfannau iechyd yn hytrach nag mewn ysgolion, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol i chi.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:16, 15 Chwefror 2022

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Dwi'n falch o glywed bod yr hyder yn cynyddu, bod achosion yn lleihau a'r niferoedd sydd angen gofal ysbyty yn lleihau. Dwi'n fodlon efo'r agwedd bwyllog a'r amserlen wrth symud ymlaen tuag at godi'r ychydig fesurau diogelwch sydd ar ôl mewn lle. Mewn difri, ychydig o gyfyngiadau uniongyrchol sydd yna, bellach, ar ein bywydau ni.

O ran pasys COVID, gyda llaw, roeddwn i'n trafod efo'r Aelod dros y de-ddwyrain wrth fy ymyl i yn fan hyn am un digwyddiad diwylliannol mawr sydd eisoes wedi penderfynu, 'Na, does dim rhaid defnyddio pasys COVID, ond dŷn ni am barhau i wneud, oherwydd ei fod o'n rhoi hyder i ni wrth drefnu digwyddiad.' Felly, dwi'n meddwl bod yna'n dal bobl sy'n dymuno gallu rhoi camau mewn lle er mwyn tawelu ofnau pobl, achos dwi'n cytuno efo asesiad y Gweinidog, er fy mod i'n gwthio arni i symud ymlaen mor bwrpasol â phosib tuag at gyhoeddi'r cynllun trosiannol ar gyfer symud i'r cyfnod endemig nesaf—. Dwi yn cytuno efo'r asesiad bod y pandemig ddim drosodd, ac yn rhyfeddu bod Llywodraeth Prydain yn barod i hawlio, bron, fod y cyfan drosodd a bod eisiau cael gwared ar bob mesur diogelwch. A tra dwi a'r Gweinidog, dwi'n siŵr, yn eiddgar i symud i'r cyfnod endemig o fyw efo COVID, nid anghofio am y pandemig ac anghofio am COVID mae hynny'n ei olygu.

O ran yr is-amrywiolyn BA.2, tybed a oes yna unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn ag unrhyw batrymau lleoliad a tharddiad yr is-amrywiolyn hwnnw y mae gwyddonwyr yn gallu canolbwyntio arnyn nhw er mwyn dysgu mwy amdano fo? Dyna fy nghwestiwn cyntaf i. Yn ail, brechu plant o bump i 11 oed: mi fyddwn i'n gwerthfawrogi rhagor o fanylion am y camau nesaf. Dwi yn ymwybodol, mae'n rhaid dweud, o alwadau gan rieni, gan staff mewn addysg, gan weithwyr iechyd a gofal i wthio'r cynnig yma o frechiad ymlaen â chymaint o frys a phosib, oherwydd pryder, o bosib, mai ymysg plant mae'r feirws yn lledaenu fwyaf, a'r effaith y mae hynny'n ei gael ar aelodau eu teuluoedd nhw sydd yn methu gweithio, a'r effaith, wrth gwrs, sy'n parhau o hyd ar addysg plant, lle mae yna golli ysgol am amser hir. Ac o bosib, a allech chi roi hynny yng nghyd-destun y penderfyniad i gael gwared ar yr angen i wisgo gorchudd wyneb mewn ysgol hefyd, oherwydd mae yna bryder, fel dwi'n ei ddweud, fod angen cymryd pob cam posib i geisio atal lledaeniad o fewn ysgolion?

Un mater olaf hefyd, fel trydydd pwynt. Dwi wedi cael cyswllt pellach efo'r RNIB, a hynny'n dilyn ateb ysgrifenedig y cefais i gan y Gweinidog ar ddiwrnod olaf mis Ionawr, a hwnnw'n ateb cwestiwn lle roeddwn i wedi gofyn ynglŷn â chymorth i bobl ddall neu sydd â golwg rhannol allu defnyddio profion. Mae yna'n dal bryderon yn y gymuned o bobl sydd yn cael trafferth defnyddio profion oherwydd problemau â'u llygaid. Gaf i ofyn i'r Gweinidog: ydy hi'n barod i drafod ymhellach efo'r RNIB beth all gael ei wneud i helpu'r rheini, yn enwedig y rhai sy'n methu, am ba bynnag reswm, â defnyddio platfformau digidol i chwilio am help? Achos mae'r gyfundrefn brofi yn dal yn rhan bwysig o'n hymateb ni i'r pandemig, ac mae'n bwysig ei bod hi'n gyfundrefn y mae pawb yn gyfforddus yn ei defnyddio.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:20, 15 Chwefror 2022

Diolch yn fawr, Rhun, a dwi'n falch eich bod chi'n cytuno â'r agwedd bwyllog rŷn ni wedi bod yn ei chymryd. Ac fel rŷch chi'n dweud, ychydig iawn o gyfyngiadau sydd ar ôl nawr. A dwi yn cytuno y bydd rhai yn dal i ddymuno defnyddio pasys COVID mewn rhai achlysuron. Rŷn ni i gyd yn awyddus i'r pandemig yma fod drosodd, ond nid dyna'r ffordd mae COVID yn gweithio. Mae gan COVID ei feddwl ei hun ac mae'n bihafio yn ei ffordd ei hun, ac nid ni sy'n mynd i reoli beth yw'r bennod nesaf.

Jest o ran BA.2, mae yna lot fawr o dystiolaeth yn Denmark—dyna lle rŷn ni'n gweld lot fawr o BA.2. Felly, mae lot o waith ymchwil yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd, yn dysgu mwy am BA.2. Un peth rŷn ni yn gwybod yw ei fod e'n symud lot yn gyflymach hyd yn oed nag omicron, felly rŷn ni'n fwy tebygol o weld ymlediad cyflym. Y cwestiwn yw—. A dwi'n gwybod bod llawer yn meddwl mai hwnnw fydd yr amrywiolyn mwyaf penodol rŷn ni'n ei weld yn ein cymunedau ni.

O ran vaccinations i blant pump i 11, rŷn ni eisoes yn rhoi cynllun mewn lle i sicrhau bod hyn yn digwydd. Dŷn ni ddim yn mynd i'w wneud ar frys, yn yr un ffordd ag y gwnaethom ni, yn amlwg, dros y Nadolig. Mae hynny'n rhannol oherwydd dyw'r perygl ddim mor fawr iddyn nhw. Ac rŷn ni hefyd yn aros i glywed, wrth gwrs, o'r JCVI, os bydd angen booster ar y booster i'r henoed yn y gwanwyn. Ac felly byddwn i yn bendant eisiau ystyried pa un sydd yn gorfod cael blaenoriaeth. Felly, mae jest rhaid inni ystyried, ymysg yr holl bethau eraill mae'n rhaid inni eu gwneud, pan fo'n dod i'r vaccination, beth sydd angen i ni ei wneud. Felly, dwi'n siŵr byddaf i yn cael lot mwy o gyngor ar hynny.

O ran yr RNIB, mae'n ddrwg gyda fi i glywed bod rhai yn dal i gael trafferthion o ran defnyddio profion—mwy na hapus i gynnal trafodaeth ar hynny. Felly, gallwn ni ddilyn i fyny ar hynny wedyn.

Photo of James Evans James Evans Conservative 3:22, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad chi ynglŷn â COVID-19 y prynhawn yma, ac rwyf fi, fel fy nghyd-Aelodau i yn y fan hon, yn croesawu'r llacio ar y cyfyngiadau ledled Cymru. Gweinidog, fel gwyddoch chi, fe roddodd COVID-19 bwysau enfawr ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ni, ac ar nos Sul roedd tua 17 o ambiwlansys yn sefyll y tu allan i Ysbyty Treforys, yn aros i gleifion gael eu derbyn a'u gweld. Mewn adran damweiniau ac achosion brys dros y penwythnos, fe glywais i gan barafeddyg rheng flaen bod trigolion Brycheiniog a Maesyfed yn aros wyth awr fel rheol am ymateb ambiwlans categori 1. A thros y penwythnos, bu'n rhaid i wraig â phoenau yn ei brest aros dros bum awr am ambiwlans, ac nid oedd unrhyw ambiwlans o gwbl ar gael yn fy etholaeth i. Gweinidog, rwyf i wedi codi hyn droeon, rydym ni wedi trafod hyn lawer gwaith yn y fan hon, ond fe hoffwn i wybod pa fesurau newydd y gwnaethoch chi, a gwasanaeth ambiwlans Cymru, eu rhoi ar waith i geisio rheoli amseroedd aros am ambiwlansys. Oherwydd nid yw pobl yn aros wyth awr a mwy yn sefyllfa foddhaol ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi yn hynny o beth. Diolch, Llywydd.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:23, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, James, ac rwyf innau'n bryderus iawn am y sefyllfa ynglŷn ag ambiwlansys, a dyna pam yr wyf i wedi cyfarfod â phrif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans y bore yma, dim ond ar gyfer ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa. Rydym ni wedi recriwtio 127 o bobl ychwanegol eisoes ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans—fe ddigwyddodd hynny dros y misoedd diwethaf. Y peth arall i'w gofio, wrth gwrs, yw bod y lluoedd arfog yn ein cefnogi ni ar hyn o bryd, felly mae hwnnw'n rhywbeth arall a welsom ni sydd wedi bod o gymorth hefyd. Rydym ni wedi gweld nifer ychwanegol o bobl yn ein helpu ni gyda galwadau 111 a galwadau 999, ac rwy'n falch o ddweud bod hynny wedi helpu i atal tua 11 i 15 y cant rhag cael eu cludo, felly mae 11 i 15 y cant yn llai o bobl yn cael eu cludo i ysbytai, yn sgil y gwasanaeth hwnnw.

Rydym ni wedi gweld sefyllfa arbennig o ddifrifol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Ionawr, lle gwelwyd cyfnod trosglwyddo anodd iawn—llawer o ambiwlansys, fel yr ydych chi'n ei awgrymu, yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Cynhaliwyd uwchgynhadledd y bore yma i asesu'r sefyllfa o ran risg, a chafwyd uwchgynhadledd risg i asesu beth yw'r gwir niwed a achosir yma, oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd ar haenau o bob math. Felly, nid ydym ni'n gallu cael pobl o'r ysbyty oherwydd bod y gwasanaeth gofal mor fregus, ac fe fyddwch chi'n clywed mwy am yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw gan fy nghyd-Aelod yn y man. Mae hi'n amlwg ein bod ni wedi rhoi cyllid ychwanegol sy'n sylweddol i'r GIG. Rydym ni'n edrych hefyd ar adolygiad o'r rhestr ddyletswyddau yn dilyn yr adolygiad o'r galw a'r capasiti a gynhaliwyd yn gynharach y llynedd. Felly, mae'r sefyllfa yn un anodd, ac, wrth gwrs, fe geir cyfraddau gweddol fawr o salwch hefyd y mae angen i chi eu hystyried nhw.

Felly, mae'r pethau hyn i gyd yn creu'r storm berffaith hon, ond rydych chi, fel finnau, yn awyddus i gael gwybod am yr atebion yn hytrach na'r problemau. Dyna pam yr ydym ni'n dal ati i wyntyllu a cheisio meddwl am syniadau newydd, ac mae hi'n amlwg eu bod nhw wedi lliniaru'r sefyllfa, ond mae'r gofynion yn parhau i fod yn aruthrol o fawr, felly mae gennym ni gynllun chwe phwynt gofal argyfwng a brys yr ydym ni'n ei ddilyn hefyd. Rhywbeth i'r tymor hwy yw hwnnw, ond, yn amlwg, mae'r sefyllfa yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hi ar hyn o bryd yn un ddyrys.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 3:26, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o ran mabwysiadu dull synhwyrol o lacio cyfyngiadau COVID ar sail y dystiolaeth, oherwydd, fel dywedodd y Gweinidog eisoes, nid yw COVID wedi diflannu ac mae hi'n dal i fod yn anodd iawn rhagweld ei gwrs. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i fod yng Nghymru, fel llawer un arall, drwy gydol y pandemig, lle mae'r rheolau hunanynysu yn parhau. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n llawer mwy synhwyrol i ni lacio'r rheolau o dipyn i beth yn hytrach nag ymagweddu fel Llywodraeth Boris Johnson yn San Steffan, sydd, i bob golwg, yn cael ei harwain nid gan y wyddoniaeth ond gan y polau piniwn? Ac a gaf i ofyn hefyd a oes gan Lywodraeth Cymru amserlen ar gyfer brechu plant pump i 11 oed? Fe wn i fod hwnnw'n rhywbeth y mae fy etholwyr i ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn awyddus iawn i gael mwy o wybodaeth amdano. Diolch.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:27, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Sarah. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni, drwy gydol y pandemig hwn, wedi ceisio dilyn y dull hwnnw sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam y cawsom ni ein syfrdanu ryw gymaint gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU nad oedden nhw wedi, yn amlwg, ei drafod gyda neb, bron â bod, o ran terfynu hunanynysu. Felly, mae hi'n drueni ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa fel hon, ac mae hi'n weddol amlwg mai dyfais yw hon i dynnu sylw oddi wrth y sefyllfa wleidyddol anodd iawn y mae Johnson yn ei chael ei hun ynddi hi ar hyn o bryd.

O ran yr amserlen ar gyfer plant pump i 11 oed, rydym ni'n amlwg yn aros am y cyngor ffurfiol hwnnw gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Nid wyf i'n hollol siŵr beth yw achos yr oedi. Fe wyddom ni ei fod ar gael, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni. Yn amlwg, roeddem ni'n credu y gallai'r cyngor fod ar ei ffordd, felly fe wnaethpwyd llawer iawn o waith paratoi eisoes, ond ni allwn ni fwrw'r maen i'r wal yn derfynol yn hyn o beth nes bod y cyhoeddiad terfynol hwnnw gennym ni oddi wrth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yr ydym ni'n gobeithio ei weld yn fuan iawn.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.